Man broadband HERO 08.04.26

Datrysiadau cwynion cyflymach a mwy o arian yn eich poced pan fydd pethau'n mynd o'i le

Cyhoeddwyd: 8 Ebrill 2026

O heddiw ymlaen, gall cwsmeriaid telathrebu bellach uwch gyfeirio unrhyw gŵyn heb ei ddatrys i gynllun datrys anghydfodau annibynnol yn gynt, o dan reolau cryfach Ofcom.  

Mae cynlluniau Datrys Anghydfodau Amgen (ADR) yn gyrff annibynnol sy'n cynnal asesiadau diduedd o gŵynion heb eu datrys rhwng cwsmer a'u darparwr cyfathrebu. Mae'r broses hon wedi'i chynllunio i helpu bob cwyn i gael eu trin yn deg ac effeithiol, ac yn grymuso defnyddwyr yn eu perthynas â'u darparwr.

Rydym wedi penderfynu lleihau'r amserlen cyn y gall defnyddwyr gael mynediad at ADR o wyth wythnos i chwech. Mae'r newid hwn yn arwain y ffordd i helpu defnyddwyr i ddatrys eu cwynion yn gyflymach. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

Taliadau iawndal awtomatig yn cynyddu gyda chwyddiant

Mae ein cynllun iawndal awtomatig, y mae llawer o'r darparwyr mwyaf wedi'u cofrestru iddo, yn golygu bod cwsmeriaid band eang a llinell dir yn cael arian yn ôl pan fydd pethau'n mynd o'i le, heb orfod gofyn amdano.

O 1 Ebrill 2026, mae'r swm y mae'n rhaid i ddarparwyr ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid os ydynt yn profi oedi gydag atgyweiriadau, apwyntiadau wedi'u colli, neu oedi i ddechrau gwasanaeth newydd, wedi cynyddu yn unol â chwyddiant. Bydd cwsmeriaid nawr yn cael:

  • Oedi wrth atgyweirio ar ôl colli gwasanaeth: £10.34 y dydd
  • Apwyntiad a gollwyd: £32.31
  • Oedi gyda dechrau gwasanaeth newydd: £6.46 y dydd

Am fanylion llawn am eich hawliau o dan y cynllun a'r darparwyr sydd wedi cofrestru iddo, edrychwch ar ein canllaw defnyddiol.

Pum awgrym er mwyn arbed arian ar eich gwasanaeth ffôn a band eang heddiw

Gyda llawer o gyllid cartrefi yn cael eu gwasgu oherwydd costau byw cynyddol, rydym yma i helpu i esbonio sut y gallwch arbed arian ar eich biliau telathrebu heddiw.

Dyma bum peth y gallwch eu gwirio i wneud yn siŵr nad ydych chi'n colli allan ar arbedion.

1. Ydych chi mewn neu allan o gontract?

Mae miliynau o bobl yn y DU allan o gontract ar gyfer eu gwasanaethau ffôn, band eang neu deledu-drwy-dalu a gallent fod yn colli allan ar fargeinion gwell. Gwiriwch gyda'ch darparwr i wneud yn siŵr nad ydych chi'n un ohonynt.

Os ydych chi allan o gontract, mae'n debyg eich bod chi'n talu gormod ac mae'n bryd gweld a oes bargeinion gwell ar gael. Edrychwch ar wefannau cymharu sydd wedi'u hachredu gan Ofcom i weld beth sydd ar gael. Siaradwch â'ch darparwr presennol i weld a fyddant yn cyfateb neu'n hyd yn oed yn curo'r fargen orau sydd ar gael. Os na, ystyriwch newid darparwr. I gael gwybod mwy, gweler ein canllaw ar newid darparwr.

2. Ydych chi'n gymwys i gael tariff cymdeithasol?

Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu fudd-daliadau eraill, efallai y byddwch yn gymwys i gael bargen band eang rhatach. Mae'r pecynnau yn dechrau o £12.50 y mis.

Os yw'ch darparwr presennol yn cynnig tariff cymdeithasol a'ch bod yn gymwys, gallwch newid ato ar unrhyw adeg, am ddim.

I gael gwybod mwy am yr ystod o dariffau cymdeithasol sydd ar gael ac i weld a allwch fod yn gymwys, edrychwch ar ein canllaw.

3. Allech chi arbed gan ddefnyddio tariff SIM yn unig?

Os ydych chi'n edrych i arbed arian ar eich ffôn symudol, edrychwch ar y cynigion sydd ar gael ar dariffau SIM yn unig. Os oes gennych ffôn symudol eisoes a dim ond eisiau lwfans misol o alwadau, negeseuon testun a data, gallai hwn fod yr opsiwn gorau i chi. Maent yn aml yn rhatach na chontract gyda ffôn symudol cynhwysol, ac mae llawer o dariffau'n costio llai na £10 y mis.

Os nad oes gennych chi ffôn symudol eisoes, fel arfer mae'n dal yn rhatach prynu ffôn symudol ar wahân a'i ddefnyddio gyda chynllun SIM yn unig. Fodd bynnag, gall taliad untro am ffôn symudol gostio swm sylweddol o hyd ac efallai na fydd yn fforddiadwy i bawb.

4. Allech chi arbed ar fand eang gyda bwndel?

Os oes angen gwasanaeth llinell dir arnoch hefyd, gallwch arbed arian trwy gael eich band eang a'ch ffôn fel rhan o fargen bwndel. Datgelodd ein hymchwil ddiweddar  y gallech arbed cymaint â 37% trwy fwndelu'r gwasanaethau hyn gyda'r un darparwr. Gwiriwch gyda'ch darparwr i weld pa becynnau maen nhw'n eu cynnig ac a yw'r rhain yn addas i'ch anghenion.

Os nad oes angen llinell dir arnoch a'ch bod chi'n chwilio am becyn band eang annibynnol, mae'n werth edrych ar ddarparwyr llai hefyd, gyda phecynnau ar gael rhwng £25 a £50 y mis.

5. Ydych chi'n defnyddio'ch holl danysgrifiadau teledu talu?

Mae'n hawdd cofrestru i ystod o wasanaethau teledu-drwy-dalu a ffrydio gyda chymaint o gynnwys gwych ar gael - ac mae gan lawer o gartrefi danysgrifiadau lluosog.

Ond os ydych chi'n ceisio arbed arian, mae'n werth meddwl am faint rydych chi'n defnyddio'r gwasanaethau hyn ac a fyddech chi'n colli allan pe baech chi'n eu canslo.

Gellir canslo llawer o wasanaethau ffrydio - neu oedi - ar unwaith heb orfod talu unrhyw fath o gosb, felly gallai fod yn ddefnyddiol hyd yn oed fel mesur dros dro.