Adroddiadau Channel 4 ac ymatebion Datganiad Polisi Cynnwys y Cyfryngau (SMCP) Ofcom

Cyhoeddwyd: 3 Gorffennaf 2026

O ganlyniad i Ddeddf y Cyfryngau, rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar sut y dylai Corfforaeth Channel 4 (C4C) nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni ei rhwymedigaethau ac adrodd ar ei pherfformiad yn flynyddol:

  • rhaid I C4C nodi sut mae'n bwriadu bodloni ei gylch gwaith ac amodau trwydded benodol drwy Ddatganiad o Bolisi Rhaglen (SoPP) blynyddol. Yn y flwyddyn ganlynol, rhaid i C4C adrodd ar gyflawni'r cynlluniau hyn.
  • rhaid iddo nodi sut mae'n bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau cynnwys cyfryngau trwy Ddatganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau (SMCP) blynyddol, y mae'n rhaid iddo baratoi ar yr un pryd â'i SoPP. Rhaid iddo hefyd adrodd ar ei gyflawniad o'r cynlluniau hyn yn y flwyddyn ganlynol.
  • gall gyflawni ei ofynion cynllunio ac adrodd SoPP a SMCP trwy Gynllun Cyfunol ac Adolygiad Cyfunol os yw’n dymuno.
  • mae hefyd yn ofynnol iddo baratoi Datganiad Polisi Comisiynu (SoCP) blynyddol ar yr un pryd â'i SMCP. Rhaid i'r SoCP nodi cynigion C4C ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau mewn perthynas â chystadleuaeth deg am gomisiynau, yn y flwyddyn i ddod ac adrodd ar ei berfformiad yn erbyn y cynigion a nodwyd yn y datganiad blaenorol.

Bob blwyddyn, mae Ofcom yn cyhoeddi ymateb i Ddatganiad Polisi Cynnwys y Cyfryngau (SMCP) Corfforaeth Teledu Channel Four (C4C) sy'n cynnwys llythyr cyhoeddedig gan y Prif Swyddog Gweithredol ac adroddiad ar berfformiad C4C. Er nad oes rwymedigaeth statudol ar Ofcom i ddarparu'r ymateb hwn, mae'n gwneud hynny i gefnogi tryloywder a darparu asesiad cyhoedus annibynnol rheolaidd o gyflawniad C4C o'i gylch gwaith a'i ddyletswyddau.

Ymateb SMCP diweddaraf Ofcom

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, rhaid i C4C baratoi datganiad blynyddol o bolisi cynnwys cyfryngau (SMCP) sy'n nodi ei gynlluniau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau cynnwys cyfryngau i'r flwyddyn nesaf ac adrodd ar ei berfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r ddogfen hon yn cynrychioli ymateb Ofcom i'r SMCP 2025, gan nodi ein barn ar gyflawni cylch gwaith a dyletswyddau C4C dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â'i strategaeth ar gyfer y dyfodol.

Rhaid i Gorfforaeth Channel 4 (C4C) baratoi datganiad blynyddol o bolisi cynnwys rhaglenni a chyfryngau. Rhaid i hwn esbonio sut mae C4C wedi cyflawni ei gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus dros y flwyddyn flaenorol. Wrth baratoi'r datganiad, rhaid i C4C ymgynghori ag Ofcom a rhoi sylw i'r canllawiau a gyhoeddwn.

Mewn ymateb i'w datganiad, rydym yn cyhoeddi adroddiad yn nodi ein barn ni o ran pa mor dda y mae C4C wedi cyflawni ei gylch gwaith.

Perfformiad Corfforaeth Channel 4 Television wrth gyflawni ei ddyletswyddau cynnwys a’i gylch gorchwyl yn 2024 (PDF, 842KB)
Published 21 May 2025

Perfformiad Corfforaeth Channel 4 Television wrth gyflawni ei ddyletswyddau cynnwys a’i gylch gorchwyl yn 2023 (PDF, 585KB)
Published 8 Hydref 2024

Perfformiad Corfforaeth Channel 4 Television wrth gyflawni ei ddyletswyddau cynnwys a’i gylch gorchwyl yn 2022 (PDF, 838.5 KB)
Published 12 Gorffennaf 2023

Perfformiad Corfforaeth Channel 4 Television wrth gyflawni ei ddyletswyddau cynnwys a’i gylch gorchwyl yn 2021 (PDF, 846.5 KB)
Published 15 Gorffennaf 2022

Perfformiad Corfforaeth Channel 4 Television wrth gyflawni ei ddyletswyddau cynnwys a’i gylch gorchwyl yn 2020 (PDF, 319.5 KB)
Published 22 Mehefin 2021

Perfformiad Corfforaeth Channel 4 Television wrth gyflawni ei ddyletswyddau cynnwys a’i gylch gorchwyl yn 2019 (PDF, 242.1 KB)
Published 29 Hydref 2020

Older reviews are available via the National Archives.