3 Gorffennaf 2023

Rhowch eich barn i ni am Iaith Arwyddion Prydeinig ar sianeli teledu ac ar wasanaethau ar-alw

Rydym yn gwahodd pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) i roi eu barn i ni am y defnydd o BSL ar y teledu ac ar wasanaethau fideo ar-alw. Bydd yr arolwg hwn yn helpu siapio dyfodol iaith arwyddion ar y teledu ac ar wasanaethau ar-alw.

Rydyn ni eisiau darganfod pa mor aml y mae defnyddwyr BSL yn gwylio rhaglenni sy'n cynnwys arwyddo, y mathau o raglenni y maent yn eu gwylio a beth yw eu barn am ansawdd ac argaeledd rhaglenni sydd wedi'u harwyddo.

Bydd yr adborth a gawn yn hollbwysig wrth helpu cyfeirio ein canllawiau ar arwyddo ar gyfer sianeli teledu a gwasanaethau ar-alw - gan gynnwys pa fathau o raglenni y dylid eu blaenoriaethu i'w harwyddo.

Hoffen ni glywed gan bobl sydd:

  • dros 16 oed ac yn defnyddio BSL i gyfathrebu;
  • yn byw gyda rhywun dros 16 oed sy'n defnyddio BSL i gyfathrebu; neu
  • sydd â phlentyn o dan 16 oed sy'n defnyddio BSL i gyfathrebu.

Gall pobl sydd â mwy nag un defnyddiwr BSL yn eu haelwyd gwblhau un arolwg ar gyfer pob defnyddiwr BSL.

Gallwch chi ymateb trwy arolwg ar-lein a ddehonglir trwy BSL, neu drwy anfon fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb atom.

Mae'r arolwg ar agor tan ddydd Iau 1 Gorffennaf, a byddwn yn cyhoeddi  adroddiad o'r canlyniadau ar ein gwefan.

Rydyn ni'n bwriadu gwneud mwy o waith ymchwil gyda defnyddwyr BSL yn y dyfodol - os hoffech chi gymryd rhan, gyrrwch e-bost i accessibility@ofcom.org.uk. Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith hygyrchedd ar ein gwefan.

Rydym yn falch bod Ofcom wedi gofyn i'r gymuned BSL rannu eu barn o ran eu dymuniadau ar gyfer y math o deledu a ddarperir, y cyfaddawd sy'n bodoli mewn rheoleiddio rhwng darlledwyr yn gwneud darpariaeth brif-ffrwd yn hygyrch mewn BSL, ac ariannu a chreu cynnwys a grëir ac a gyflwynir mewn BSL a anelir yn uniongyrchol at y gymuned. Rydym yn annog yr holl ddefnyddwyr BSL i gymryd rhan wrth siapio dyfodol BSL ar y teledu a rhannu'r arolwg hwn yn eang ymysg y gymuned.

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID)

See also...