Mae Ofcom yn cyhoeddi datganiad sy'n nodi newidiadau i'r dogfennau rheoleiddio a'r canllawiau Niwed Anghyfreithlon o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ym mis Rhagfyr 2025, creodd y llywodraeth ddwy drosedd flaenoriaeth newydd o dan y Ddeddf: annog neu gynorthwyo hunan-niweidio difrifol, a seiberfflachio. Mae'r Datganiad hwn yn nodi'r newidiadau i'n dogfennau rheoleiddio a'n canllawiau i adlewyrchu'r newid hwn yn y gyfraith.
Mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniadau i gyfuno'r drosedd o annog neu gynorthwyo hunanladdiad a'r drosedd o annog neu gynorthwyo hunan-niweidio difrifol i mewn i un math o niwed anghyfreithlon, 'hunanladdiad a hunan-niweidio', ac i gynnwys seiberfflachio fel math newydd, ac ar wahân, o niwed anghyfreithlon. O ganlyniad, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig adolygu a diweddaru eu hasesiadau risg cynnwys anghyfreithlon, er mwyn asesu risgiau'r mathau newydd o niwed anghyfreithlon ar eu gwasanaeth. Mae angen i ddarparwyr asesu hunanladdiad a hunan-niweidio a neilltuo un lefel risg gyffredinol ar gyfer 'hunanladdiad a hunan-niweidio', ac asesu risg ar wahân ar gyfer seibrfflachio.
Bydd y diwygiadau i'r Codau yn cael eu gweithredu ar wahân. Yn amodol ar gwblhau'r broses Seneddol, bydd angen i ddarparwyr gymryd y mesurau diogelwch a nodir yn y Codau neu ddefnyddio mesurau effeithiol eraill i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys a gweithgareddau anghyfreithlon. Rydym wedi cyhoeddi fersiynau drafft cyfunol o'r Codau.
Gyda'i gilydd, mae'r diweddariadau hyn yn cryfhau diogelwch i ddefnyddwyr rhag y risgiau o niwed sy'n deillio o hunan-niweidio a seiberfflachio, er enghraifft, trwy ymestyn mesurau diogelwch presennol i fod yn berthnasol i wasanaethau sydd mewn perygl o'r niwed hwn. Mae'r diweddariadau wedi'u cynllunio i wella sut mae gwasanaethau’n nodi, asesu a lliniaru risgiau, a byddant yn cael effaith sylweddol ar ddiogelwch defnyddwyr ar draws ystod o wasanaethau ar-lein.
Rydym hefyd heddiw wedi cyhoeddi fersiynau wedi'u diweddaru o'r canlynol, sydd i'w gweld yma:
- Y canllawiau asesu risg a'r proffiliau risg;
- Y gofrestr risgiau niwed anghyfreithlon;
- Y canllawiau dyfarniadau cynnwys anghyfreithlon; ac
- Y canllawiau cadw ac adolygu cofnodion.
Sylwer, rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i wneud mân welliant i egluro'r testun yn y bennod ar 'Cam-fanteisio'n rhywiol ar oedolion' yn y Gofrestr Risgiau (paragraff 8.49).
Prif ddogfennau
Cynnwys cysylltiedig