HERO Latest telecoms and pay-TV complaints revealed - Q4 2025

Datgelu cwynion diweddaraf am delathrebu a theledu-drwy-dalu - Q4 2025

Cyhoeddwyd: 11 Mai 2026

Heddiw rydym wedi cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer cwynion a dderbyniwyd gennym am brif ddarparwyr llinell dir, band eang, ffonau symudol a theledu-drwy-dalu’r DU.

Mae'r ffigurau hyn yn cwmpasu chwarter olaf 2025, o fis Hydref i fis Rhagfyr, ac yn dangos cynnydd ar y chwarter blaenorol am y tro cyntaf ers 2023.

Gostyngodd nifer y cwynion am wasanaethau band eang a llinell dir, tra arhosodd cwynion am deledu-drwy-dalu yr un fath. 

Fodd bynnag, cynyddodd cwynion am wasanaethau ffonau symudol, a ddilynodd y cyhoeddiad am gynnydd prisiau canol contract gan rai darparwyr symudol, gan gynnwys O2.

Prif ganfyddiadau:  

  • TalkTalk a Vodafone oedd y darparwyr band eang y cwynwyd amdanynt fwyaf. Gwelodd Vodafone gynnydd mewn cwynion ar y chwarter blaenorol, tra arhosodd ffigurau cwynion TalkTalk yn statig. 
  • Y darparwyr band eang y cwynwyd amdanynt leiaf oedd Plusnet a Virgin Media.
  • BT, EE, NOW Broadband, Plusnet a TalkTalk oedd y darparwyr llinell dir y cwynwyd amdanynt fwyaf. Arhosodd BT, EE a Plusnet yn statig, gwelodd NOW Broadband gynnydd, a gwelodd TalkTalk ostyngiad mewn cwynion.
  • Utility Warehouse oedd y darparwr llinell dir a gwynwyd lleiaf amdano.
  • O2 oedd y darparwr ffonau symudol a gynhyrchodd y mwyaf o gŵynion, gyda chwsmeriaid yn cwyno’n bennaf am faterion sy'n ymwneud â chytundebau.
  • EE, Tesco Mobile a Three oedd y darparwyr ffonau symudol a gwynwyd lleiaf amdanynt.
  • EE cynhyrchodd y mwyaf o gwynion teledu-drwy-dalu.
  • Sky, TalkTalk a Virgin Media oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu a gwynwyd lleiaf amdanynt.

Wrth wneud sylwadau ar y ffigurau diweddaraf, dywedodd, Cristina Luna-Esteban, Cyfarwyddwr Defnyddwyr a Marchnadoedd Manwerthu Ofcom: “Mae'n siomedig gweld cynnydd mewn cwynion cwsmeriaid yn ystod y chwarter hwn, yn enwedig yn dilyn cyfnod parhaus o ostyngiadau yn y cwynion a gawsom am gwmnïau telathrebu.

“Fodd bynnag, ymddangos mai prif reswm y cwynion hyn yw cyhoeddiadau annisgwyl am gynnydd prisiau yng nghanol contract i rai cwsmeriaid ffonau symudol yn Hydref 2025. Byddwn yn parhau i fonitro'r farchnad gan gynnwys ffigurau cwynion yn y dyfodol am unrhyw arwydd o anfodlonrwydd cwsmeriaid parhaus.”

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, mae Ofcom yn llunio’r ffigurau cwynion hyn er mwyn i ni allu deall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd cwsmeriaid yn y sectorau rydyn ni’n eu rheoleiddio. Er na allwn ddelio â chwynion cwsmeriaid yn unigol, drwy gyhoeddi'r ffigurau hyn gallwn helpu cwsmeriaid i ddewis y darparwr cywir ar gyfer eu hanghenion. 

Mae'r siartiau isod yn rhoi mwy o fanylion ar y cwynion rydyn ni wedi’u derbyn am wasanaethau band eang, llinell dir, ffonau symudol a theledu-drwy-dalu. Gallwch ddefnyddio'r llithrydd i hidlo yn ôl blwyddyn.

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu