family watching television hero

Datgelu’r cwynion diweddaraf am delathrebu a theledu-drwy-dalu - Q3 2025

Cyhoeddwyd: 19 Chwefror 2026
Diweddarwyd diwethaf: 8 Mai 2026

Heddiw rydym wedi cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer cwynion a dderbyniwyd gennym am brif ddarparwyr gwasanaethau llinell dir, ffonau symudol, band eang a theledu-drwy-dalu yn y DU.

Gan gwmpasu trydydd chwarter 2025, o fis Gorffennaf i fis Medi, mae'r ffigurau'n dangos bod cwynion yn parhau i fod yn debyg i'r chwarter blaenorol - gyda chwynion am fand eang, llinell dir, ffonau symudol a theledu-drwy-dalu i gyd yn aros ar yr un lefelau.

Y prif ganfyddiadau:

  • EE, TalkTalk a Vodafone a gynhyrchodd y nifer fwyaf o gwynion band eang. Arhosodd ffigurau cwynion EE yn sefydlog, tra bod TalkTalk a Vodafone wedi gweld cynnydd mewn cwynion.
  • Plusnet oedd y darparwr band eang a gwynwyd lleiaf amdano.
  • TalkTalk oedd y darparwr llinell dir a gwynwyd fwyaf amdano, gyda chwynion yn codi o’r chwarter blaenorol.
  • Utility Warehouse oedd y darparwr llinell dir a gwynwyd lleiaf amdano.
  • Y darparwyr ffôn symudol a gwynwyd fwyaf amdanynt oedd O2, Sky Mobile a Three. Roedd cwynion cwsmeriaid yn bennaf ynghylch sut y cafodd eu cwynion eu trin (O2 a Sky Mobile) a materion gyda diffygion, gwasanaethau a chysylltu (Three).
  • Cynhyrchodd EE, Tesco Mobile, Vodafone ac iD Mobile y lleiaf o gŵynion ffôn symudol talu’n fisol.
  • EE oedd y darparwr teledu-drwy-dalu a gwynwyd fwyaf amdano.
  • Cynhyrchodd Sky a TalkTalk y lleiaf o gŵynion teledu-drwy-dalu.

Pam rydyn ni'n cyhoeddi'r cwynion hyn

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU, mae Ofcom yn derbyn cwynion gan gwsmeriaid am wasanaethau eu llinell dir, band eang, ffôn symudol a theledu-drwy-dalu.

Er na allwn ddelio â chwynion unigol, mae casglu'r cwynion cyffredinol hyn yn ein helpu i ddeall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd cwsmeriaid â'u gwasanaethau a'r cwmnïau sy'n eu darparu. Hefyd, trwy gyhoeddi'r ffigurau cwynion hyn gallwn helpu defnyddwyr i ddewis y darparwr a'r gwasanaeth gorau ar gyfer eu hanghenion.

Mae'r siartiau isod yn dangos faint o gwynion rydym wedi'u derbyn am wasanaethau band eang, llinell dir, ffôn symudol a theledu-drwy-dalu.

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu