Man on computer HERO (1336 × 560px)

Ofcom yn canfod dros dro fod fforwm hunanladdiad yn torri y Ddeddf Diogelwch Ar-lein

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2026

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei benderfyniad dros dro yn erbyn darparwr fforwm hunanladdiad ar-lein mewn perthynas â thorri’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU. 

Fel mewn diwydiannau eraill, rhaid i gwmnïau sy'n darparu gwasanaeth ar-lein i bobl yn y DU gydymffurfio â chyfreithiau'r DU. Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ymwneud â diogelu pobl yn y DU. Nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i blatfformau gyfyngu ar yr hyn y gall pobl mewn gwledydd eraill ei weld.

Mae annog neu gynorthwyo hunanladdiad yn drosedd yn y DU. Ar ôl ymchwilio gan ddilyn  y broses y mae'n ofynnol i ni ei wneud, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, mae gennym sail resymol i gredu bod darparwr y fforwm hwn wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau:

  • cynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol;
  • defnyddio mesurau cymesur i atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth;
  • defnyddio systemau a phrosesau cymesur i leihau'r cyfnod o amser y mae cynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth yn bresennol;
  • tynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan ddaw'n ymwybodol ohono;
  • nodi yn ei delerau gwasanaeth sut y dylid diogelu unigolion rhag cynnwys anghyfreithlon; ac
  • yn ymwneud â gweithdrefnau adrodd cynnwys a chwynion mewn perthynas â chynnwys anghyfreithlon.

Llynedd, gweithredodd y fforwm 'geobloc' mewn ymateb i'n gweithdrefnau gorfodi yn ei erbyn, i gyfyngu ar fynediad gan bobl sydd â chyfeiriadau IP y DU. Fodd bynnag, ar ôl cyfnod o fonitro'r gwasanaeth, daethom yn pryderu nad oedd y bloc yn effeithiol a/neu nad oedd yn cael ei gynnal yn gyson, a pharhaom a phenderfyniad dros dro o dramgwydd.

Mae gan ddarparwr y fforwm 10 diwrnod gwaith nawr i ymateb i'n canfyddiadau dros dro, a fydd yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol. Mae hyn yn rhan o'r broses gyfreithiol y mae'n rhaid i ni ei dilyn fel rhan o unrhyw ymchwiliad.

Os byddwn yn canfod bod cwmni wedi torri'r gyfraith, gallwn osod dirwy a/neu gyfarwyddiadau i'r cwmni gydymffurfio â'i ddyletswyddau. Yn yr achosion mwyaf difrifol a lle mae diffyg cydymffurfio parhaus, gallwn wneud cais i lys yn ceisio gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd rwystro mynediad i safle yn y DU, a elwir yn 'mesurau tarfu ar fusnes'. Nid oes gan Ofcom na llysoedd y DU y pŵer i 'gau' gwefan yn fyd-eang.

Os na chaiff ein pryderon eu datrys yn llawn, rydym yn barod i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni, gan gynnwys symud yn gyflym i wneud cais am darfu ar fusnes ar ôl i'r cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ar ein penderfyniad dros dro ddod i ben.  

Mewn set gul o achosion – er enghraifft, mewn perthynas â dyletswyddau diogelwch plant penodol – gall methu â chydymffurfio â rhwymedigaethau yn y Ddeddf hefyd arwain at atebolrwydd troseddol. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn nodi na ellir dwyn achos troseddol os yw cosb ariannol eisoes wedi'i gosod neu os yw gorchymyn tarfu ar fusnes wedi'i ganiatáu. Felly, os ydym yn gosod sancsiynau, rhaid i ni naill ai fynd ar drywydd cosbau ariannol a/neu fesurau tarfu ar fusnes, neu achos troseddol os yw'n berthnasol i'r achos.