11 Tachwedd 2021

Pam mae annibyniaeth yn bwysig o ran rheoleiddio teledu a radio

Mae llawer o bobl yn adnabod Ofcom am ein gwaith yn rheoleiddio darlledu yn y DU. Ond mae cryn dipyn o gamddealltwriaeth hefyd ynglŷn â'r agwedd hon ar yr hyn a wnawn. Yma rydym yn edrych ar sut rydym yn gwneud gwaith o osod a gorfodi safonau darlledu - gan gynnwys y fframweithiau cyfreithiol yr ydym yn gweithio ynddynt.

Fel rheoleiddiwr darlledu annibynnol y DU, rydym yn goruchwylio safonau cynnwys ar gyfer gwasanaethau teledu a radio. Rydym yn gyfrifol am amrywiaeth o feysydd gan gynnwys diogelu pobl dan 18 oed, deunydd niweidiol a sarhaus, didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy, a thriniaeth annheg ac amharu ar breifatrwydd. Yn bwysig, mae angen inni gymhwyso'r safonau hynny mewn ffordd sydd bob amser yn ystyried pwysigrwydd rhyddid mynegiant.

Nodir y safonau hyn yn y Cod Darlledu, ac rydym yn cynhyrchu canllawiau cysylltiedig i helpu darlledwyr i gydymffurfio â'r Cod.  Rydym hefyd yn gorfodi set fwy cyfyngedig o safonau ar wasanaethau fideo ar alw hefyd.

Gall pobl gwyno wrth Ofcom drwy ein gwefan. Bob blwyddyn, rydym yn asesu miloedd o raglenni ar y teledu a'r radio, i weld a ydynt wedi torri ein rheolau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, aseswyd dros 11,000 o achosion am gynnwys darlledu.

Pan fydd darlledwr yn methu â chyrraedd y safonau a osodwyd yn ein Cod Darlledu, byddwn yn gweithredu. Mae'r rhain yn aml yn benderfyniadau sy'n rhaid eu pwyso a'u mesur yn ofalus iawn.

Rydym yn ymchwilio yn dilyn ein gweithdrefnau cyhoeddedig sy'n cynnwys prosesau clir, tryloyw a theg. Mae'n hanfodol bod ein penderfyniadau bob amser yn cael eu gwneud yn annibynnol ac yn ddiduedd, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â materion cymhleth, dadleuol neu emosiynol iawn.

Dyma pam mae penderfyniadau am gynnwys teledu a radio yn cael eu gwneud gan dîm darlledu arbenigol o fewn Ofcom.  Mae'r tîm hwn yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau'n annibynnol o weddill Gweithrediaeth Ofcom a Bwrdd Ofcom. Mae'n cynnwys arbenigwyr arbenigol, profiadol, y mae eu casgliadau wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar ffeithiau a thystiolaeth yr achos, yn rhydd o unrhyw ddylanwad gwleidyddol neu fasnachol.

Er mwyn llywio ein penderfyniadau, rydym yn aml yn comisiynu ymchwil ar ddisgwyliadau cynulleidfaoedd o gynnwys niweidiol neu dramgwyddus wrth i agweddau ar y materion hyn newid dros amser.

Rydym yn cyhoeddi canlyniad pob cwyn a dderbyniwn ac yn cyhoeddi penderfyniadau manwl ynghylch unrhyw raglen a gawn sy’n torri'r Cod Darlledu. Os ystyriwn fod y torri rheolau’n ddifrifol, yn fwriadol, yn cael ei ailadrodd neu'n fyrbwyll, efallai y byddwn yn ystyried gosod sancsiwn, megis cosb ariannol, cyfarwyddyd i beidio ag ailadrodd, neu – yn yr achosion mwyaf difrifol iawn – dileu trwydded i ddarlledu.

Related content