Ar agor
British Telecommunications PLC (BT)
29 Ebrill 2026
Rydym yn ymchwilio i weld a yw BT wedi methu â chydymffurfio â'n gofynion yn ei ymateb i geisiadau am wybodaeth a gyhoeddwyd gan Ofcom i endidau BT o dan adran 137A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Adran 137A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i British Telecommunications PLC ("BT"). Mae'r ymchwiliad yn ymwneud â chydymffurfiaeth BT â gofynion a osodwyd o dan hysbysiadau cais am wybodaeth (yr "Hysbysiadau"), a gyhoeddwyd o dan adran 137A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (y "Ddeddf"). Mae'r ymchwiliad yn ymwneud â gwybodaeth a ddarparwyd gan endidau BT, EE Limited ("EE") a Plusnet Plc ("Plusnet").
Ar 7 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd Ofcom hysbysiad ffurfiol i EE a Plusnet o dan adran 137A o'r Ddeddf, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i alluogi Ofcom i gyflawni ei swyddogaethau statudol i hyrwyddo buddiannau defnyddwyr mewn materion cyfathrebu ac i lywio Adroddiad Cymharu Gwasanaeth Cwsmeriaid 2025 Ofcom. Gofynnodd yr hysbysiad hwn am ystod o ddata yn ynghylch phrofiad cwsmeriaid sydd wedi ymrwymo i gytundeb neu wedi gosod archeb ar gyfer gwasanaethau Llais Sefydlog a/neu Fand Eang Sefydlog.
Ymchwiliad
Mae ceisiadau am wybodaeth statudol gan Ofcom yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith Ofcom ac mae'r wybodaeth a gesglir o'r ceisiadau hyn yn llywio sut mae Ofcom yn cyflawni ei swyddogaethau statudol fel rheoleiddiwr. Felly, mae'n hanfodol bod rhanddeiliaid yn darparu gwybodaeth gywir a chyflawn mewn modd amserol. Pan fo gan Ofcom sail resymol dros gredu bod torri gofyniad a osodwyd o dan adran 137A o'r Ddeddf wedi digwydd neu'n digwydd, gall Ofcom gymryd camau gorfodi o dan adran 138 o'r Ddeddf.
Mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu efallai na fydd ymatebion rhai endidau BT wedi cydymffurfio â gofynion penodol a osodwyd o dan adran 137A, gan nad oedd rhywfaint o'r wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i'r Hysbysiadau o bosibl yn gyflawn a/neu'n gywir. Bydd ymchwiliad Ofcom yn archwilio a oes sail resymol dros gredu bod BT wedi methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau statudol mewn perthynas â cheisiadau am wybodaeth Ofcom.
Byddwn yn casglu rhagor o wybodaeth ac yn cyhoeddi diweddariad i'n hymchwiliad maes o law.
Tîm Gorfodi enforcement@ofcom.org.uk
CW/01337/03/26