Cyflwynodd Ddeddf y Cyfryngau 2024 gyfundrefn newydd ar gyfer argaeledd ac amlygrwydd ar-lein ar gyfer chwaraewyr teledu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSB) a ddosbarthir ar blatfformau teledu cysylltiedig (a elwir yn wasanaethau dethol teledu o dan y Ddeddf).
Mae'r gyfundrefn newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaethau dethol teledu hynny a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sicrhau bod chwaraewyr teledu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sydd wedi'u dynodi, a'u cynnwys, ar gael, yn amlwg ac yn hawdd eu cyrraedd.
Un o gyfrifoldebau Ofcom yw dynodi'r chwaraewyr teledu PSB masnachol, a elwir yn 'wasanaethau rhaglenni rhyngrwyd' (IPS), sy'n bodloni'r amodau a nodir yn y ddeddfwriaeth i elwa o'r gyfundrefn newydd. Bydd BBC iPlayer yn cael ei ddynodi'n awtomatig o dan y Ddeddf.
Llynedd, gwnaethom ymgynghori a chyhoeddi datganiad am y dulliau y byddwn yn eu defnyddio wrth asesu pa IPS y dylid ei ddynodi. Heddiw, rydym yn cyhoeddi ffurflen gais sydd â'r bwriad o gynorthwyo darparwyr IPS gyda'r broses. Mae'r ffurflen hon yn nodi'r wybodaeth a'r ddogfennaeth ategol y dylid eu darparu gan ddarparwyr IPS at ddibenion eu cais i Ofcom.
Er mwyn sicrhau tryloywder i randdeiliaid, byddwn yn ymgynghori ar ein penderfyniadau dynodi arfaethedig ac yn dilyn ymgynghori, cyhoeddir penderfyniadau dynodiad terfynol.
Os oes gennych ymholiad, gallwch gysylltu â thîm dynodi IPS Ofcom drwy e-bost (IPSdesignation@ofcom.org.uk).
Cynnwys cysylltiedig