Galwadau, negeseuon testun a negeseuon sgam

Cyhoeddwyd: 15 Gorffennaf 2026

Mae sgamwyr yn defnyddio galwadau, negeseuon testun a negeseuon eraill i geisio dwyn arian neu wybodaeth bersonol. Yn aml, maen nhw’n esgus eu bod yn gweithio i fanc, cwmni dosbarthu, corff llywodraeth neu hyd yn oed Ofcom, a gallant wneud i’r cyswllt edrych yn ddilys trwy ffugio rhifau ffôn neu enwau anfonwyr.

Mae Ofcom yn gweithio gyda chwmnïau ffôn, y Llywodraeth ac asiantaethau eraill i rwystro sgamiau a chymryd camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol. Mae'r dudalen hon yn eich helpu i adnabod sgamiau, diogelu’ch hun a rhoi gwybod am y sgamiau.

Deall a delio â chyfathrebiadau sgam

Bydd ein canllawiau yn eich helpu i adnabod a diogelu’ch hun rhag sgamiau a chyfathrebiadau digroeso, rhoi gwybod am broblemau, a chael cymorth os ydych wedi cael eich effeithio.