Scam calls HERO 211026

Dirwy o £437,500 i ddarparwr telathrebu am fethu ag atal sgamwyr rhag camddefnyddio ei rifau ffôn

Cyhoeddwyd: 21 Hydref 2026

Heddiw, mae Ofcom wedi dirwyo’r darparwr telathrebu, Tismi, am fethu â chymryd camau priodol a chymesur i sicrhau nad oedd rhifau ffôn a ddyrannwyd yn cael eu camddefnyddio, gan gynnwys at ddibenion sgamiau.

Mae Ofcom yn dyrannu rhifau ffôn, fel arfer mewn blociau mawr, i ddarparwyr telathrebu. Yna gallant drosglwyddo'r rhifau i unigolion neu fusnesau.

Yn unol â chanllawiau’r diwydiant a rheolau Ofcom am rifau ffôn, sydd wedi’u dylunio i ddiogelu defnyddwyr, mae’n rhaid i gwmnïau ffôn gymryd camau priodol i sicrhau nad yw'r rhifau rydyn ni’n eu dyrannu iddynt yn cael eu camddefnyddio gan fusnesau neu unigolion y cânt eu trosglwyddo iddynt. Gallai camddefnyddio rhifau, er enghraifft, gynnwys eu defnyddio i hwyluso galwadau a negeseuon testun sgam.

Er mwyn i gwmnïau ffôn fynd i'r afael â’r broblem o gamddefnyddio rhifau, rydym yn disgwyl iddynt, ymhlith pethau eraill, gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy 'adnabod eich cwsmer' ar eu cwsmeriaid busnes i atal sgamwyr rhag cael mynediad at rifau dilys yn y lle cyntaf. Yn ogystal, dylent adolygu’n barhaus lefel y risg y mae cwsmer busnes yn ei beri, trwy fonitro ar gyfer achosion posibl o gamddefnyddio rhifau ac ymateb yn briodol i unrhyw ddigwyddiadau o gamddefnyddio a adroddir iddynt.

Beth wnaeth ein hymchwiliad ei ddarganfod

Rydym wedi canfod nad oedd gan Tismi unrhyw fesurau priodol neu gymesur ar waith i atal camddefnyddio rhifau a ddyrannwyd iddynt rhwng Tachwedd 2022 a Ionawr 2025 o leiaf. O ganlyniad, roedd y cwmni yn gyfrifol am adael i oddeutu 366,000 o rifau a ddyrannwyd fod yn agored i gamddefnydd posibl, ac felly, i nifer sylweddol o ddefnyddwyr ddioddef niwed, a hynny am dros ddwy flynedd. Wrth wneud hynny, methodd Tismi hefyd â bodloni'r disgwyliadau a nodir yn ein Canllaw Arfer Da.  

Yn benodol, datgelodd ein hymchwiliad fod Tismi wedi;

  • is-ddyrannu rhifau i'w gwsmeriaid heb gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy priodol i sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o'r rhifau hynny a'u hatal rhag cael eu camddefnyddio, gan gynnwys ar gyfer cyflawni sgamiau;
  • methu â monitro a oedd y rhifau a oedd wedi cael eu his-ddyrannu yn cael eu camddefnyddio, ac nid oedd ganddynt y systemau a'r prosesau priodol ar waith i nodi a mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio;
  • methu â rhoi proses ddogfennol ffurfiol ar waith i ymdrin ag adroddiadau o gamddefnydd. [1]

Yn ystod ein hymchwiliad, gwnaethom gyhoeddi cyfarwyddyd i Tismi rwystro rhai rhifau ym mis Mehefin 2025, er mwyn eu hatal rhag cael eu defnyddio ymhellach gan sgamwyr. Gwnaeth Tismi roi’r bloc hwn ar waith.

Cosb ariannol

O ganlyniad i fethiannau difrifol Tismi, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £437,500 i'r cwmni[2], a fydd yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys EM.

Fel rhan o'n penderfyniad, rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Tismi gymryd camau pellach i ddangos tystiolaeth ei fod yn cydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys darparu manylion am ei broses diwydrwydd dyladwy a'i waith monitro parhaus, a'i ymateb i adroddiadau o achosion o gamddefnyddio, yn unol â'i bolisïau a'i brosesau newydd.

Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Does dim esgus i ddarparwyr cyfathrebu fethu â rhoi'r gwiriadau a rheolaethau priodol ar waith i ddiogelu rhifau rhag cael eu camddefnyddio. Heddiw, rydym yn anfon neges glir i'r diwydiant y bydd unrhyw gwmni sy'n rhoi cwsmeriaid ar drugaredd sgamwyr yn wynebu'r canlyniadau."

Agor ymchwiliad newydd

Mae Ofcom hefyd wedi agor ymchwiliad newydd i Xtra Phones UK, yn ymwneud â phryderon bod rhifau ffôn a ddelir gan y cwmni hwn yn cael eu camddefnyddio.

Mae'r ymchwiliad hwn yn dod o dan ein rhaglen gorfodi sy'n edrych yn benodol ar sgamiau ffôn a thestunau. Nod y rhaglen hon yw diogelu cwsmeriaid trwy gefnogi arfer gorau wrth ddefnyddio rhifau ffôn a sicrhau bod darparwyr yn dilyn rheolau Ofcom.

Ar eich ochr chi

Yn ddiweddar, mae Ofcom wedi lansio Hwb Defnyddwyr ar-lein newydd, cwbl ddwyieithog – Hwb Defnyddwyr: Ar eich ochr chi sy'n  cynnig cyfoeth o awgrymiadau, gan gynnwys sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau, ynghyd â chyngor ar arbed arian, help gyda phroblemau gwasanaeth cyffredin a llwybrau i gwyno.


Nodiadau i olygyddion

  1. Amodau Cyffredinol B1.6, B1.8 a B1.9(c)
  2. Mae'r gosb yn cynnwys gostyngiad o 30%, gan fod Tismi wedi cyfaddef ei fod ar fai.
  3. Er mwyn diogelu uniondeb ymchwiliadau parhaus eraill, ni fydd fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach.