Ar agor
Aylo Freesites Ltd
22 Medi 2026
Rydym yn ymchwilio i weld a yw Aylo wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i atal plant o unrhyw oedran rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar ei wasanaeth trwy ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol, a'i ddyletswyddau sy'n ymwneud ag asesiadau mynediad plant.
Adrannau 12 a 36 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023
Cefndir
Mae adran 36 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf') yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig gynnal 'asesiadau mynediad plant', er mwyn penderfynu a yw’n debygol y bydd plant yn defnyddio eu gwasanaeth. Rhaid i asesiadau mynediad plant fod yn addas ac yn ddigonol, a rhaid i ddarparwyr gynnal asesiad yn yr amgylchiadau ac o fewn y fframweithiau amser a nodir yn y Ddeddf, gan gynnwys cyn gwneud unrhyw newid sylweddol i ddyluniad neu weithrediad y gwasanaeth, neu wrth ymateb i dystiolaeth bod effeithiolrwydd y broses sicrwydd oedran a ddefnyddir ar y gwasanaeth ddim yn ddigonol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein Canllawiau ar Asesiadau Mynediad i Blant.
Daeth y ddyletswydd i gynnal asesiad mynediad plant i rym ar 16 Ebrill 2025.
Pan fo’n debygol y bydd plant yn ceisio mynediad i wasanaeth, , mae'r dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoledig yn Adran 12 o'r Ddeddf yn berthnasol. Mae'r dyletswyddau hyn yn cynnwys y gofyniad i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant o unrhyw oedran rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy'r gwasanaeth. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar sicrwydd oedran hynod effeithiol ar gyfer darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr.
Daeth y ddyletswydd i weithredu sicrwydd oedran hynod effeithiol ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr i rym ar 25 Gorffennaf 2025.
Mae Ofcom wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy'n nodi'r hyn sydd gyfystyr â sicrwydd oedran hynod effeithiol, mae’r rhain ar gael yma. Mae paragraff 3.6 o'n canllawiau yn nodi, "waeth ble mae'r sicrwydd oedran yn digwydd yn yr ecosystem neu a yw'n cael ei gweithredu gan y darparwr gwasanaeth neu gan drydydd parti, cyfrifoldeb y darparwr gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr rheoleiddiedig yw sicrhau bod sicrwydd oedran hynod effeithiol ar waith wrth benderfynu a yw defnyddiwr yn blentyn ai peidio".
Mae ein canllawiau hefyd yn glir, os bydd gwasanaethau yn dewis defnyddio sicrwydd oedran ehangach ar lefel system, rhaid iddynt sicrhau bod y gwiriad oedran cychwynnol a'r broses i rannu'r wybodaeth gyda'r gwasanaeth rheoleiddiedig (e.e. trwy docynnau oedran) yn hynod effeithiol.
Ymchwiliad
Ar 22 Medi 2026, o dan ein rhaglen gorfodi i ddiogelu plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig drwy ddefnyddio dulliau sicrwydd oedran, gwnaethom agor ymchwiliad i Aylo Freesites Ltd ('Aylo') mewn perthynas â'i wasanaeth oedolion, Pornhub.
Rydym yn pryderu efallai na wnaeth Aylo gynnal digon o ddiwydrwydd dyladwy a phrofion cyn gweithredu proses newydd ar gyfer sicrwydd oedran ar Pornhub ym mis Mai 2026. O ganlyniad, rydym yn pryderu efallai nad yw’r broses sicrwydd oedran y mae Aylo wedi'i gweithredu yn hynod effeithiol wrth benderfynu’n gywir a yw defnyddiwr penodol yn blentyn ai peidio; ac felly, mae risg y gall plant ddod ar draws cynnwys pornograffig drwy’r gwasanaeth.
Mae'r broses yn dibynnu ar signalau gan drydydd parti (Apple) sy'n awgrymu bod defnyddwyr iOS / iPadOS yn y DU sy'n ceisio cael mynediad at Pornhub efallai wedi cwblhau gwiriadau oedran Apple. Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio sut y gwnaeth Aylo integreiddio'r signalau hyn fel rhan o broses sicrwydd oedran, ac a wnaeth y cwmni gynnal y diwydrwydd dyladwy a'r profion angenrheidiol cyn mabwysiadu'r broses hon. O ystyried bod y dyletswyddau perthnasol o dan y Ddeddf yn berthnasol i'r darparwr gwasanaeth, bydd yr ymchwiliad hwn yn ystyried sut mae Aylo yn gweithredu ei broses sicrwydd oedran ac ni fydd yn gwneud penderfyniad ynghylch sut mae Apple yn gweithredu ei wiriadau oedran.
Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol dros gredu bod y darparwr wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 12 o'r Ddeddf, sef atal plant o unrhyw oedran rhag dod ar draws cynnwys pornograffig trwy ddefnyddio mesurau sicrwydd oedran hynod effeithiol.
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn archwilio a yw Aylo wedi methu, neu'n methu, â chydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan adran 36 o'r Ddeddf sy'n ymwneud ag asesiadau mynediad plant.
Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd ati i orfodi’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a'r camau gweithdrefnol y mae'n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu canlyniad yr ymchwiliad yn deg.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad maes o law.
CW/01358/09/26