An abstract image of hands typing on a keyboard

Mae Ofcom yn ymchwilio i 34 o safleoedd porn o dan reolau gwirio oedran newydd

Cyhoeddwyd: 31 Gorffennaf 2025

Mae Ofcom wedi lansio ymchwiliadau i gydymffurfiaeth pedwar cwmni - sydd gyda'i gilydd yn rhedeg 34 o safleoedd porn - â gofynion gwirio oedran newydd o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU. 

Dyletswyddau newydd

Ar 25 Gorffennaf, daeth rheolau newydd o dan y Ddeddf i rym yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho deunydd pornograffig ddefnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i atal plant rhag cael mynediad i'r cynnwys hwnnw. Cyn y dyddiad cau hwn, ymrwymodd miloedd o safleoedd i wneud hyn, yn hytrach na chyfyngu ar fynediad yn y DU.

Ers hynny, rydym wedi bod yn gwirio cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau newydd hyn.

Ymchwiliadau newydd

Rydym wedi agor ymchwiliadau ffurfiol i weld a oes gan y darparwyr canlynol wiriadau oedran hynod effeithiol ar waith i amddiffyn plant rhag dod ar draws pornograffi ar draws 34 gwefan: 8579 LLC, AVS Group Ltd, Kick Online Entertainment S.A. a Trendio Ltd

Mae'r cwmnïau hyn wedi cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar y risg o niwed a achosir gan y gwasanaethau y maent y neu weithredu a nifer eu defnyddwyr. Gyda'i gilydd, mae gan y gwefannau hyn dros 9 miliwn o ymwelwyr misol unigryw yn y DU. 

Mae'r achosion newydd hyn yn ychwanegu at 11 ymchwiliad Ofcom  sydd eisoes ar y gweill i 4chan, fforwm hunanladdiad ar-lein, saith gwasanaeth rhannu ffeiliau, First Time Videos LLC ac Itai Tech Ltd. Rydym yn disgwyl gwneud rhagor o gyhoeddiadau gorfodi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Beth sy'n digwydd nesaf

Byddwn nawr yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes unrhyw achosion o dorri rheolau wedi digwydd. Os yw ein hasesiad yn nodi methiannau cydymffurfio, byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau dros dro o dorri i ddarparwyr, a all wedyn wneud sylwadau ar ein canfyddiadau, cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.

Byddwn yn rhoi diweddariadau ar yr ymchwiliadau hyn cyn gynted â phosibl.

What happens when we investigate a programme_Typical OS investigation programme process CYM

Pwerau gorfodi

Pan fyddwn yn nodi methiannau cydymffurfio, gallwn ei gwneud yn ofynnol i lwyfannau gymryd camau penodol i gydymffurfio. Gallwn hefyd osod dirwyon o hyd at £18m neu 10% o refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sy'n fwyaf.

Lle bo hynny'n briodol, yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn geisio gorchymyn llys ar gyfer 'mesurau tarfu ar fusnes', megis ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr taliadau neu hysbysebwyr dynnu eu gwasanaethau yn ôl o blatfform, neu ei gwneud yn ofynnol i Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd rwystro mynediad i’w safle yn y DU.


DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  1. Ffynhonnell: SimilarWeb, data Mehefin 2025. Gall defnyddwyr gael eu dyblygu ar draws safleoedd.