Ymgynghoriad: Ymgynghoriad pellach ar rannu refeniw

  • Dechrau: 01 Rhagfyr 2023
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 02 Chwefror 2024

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’n hadolygiad parhaus o rifau ffôn (Adolygiad Dyfodol Rhifau).

Mae Ofcom yn gyfrifol am weinyddu rhifau ffôn yn y DU, gan sicrhau'r defnydd gorau ac annog effeithlonrwydd ac arloesedd at y diben hwnnw. Rydym yn cyhoeddi’r Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol (y Cynllun Rhifau), ein llyfr rheolau ar gyfer rhifau ffôn yn y DU, sy'n nodi'r rhifau a ddarperir i'w defnyddio a'r rheolau ar gyfer sut y gellir defnyddio'r rhifau hynny.

Mae'r rheolau rhannu refeniw presennol yn y Cynllun Rhifau wedi datblygu mewn modd ad hoc, gan arwain at rai anghysondebau. Mae'r Cynllun Rhifau'n gwneud darpariaeth benodol ar gyfer rhannu refeniw ar ystodau penodol (er enghraifft 084 a 087) ond mewn achosion eraill nid yw'n pennu a ganiateir rhannu refeniw ai beidio. Efallai bod hyn yn ymddangos fel y byddai'n caniatáu rhannu refeniw mewn ffyrdd a allai achosi niwed i ddefnyddwyr. Yng ngoleuni ein dyletswyddau, a nodau ein Hadolygiad o Ddyfodol Rhifau, rydym felly yn cynnig darparu eglurhad o ran y rheolau hyn.

Rydym yn gwahodd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn erbyn 2 Chwefror 2024. Bwriadwn gyhoeddi datganiad sy'n nodi ein penderfyniad yn ail chwarter 2024.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 50.5 KB) (Saesneg yn unig).


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Action 4 (PDF File, 163.2 KB) Sefydliad
Aloha Telecom (PDF File, 183.6 KB) Sefydliad
BT Group (PDF File, 319.0 KB) Sefydliad
Fair Telecoms Campaign (PDF File, 466.1 KB) Sefydliad
Federation of Communications Services (PDF File, 159.8 KB) Sefydliad