HERO check list on laptop

Gwiriadau oedran yn helpu i wneud profiadau ar-lein yn fwy diogel i blant y DU, Ond 'mae mwy o waith i'w wneud' a rhaid i'r diwydiant technoleg weithredu i gryfhau amddiffyniadau

Cyhoeddwyd: 15 Gorffennaf 2026
  • Cynnydd sylweddol yn ystod y misoedd cyntaf ers i'r cyfreithiau ddod i rym, gyda chyfran y plant sy'n dod ar draws gwiriadau oedran hynod effeithiol bron yn dyblu’n gyffredinol
  • 8% o blant yn ceisio cael mynediad at bornograffi; dim ond safleoedd gyda gwiriadau oedran ar waith y cyrhaeddodd hanner o’r plant hyn, tra bod y rhai sy'n ymweld â safleoedd porn heb wiriadau oedran yn aml yn mynd atynt trwy beiriannau chwilio
  • Amheuon difrifol ynglŷn ag addasrwydd dulliau rhesymu oedran (age inference) a ddefnyddir gan rai safleoedd ac apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd ar hyn o bryd
  • Ofcom yn anfon neges glir i'r diwydiant na fydd dulliau rhesymu oedran yn ddigon da i gefnogi’r gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed
  • Ofcom yn disgwyl mwy o arloesedd gan siopau apiau, systemau gweithredu ac ar lefel dyfeisiau, gan sicrhau bod y diwydiant cyfan yn chwarae rhan wrth wella amddiffyniadau i blant

O fewn dim ond blwyddyn, mae gwiriadau oedran yn cael eu defnyddio ar raddfa ddigynsail, gan sicrhau bod y DU ar flaen y gad o ran ymdrechion byd-eang i wneud profiadau ar-lein yn fwy diogel i blant.[1] Ond, wrth i'r DU baratoi i gyflwyno gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc dan 16 oed, mae angen I'r diwydiant technoleg wneud mwy i gryfhau amddiffyniadau i blant ar draws y system.[2]

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom yn datgelu bod gwiriadau oedran bellach yn cael eu defnyddio ar raddfa ddigynsail ar draws y sectorau pornograffi, cyfryngau cymdeithasol, apiau chwilio am gariad a gemau. Mae llawer o wasanaethau'n cymryd camau i sicrhau bod y gwiriadau hyn yn effeithiol yn ymarferol, yn unol â chanllawiau diwydiant Ofcom.

Cynyddodd cyfran y plant y gofynnwyd iddynt brofi eu hoedran a wynebodd wiriadau oedran hynod effeithiol o 25% i 43% rhwng Gorffennaf 2025 ac Ionawr 2026. Mae gan bob un o'r 10 safle porn mwyaf poblogaidd yn y DU a'r mwyafrif o'r 100 o safleoedd porn mwyaf poblogaidd wiriadau oedran ar waith erbyn hyn.[3]

Ymhlith y lleiafrif o blant ar-lein sy'n ceisio cael mynediad at bornograffi (8%), mae presenoldeb gwiriadau oedran yn ataliad effeithiol. [4] Cyrhaeddodd hanner y plant hyn safleoedd gyda gwiriadau oedran. Roedd bron i naw o bob deg o'r ymweliadau plant hyn (87%) â safleoedd porn wedi para llai na 30 eiliad, ac roedd 65% wedi para llai na 10 eiliad.

Goruchwylio gwiriadau oedran

Er gwaethaf y cynnydd sylweddol hwn, mae mwy o waith i'w wneud. Mae angen i'r diwydiant technoleg wneud mwy i wella effeithiolrwydd gwiriadau oedran i ddiogelu plant ar-lein, yn enwedig gyda golwg ar ehangu mesurau sicrwydd oedran arfaethedig y Llywodraeth i gyfyngu ar ddefnydd plant dan 16 oed o gyfryngau cymdeithasol.

Yn benodol, mae adroddiad Ofcom yn nodi diffygion yn y ffordd y mae rhai gwasanaethau wedi rhoi gwiriadau oedran ar waith, yn ogystal â meysydd lle mae angen cydweithredu ac arloesedd pellach gan y diwydiant technoleg ehangach.

Rydym am weld gweithredu yn y pedwar maes canlynol:

  1. Mae llawer gormod o safleoedd porn heb wiriadau oedran ar waith

Mae llawer o safleoedd porn sydd wedi rhoi gwiriadau oedran ar waith wedi profi gostyngiadau sydyn mewn traffig, tra bod rhai heb y gwiriadau hyn yn dod yn fwy poblogaidd. Ymwelodd pedwar y cant o blant a gymerodd ran yn ein hastudiaeth ag o leiaf un gwasanaeth porn heb unrhyw wiriadau oedran ar waith.

Camau gweithredu:

Rhaid i bob gwasanaeth porn heb wiriadau oedran eu cyflwyno ar unwaith, yn unol â'n canllawiau.

Hyd yn hyn, rydym wedi agor 23 o ymchwiliadau i  88 o ddarparwyr gwasanaethau oedolion. Byddwn yn parhau i gymryd camau yn erbyn gwasanaethau sy'n torri’r gyfraith ac yn rhoi plant mewn perygl, gan fanteisio i'r eithaf ar ein pwerau gorfodi.[5]

  1. Plant yn dod o hyd i safleoedd porn heb wiriadau oedran trwy chwilio

Mewn llawer o achosion, mae plant yn gallu dod o hyd i wefannau porn yn hawdd heb wiriadau oedran trwy beiriannau chwilio.[6]

Gwelsom fod 33% o'r canlyniadau a ddychwelwyd ar dudalen gyntaf Google Search a 54% ar Bing [7] yn cyfeirio at safleoedd pornograffi heb wiriadau oedran neu amddiffyniadau eraill. [8]

Camau gweithredu:

Bydd Google a Bing yn gweithio gyda ni fel blaenoriaeth ar atebion ymarferol i fynd i'r afael â’r gallu i ganfod safleoedd porn heb wiriadau oedran trwy eu gwasanaethau.[9]

  1. Amheuon difrifol ynghylch dulliau rhesymu oedran a ddefnyddir gan rai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd

O dan ein Codau Plant, rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol [10] ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i adnabod eu defnyddwyr sy’n blant er mwyn teilwra eu profiad ar-lein a'u hamddiffyn rhag deunydd niweidiol – gan gynnwys cynnwys pornograffi, hunan-niweidio a hunanladdiad. 

Mae rhai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi dewis dibynnu'n bennaf ar ddulliau rhesymu oedran i adnabod defnyddwyr sy’n blant.[11] Mae hyn er gwaethaf y ffaith nad ydynt wedi’u cynnwys yn ein canllawiau fel dulliau sy'n gallu bod yn hynod effeithiol at y diben hwn.

Mae tystiolaeth yn ein hadroddiad yn atgyfnerthu ein hamheuon difrifol hirsefydlog ynghylch  effeithiolrwydd rhai o'r modelau hyn. Mewn rhai achosion, efallai y bydd cwmnïau’n methu â chanfod niferoedd sylweddol o blant ar eu platfformau yn gywir, sy'n golygu bod plant mewn perygl o fod yn agored i gynnwys niweidiol.

Camau gweithredu:

Mae ein neges i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn glir: dylai'r rhai sy'n defnyddio modelau rhesymu oedran i gydymffurfio â'u dyletswyddau diogelu plant newid i ddulliau eraill a restrir yn ein canllawiau fel rhai hynod effeithiol heb oedi. Os nad ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt allu profi i Ofcom, gan ddefnyddio tystiolaeth ddibynadwy a chymhellol, fod eu dull presennol yn hynod effeithiol.

  1. Mae angen gweithredu gwiriadau oedran yn fwy effeithiol, gan gynnwys trwy wasanaethau chwilio am gariad

Er bod gwiriadau oedran ar waith i atal plant rhag cael mynediad, roedd mwy nag un o bob deg o bobl ifanc 15 i 17 oed yn parhau i ymweld a threulio amser ar dri o'r apiau chwilio am gariad mwyaf poblogaidd ym mis Rhagfyr 2025. Roedd hyn yn awgrymu bod angen gwella eu dulliau sicrwydd oedran a'u halinio'n agosach â'n canllawiau.

Camau gweithredu:

Rhaid i bob gwasanaeth perthnasol sicrhau bod eu gwiriadau oedran yn hynod effeithiol. Mae hynny'n golygu dilyn ein canllawiau yn llawn, cynnal diwydrwydd dyladwy rheolaidd ar unrhyw werthwyr trydydd parti y maent yn eu defnyddio i gyflwyno gwiriadau oedran a chydymffurfio â rhwymedigaethau preifatrwydd a diogelu data.

Mae llawer o wasanaethau chwilio am gariad wedi dechrau gwella eu prosesau sicrwydd oedran ar ôl ymgysylltu ag Ofcom. Rydym yn disgwyl iddynt barhau i wneud newidiadau pellach, yn unol â'n canllawiau, gan gynnwys trwy gyflwyno 'her oedran' a 'chanfod bywiogrwydd' (liveness detection).[12]

Camau nesaf ar gyfer defnydd plant dan 16 oed o gyfryngau cymdeithasol

Pan gânt eu gweithredu'n iawn, mae gwiriadau oedran hynod effeithiol yn gweithio, a byddant yn hanfodol wrth ategu cyfyngiadau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol ar gyfer pobl dan 16 oed.

Ond rydym yn glir nad yw dulliau rhesymu oedran presennol cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn ddigonol i atal plant rhag cael mynediad at wasanaeth ar y pwynt mynediad i weithredu gwaharddiad, ac na ellir eu defnyddio i orfodi cyfyngiadau oedran isafswm yn effeithiol. O’r herwydd, rhaid i wefannau ac apiau gryfhau eu dull gweithredu.

Gan adeiladu ar ein canllawiau presennol, bydd Ofcom yn cyflwyno asesiad cyflym i Senedd y DU erbyn diwedd mis Hydref o sut olwg sydd ar wiriadau oedran hynod effeithiol yn ymarferol er mwyn penderfynu a yw rhywun dros 16 oed. Bydd hyn yn helpu i lywio'r ddadl seneddol cyn i gyfyngiadau oedran posibl dod i rym yn 2027.

Dylai'r diwydiant ehangach hefyd fod yn barod i chwarae eu rhan wrth gryfhau amddiffyniadau i blant. Rydym eisoes wedi cymryd gweld camau yn cael eu cymryd, gan gynnwys gan Apple, ac yn disgwyl gweld rhagor o arloesedd pellach gan gynnwys gan siopau apiau, systemau gweithredu ac ar lefel dyfeisiadau.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad statudol am rôl amddiffyniadau ar lefel siop apiau erbyn Ionawr 2027.[13] 

Dywedodd Prif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes: "Mae gwiriadau oedran yn gonglfaen i gyfreithiau diogelwch ar-lein y DU. Pan gânt eu gweithredu'n iawn, mae ein tystiolaeth yn dangos bod gwiriadau oedran yn helpu i greu bywyd mwy diogel ar-lein i blant yn y DU.

"Ond mae mwy o waith i'w wneud ac mae angen i gwmnïau technoleg fynd ymhellach. Mae gormod o wasanaethau heb wiriadau oedran neu wiriadau oedran o gwbl neu â gwiriadau annigonol ar waith, ac nid yw hynny’n ddigon da. A rhaid i beiriannau chwilio weithio gyda ni ar frys i ddatrys y broblem o blant yn dod o hyd i safleoedd porn heb wiriadau oedran  yn rhy hawdd trwy eu tudalennau canlyniadau.

"Wrth i'r DU baratoi ar gyfer cyfyngiadau cyfryngau cymdeithasol newydd pellach yn 16 oed, mae'r dirwedd gwirio oedran eisoes yn symud tuag at ddull cryfach, system gyfan, sy'n bwysig er mwyn osgoi unrhyw bwynt o fethiant. Rydym am weld arloesedd parhaus gan y diwydiant technoleg ehangach i gryfhau amddiffyniadau i blant - gan gynnwys o systemau gweithredu ac ar lefel siop apiau a dyfeisiadau." 


Nodiadau i olygyddion:

  1. Cwblhawyd dros 69 miliwn o wiriadau oedran ar draws sampl fach o 32 o wasanaethau sy'n gweithredu yn y DU rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2025 – cynnydd o 23 gwaith o'i gymharu â'r chwe mis blaenorol.
  2. O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae'n ofynnol i Ofcom gynhyrchu a chyhoeddi adroddiad sy'n asesu sut mae gwasanaethau ar-lein wedi defnyddio gwiriadau oedran a pha mor effeithiol y mae wedi bod. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar sicrwydd oedran hynod effeithiol i benderfynu a yw defnyddiwr dros 18 oed, yn unol â dyletswyddau sicrwydd oedran presennol o dan y Ddeddf. Mae ein canfyddiadau’n seiliedig yn bennaf ar dystiolaeth o'r chwe mis cyntaf o ddyletswyddau diogelu plant yn dod i rym ym mis Gorffennaf 2025.
  3. Mae 64 allan o'r 100 gwasanaeth pornograffi mwyaf poblogaidd yn y DU wedi defnyddio sicrwydd oedran ym mis Mehefin 2026, gyda 10 gwasanaeth pellach wedi’i geo-blocio i ddefnyddwyr yn y DU.
  4. Er bod 8% o blant 8 i 14 oed a gymerodd ran yn ein hastudiaeth Monitro Defnydd Goddefol Plant Ar-lein wedi ymweld â gwasanaethau pornograffi, dim ond safleoedd gyda gwiriadau oedran ar waith yr ymwelodd hanner y plant hyn â nhw . Roedd bron i naw allan o 10 o ymweliad (87%) â gwasanaethau pornograffi am lai na 30 eiliad, ac roedd 65% am lai na 10 eiliad. Mae nifer yr ymweliadau a hyd byr yr ymweliad yn awgrymu bod llawer o gyfranogwyr yn symud yn gyflym rhwng safleoedd, trwy ymweliadau byr, dros dro - o bosibl i chwilio am safle y gallent gael mynediad iddynt heb wiriad oedran.
  5. Mae gorfodi yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Ofcom. Rydym yn dadansoddi miloedd o wasanaethau oedolion sy'n weithredol yn y DU i ddeall mudo defnyddwyr a phoblogrwydd y gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau sy'n dod i'r amlwg gyda phoblogrwydd cynyddol. Rydym yn nodi gwasanaethau nad ydynt yn cydymffurfio ac yn cymryd camau priodol. Hyd yn hyn, rydym wedi agor 23 o ymchwiliad i ddarparwyr 88 o wasanaethau i oedolion, gan arwain at y rhan fwyaf o’r gwasanaethau (73%) naill ai'n gweithredu sicrwydd oedran neu'n rhwystro defnyddwyr y DU. Rydym wedi dirwyo 7 darparwr o 24 o safleoedd hyd yn hyn – 8579 LLC (£1.35m), AVS Group Ltd (£1m), Kick Online Entertainment S.A. (£800k), darparwr Fapello (£630k), Youngtek Solutions Ltd (£500k), First Time Videos LLC (£80k) ac Itai Tech Ltd (£50k). Mae gorfodi wedi blaenoriaethu camau gweithredu yn erbyn darparwyr yn seiliedig ar y risg o niwed a achosir gan y gwasanaethau, gan gynnwys canolbwyntio ar wasanaethau sy'n cynyddu nifer eu defnyddwyr o ganlyniad i fethu â rhoi gwiriadau oedran ar waith. O ran penderfynu sut i gyfrifo lefel cosb mewn achosion lle rydym yn canfod toriad, rydym yn ystyried (ymhlith ffactorau eraill) difrifoldeb a hyd y diffyg cydymffurfio a'r graddau y maent wedi elwa’n fasnachol o'r toriad.
  6. Defnyddiodd chwe deg dau y cant o blant a ymwelodd â gwasanaethau pornograffig yn ein hastudiaeth beiriant chwilio yn syth cyn ymweld â gwasanaethau pornograffi, o leiaf unwaith.
  7. Yn seiliedig ar ddadansoddiad a oedd yn anelu at efelychu profiad defnyddwyr sydd wedi allgofnodi.
  8. Byddai 'amddiffyniadau eraill' yn cynnwys lle mae geo-bloc sy'n atal mynediad defnyddwyr y DU ar waith.
  9. Nid yw'n ofynnol o dan y Ddeddf i wasanaethau chwilio ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal mynediad at gynnwys pornograffig gan blant.
  10. Y rhai nad ydynt yn gwahardd cynnwys niweidiol, a'r rhai sydd mewn mwy o berygl o gael ei rannu ar eu gwasanaeth.
  11. Mae dulliau rhesymu oedran yn cynnwys dadansoddi gweithgaredd ac ymddygiad defnyddiwr ar blatfform i amcangyfrif a ydynt yn blentyn neu'n oedolyn.
  12. Dull her oedran yw lle mae'n rhaid i ddefnyddiwr yr amcangyfrifir ei fod o dan oedran penodol fynd trwy ail gam sicrwydd oedran. Mae canfod bywiogrwydd yn lleihau'r risg o blant yn defnyddio delweddau llonydd o oedolion neu fideos wedi'u recordio ymlaen llaw i osgoi gwiriadau oedran.
  13. Bydd yr adroddiad hwn yn asesu pa rôl y mae siopau apiau yn ei chwarae mewn plant sy'n dod ar draws cynnwys niweidiol, i ba raddau y mae darparwyr siopau apiau yn defnyddio sicrwydd oedran a pha mor effeithiol ydyw ac a fyddai diogelwch plant ar-lein yn cael ei wella pe bai mwy o ddefnydd o sicrwydd oedran neu fathau penodol o sicrwydd oedran gan ddarparwyr siopau apiau, neu drwy fesurau eraill. Byddai unrhyw newidiadau i'r gyfraith yn y maes hwn yn fater i’r Llywodraeth a'r Senedd yn y pen draw.
  14. Ewch i wefan Ofcom i gael rhagor o ddata ar brofiadau o sicrwydd oedran, defnyddio VPN, ac agweddau tuag at fesurau Diogelu Plant.