Dewis gwasanaeth a darparwr
Mae gwasanaethau ffôn a band eang yn rhan allweddol o bob busnes. Mae rhyw 83% o fusnesau bach a chanolig (SMEs yn Saesneg) yn cytuno na fyddent yn gallu cyflawni eu nodau hebddynt.
Serch hynny, mae 34% o fusnesau yn credu nad oes ganddynt yr hyder i adnabod y cynnyrch a'r gwasanaethau a allai fod o fudd i'w sefydliadau.
Os ydych chi'n fusnes sy'n newydd, neu'n fusnes aeddfed sy'n chwilio am well bargen, yna mae'n bwysig eich bod yn gwneud y dewis cywir. Dyma wybodaeth sydd wedi'i dylunio i'ch helpu chi.
Mae darparwyr yn cynnig sawl math o wasanaethau a chynnyrch i fusnesau, yn amrywio o wasanaethau sylfaenol safonol, i gynnyrch technegol pwrpasol ac arbenigol.
Mae hyn yn cynnwys cynnyrch llais, gan gynnwys llinellau PSTN ac ISDN, cynnyrch y rhyngrwyd fel ADSL a band eang ffibr, cysylltiadau data fel llinellau ar brydles, a gwasanaethau eraill fel VoIP a gwasanaethau symudol i fusnesau.
Dylai technoleg newydd fod yn addas ar gyfer eich busnes. Siaradwch gyda’ch darparwr i drafod eich anghenion.
Mae digonedd o ddarparwyr sy’n gwasnaethau busnesau.
Un ffordd o gymharu gwasanaethau yw i ddefnyddio gwefan cymharu prisiau wedi ei hachredu gan Ofcom.
Mae pob busnes yn awyddus i sicrhau bod ei orbenion yn isel, ond nid y fargen rataf yw'r dewis gorau bob tro.
Mae darparwyr yn cynnig gwahanol lefelau o wasanaeth, ac mae lefelau uwch o wasanaeth yn costio mwy fel arfer.
Gallai fod yn werth talu mwy er mwyn cael gwell Cytundeb Lefel Gwasanaeth (‘SLA’). Er enghraifft, bargen sy’n cynnig trwsiadau cyflymach.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalen contractau.
Mae’n werth ymchwilio hanes blaenorol darparwr o ran gwasanaeth i gwsmeriaid. Darllenwch adroddiad diweddaraf Ofcom ar fodlonrwydd cwsmeriaid ag ansawdd y gwasanaeth maent yn eu derbyn wrth eu darparwr telathrebu. Hefyd, mae Ofcom yn cyhoeddi data yn rheolaidd am gwynion a wneir yn erbyn y prif ddarparwyr telegyfathrebu a theledu drwy dalu.
Mae cysylltedd yn hollbwysig yn aml iawn i’r ffordd mae busnesau’n gweithredu.
Cofiwch nad yw pob cynnyrch yn cynnig cytundeb lefel gwasanaeth sy’n sicrhau bod y gwasanaeth ar gael, a dim ond ambell i gynnyrch sy’n benodol sy’n gwbl gadarn (100% yn weithredol).
Mae hyn yn golygu y bydd eich gwasanaeth yn ‘segur’ dros dro o bryd i’w gilydd. Er enghraifft, byddai cytundeb lefel gwasanaeth o 99.9% yn golygu y gall eich gwasanaethau fod yn segur am 10 munud yr wythnos ar gyfartaledd.
Mae darparwyr yn cynnig opsiynau gwytnwch ar gyfer amrywiol gynnyrch. Trafodwch hyn gyda’ch darparwr. Efallai mai dim ond os yw cysylltiad cyson yn hanfodol i’ch busnes y bydd angen i chi wneud hyn.
Cofiwch hefyd y gall darparwyr reoli traffig rhyngrwyd o dan amgylchiadau penodol. Gallai hyn effeithio ar eich gwasanaethau os ydych chi’n cynnal gweithgareddau data dwys. Darllenwch ein canllaw ar reoli traffig rhyngrwyd i gael rhagor o wybodaeth.
Mae llawer o ddarparwyr yn gwerthu gwasanaethau a chynnyrch busnes a phreswyl. Oherwydd bod oddeutu chwarter y mentrau bach a chanolig yn gweithio o swyddfeydd yn eu cartrefi, mewn rhai achosion mae’n bosib y bydd gennych ddau ddefnydd ar gyfer eich cysylltiad.
Os ydych chi’n fusnes sy’n meddwl mynd am dariff preswyl, darllenwch y telerau ac amodau yn ofalus. Ni fydd pob darparwr yn fodlon i chi ddefnyddio tariff preswyl ar gyfer eich busnes. Mae hyn yn berthnasol hefyd i gontractau ffonau symudol.
Gall fod manteision hefyd wrth ddefnyddio cynnyrch sydd wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer busnesau. Er enghraifft, bydd cynnyrch llinell dir yn aml yn cynnig lefelau gwasanaeth gwell, gwasanaeth blaenoriaeth i gwsmeriaid, a nodweddion eraill, fel opsiwn i greu rhif busnes Rhadffôn.
Gall cynnyrch band eang busnes gynnwys cyflymder uwch, cyfeiriadau IP statig, cyfeiriadau e-bost ar gyfer eich cwmni, parthau gwefan a lle ar y we os ydych chi’n awyddus i greu gwefan. Gallent hefyd gynnwys nodweddion diogelwch gwell i warchod eich busnes rhag firysau, maleiswedd a sbam.
Gall tariffiau ffôn symudol busnes darparwr fod yn fuddiol i’ch busnes. Gallent gynnig cynlluniau data sy’n cael ei rannu rhwng grŵp o ffonau, galwadau rhatach rhwng y ffonau hynny, neu roi mynediad at apiau ac adnoddau defnyddiol.
Mae’r Post Brenhinol yn gorfod darparu gwasanaethau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth ar gyfer pob preswylfan yn y DU (ceir eithriadau mewn ambell achos prin).
Mae llawer o fusnesau’n defnyddio'r un gwasanaethau post cyffredinol a ddarperir gan y Post Brenhinol â defnyddwyr preswyl.
Ond, os ydych chi’n anfon llythyrau a phecynnau’n aml, gallwch edrych i weld yr opsiynau eraill sydd ar gael. Mae amrywiaeth o wahanol dariffiau a gwasanaethau parseli (fel dilyn a chasglu o’ch adeilad) ar gael i gwsmeriaid busnes.
Mae ffrancio’n ffordd o argraffu tâl post wedi'i dalu ymlaen llaw ar lythyrau neu labeli gan ddefnyddio peiriant ffrancio a chyfrif credyd. Mae busnesau’n talu prisiau tâl post is o’i gymharu â stampiau, ond bydd angen prynu neu rentu peiriant ffrancio. Mae angen ystyried costau cynnal a chadw ac archwilio blynyddol hefyd. Mae llawer o wasanaethau sy’n gallu cael eu prynu gyda pheiriant ffrancio yn wasanaethau cyffredinol a reoleiddir. Dim ond gwasanaethau’r Post Brenhinol y gellir eu prynu gyda pheiriannau ffrancio.
Gall busnesau gael gostyngiadau hefyd i bris stampiau ar gyfer gwasanaethau cyffredinol (a phrynu gwasanaethau post eraill i fusnesau) os oes ganddynt gyfrif gyda'r Post Brenhinol. Mae hyn yn dibynnu ar wario isafswm ar gynnyrch post y flwyddyn.
Gwasanaethau ‘swmp’ neu bost busnes: Mae llawer o gwmnïau post a thrydydd partïon fel cwmnïau postio yn cynnig gostyngiadau ar bris stampiau i fusnesau sy’n postio swmp mawr o bost, neu sy’n rhoi trefn ar eu post eu hunain yn fewnol. Mae'r isafswm o ran maint (neu wariant) yn amrywio rhwng cwmnïau ac yn dibynnu hefyd ar y gwasanaethau penodol a ddarperir i chi. Gall y cwmni dan sylw gasglu post gennych chi, rhoi trefn ar y post a’i gludo rhan o’r ffordd, ond gan ddefnyddio’r Post Brenhinol i’w ddanfon i’w gyrchfan derfynol.
Gwasanaethau pecynnau a pharseli: Mae llawer o wahanol gwmnïau parseli yn gweithredu drwy siopau'r stryd fawr, neu mae modd casglu parseli’n uniongyrchol o’ch adeilad cyn rhoi trefn arnynt a’u danfon i’ch cwsmeriaid. Mae opsiynau’n fwy tebygol o fod ar gael i fusnesau sy’n anfon swmp mawr o nwyddau, ond mae dewis o wasanaethau ar gael ar gyfer busnesau llai (a defnyddwyr preswyl).
Mae manylion am y dewis o wasanaethau sydd ar gael yn debygol o fod ar wefannau’r cwmnïau. Gallwch gymharu’r prisiau ar gyfer parseli ar wefannau arbenigwyr hefyd.
Nid yw gwasanaethau swmp neu wasanaethau busnes yn wasanaethau post cyffredinol a reoleiddir ac eithrio gwasanaethau a brynir gan y Post Brenhinol (ond nid Parcelforce) yn Swyddfa'r Post.
Mae eich hawliau a sut mae cwyno yn wahanol os nad ydych chi’n defnyddio gwasanaeth post cyffredinol a ddarperir gan y Post Brenhinol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadran Gwasanaethau post: gwybod eich hawliau.