
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £500,000 i'r darparwr pornograffi Youngtek Solutions Ltd, am beidio â chael gwiriadau oedran ar waith, ynghyd â £100,000 am fethu ag ymateb i gais ffurfiol am wybodaeth gan y rheoleiddiwr.
O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, rhaid i safleoedd sy'n caniatáu deunydd pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad at y cynnwys yn hawdd.
Canfu ein hymchwiliad, rhwng 25 Gorffennaf 2025 i 22 Medi 2025, fod Youngtek Solutions - sy'n rhedeg pedwar o safleoedd oedolion - wedi methu â chydymffurfio â'r dyletswyddau hyn. O ganlyniad, mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £500,000, a fydd yn cael ei throsglwyddo ymlaen i Drysorlys EM.
Ers hynny, mae'r cwmni wedi gweithredu dull sicrwydd oedran ar bob safle a oedd yn destun i’n hymchwiliad. Byddwn yn parhau i fonitro'r safleoedd hyn er mwyn sicrhau bod eu dulliau gwirio oedran yn hynod effeithiol wrth atal plant rhag cael mynediad at gynnwys pornograffig.
Anwybyddu ceisiadau am wybodaeth sy'n gyfreithiol rhwymol
Mae casglu’r wybodaeth gywir gan gwmnïau yn hanfodol i'n gwaith o wneud bywyd yn fwy diogel ar-lein i bobl yn y DU. Gall y ceisiadau hyn ein helpu i asesu a monitro cydymffurfiaeth y diwydiant â'u dyletswyddau diogelwch, ac mae'n ofynnol i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb mewn ffordd sy’n gywir, gyflawn ac amserol.
Yn ystod ein hymchwiliad, cyhoeddom gais ffurfiol am wybodaeth i Youngtek Solutions. Er i’r cwmni ddarparu’r wybodaeth i ni yn y pen draw, dim ond ar ôl i'r dyddiad cau fynd heibio y gwnaeth hyn. O ganlyniad, rydym wedi rhoi dirwy o £100,000 ychwanegol i Youngtek Solutions.
Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Rhaid i wefannau oedolion ddefnyddio gwiriadau oedran cadarn i ddiogelu plant yn y DU rhag porn ar-lein, ac rydym wedi dangos y byddwn yn defnyddio cwmpas llawn ein pwerau gorfodi i sicrhau'r canlyniad hwn. Gall unrhyw gwmni sy'n methu â chydymffurfio – neu’n methu dyddiadau cau pwysig pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth - ddisgwyl talu'r pris."
Nodiadau i olygyddion
- Os yw darparwr yn methu â thalu dirwy, gall Ofcom geisio adennill y cosbau hynny. Lle bo’n briodol, gallwn hefyd geisio gorchymyn llys ar gyfer 'mesurau tarfu ar fusnes', fel ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr talu neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd rwystro safle yn y DU.
- Ar wahân, rydym heddiw yn ehangu cwmpas ein hymchwiliad presennol i Reply Buzzer, i gynnwys ystyriaeth os yw wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â gofynion hysbysiad gwybodaeth o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.