Ymgynghoriad: Amddiffyn pobl rhag niwed anghyfreithlon ar-lein

  • Dechrau: 09 Tachwedd 2023
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 23 Chwefror 2024

Dyma’r cyntaf o bedwar ymgynghoriad mawr y bydd Ofcom, fel rheoleiddiwr y Ddeddf Diogelwch Ar-lein newydd, yn eu cyhoeddi fel rhan o’n gwaith i sefydlu’r rheoliadau newydd dros y 18 mis nesaf.

Mae'n canolbwyntio ar ein cynigion ar gyfer sut y dylai gwasanaethau rhyngrwyd sy'n galluogi rhannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ('gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr') a gwasanaethau chwilio ymdrin â'u dyletswyddau newydd yn ymwneud â chynnwys anghyfreithlon.

Rydym yn ymdrin ag:

  • achosion ac effeithiau niwed anghyfreithlon;
  • sut y dylai gwasanaethau asesu a lliniaru'r risgiau o niwed anghyfreithlon;
  • sut y gall gwasanaethau nodi cynnwys anghyfreithlon; a'n
  • dull gweithredu ar gyfer gorfodi.

Mae ein cynigion yn adlewyrchu ymchwil yr ydym wedi'i gwneud dros y tair blynedd diwethaf, yn ogystal â thystiolaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu'n helaeth â diwydiant ac arbenigwyr eraill.

Sut i ddarllen yr ymgynghoriad hwn

  1. Dechreuwch gyda chrynodeb o'n cynigion  (PDF, 463.4 KB) a chrynodeb o bob pennod (PDF, 479.6 KB) Mae'r rhain yn dweud popeth wrthych am y cynigion sy'n effeithio arnoch chi.
  2. Os ydych eisiau mwy o fanylder, mae'r chwe chyfrol yn esbonio ein cynigion yn llawn.
  3. Yn yr atodiadau, rydym wedi cyhoeddi drafftiau cyntaf o'n codau ymarfer, asesiad risg a chanllawiau eraill.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.