Ymgynghoriad: Cod Hygyrchedd Haen 1

Cyhoeddwyd: 14 Mai 2026
Ymgynghori yn cau: 7 Awst 2026
Statws: Agor

Mae Ofcom yn ymgynghori ar God newydd sy'n nodi gofynion hygyrchedd ar gyfer y gwasanaethau ffrydio a ddefnyddir fwyaf. 

Cyflwynodd Deddf y Cyfryngau 2024 ofynion newydd ar gyfer y gwasanaethau ar-alw mwyaf (y cyfeirir atynt fel 'Gwasanaethau Haen 1') i fod yn hygyrch i bobl anabl. Mae'r rhain yn cynnwys cwotâu ar gyfer nodweddion fel isdeitlau, sain-ddisgrifiad ac arwyddo (gyda'i gilydd 'gwasanaethau mynediad') a gofynion ar gyfer cadw cynulleidfaoedd yn wybodus am y nodweddion hyn ac adrodd ar eu hansawdd a'u defnydd.

Rhaid i Ofcom gyhoeddi Cod – y 'Cod Hygyrchedd Haen 1' – sy'n nodi'r gofynion ac yn rhoi canllawiau ar y pwyntiau hyn.  

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn nodi ein cynigion ar gyfer y Cod Hygyrchedd Haen 1.

Sut i ymateb

Cyflwynwch ymatebion i'r ymgynghoriad hwn gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 7 Awst 2026 fan bellaf. Dylech gyflwyno ymatebion drwy anfon e-bost at Tier1accessibility@ofcom.org.uk

Rydym yn croesawu ymatebion mewn fformatau heblaw print, er enghraifft recordiad sain neu fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL). I ymateb yn trwy arwyddo:

  • anfonwch recordiad atom ohonoch chi'n arwyddo’ch ymateb. Ni ddylai hyn fod yn fwy na 5 munud. Fformatau ffeil addas yw DVDs, wmv neu ffeiliau QuickTime; neu
  • uwchlwythwch fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb yn uniongyrchol i YouTube (neu safle cynnal arall) ac anfonwch y ddolen atom.

Crynodeb o God Hygyrchedd Haen 1 drafft Ofcom


Trosolwg o'r cod a'r cynigion arwyddo