11 Mai 2022

Ofcom yn helpu cwsmeriaid i gael gwybodaeth glir am gyflymder band eang

Mae cwsmeriaid band eang yn cael gwell gwybodaeth am ba mor gyflym fydd eu gwasanaeth newydd, cyn iddynt lofnodi contract, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom 

Mae cod ymarfer cyflymder band eang Ofcom yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr roi i chi:

  • amcangyfrif o'r cyflymder yn ystod oriau brig;
  • isafswm cyflymder gwarantedig wedi'i bersonoli; a'r
  • hawl i adael eich contract yn gynnar, os na allant drwsio problemau  o ran cyflymder.

Os bydd eich cyflymder band eang yn mynd yn is na'r lefel a addawyd, bydd gan eich darparwr 30 diwrnod calendr i wella'r perfformiad, cyn bod yn rhaid iddynt adael i chi gerdded i ffwrdd – heb gosb.

Rydym wedi gweld bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth glir a realistig am gyflymder y band eang ar y pwynt gwerthu. Mae’r rhan fwyaf o faterion cyflymder yn cael eu datrys gan ddarparwyr o fewn 30 diwrnod i'w codi, gyda nifer fach o gwsmeriaid yn defnyddio eu hawl i adael neu'n derbyn datrysiad arall pan nad oes modd datrys problemau.

Fodd bynnag, rydyn ni wedi nodi rhai meysydd lle mae angen gwelliannau. Mae'r rhain yn cynnwys gwella gwybodaeth am gyflymder technolegau cebl a ffeibr llawn, gyda'r olaf yn gynyddol bwysig wrth i'r rhwydweithiau hyn gael eu cyflwyno'n ehangach.

Yn ogystal â hyn, rydyn ni hefyd yn ymgynghori heddiw ar fân newidiadau i'r cod ymarfer cyflymder band eang.  

Rydyn ni'n cynnig diweddaru'r codau preswyl a busnes fel bod y diffiniad o fwndel yn cydweddu â rheolau diwygiedig Ofcom, sydd i gael eu gweithredu o 17 Mehefin 2022.

Bydd hyn yn ffurfio set gyson o reolau mewn perthynas â bwndeli a phwy y maent yn berthnasol iddynt, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid eu dilyn ac yn symlach i ddarparwyr band eang eu gweithredu.

Daw'r ymgynghoriad heddiw i ben ar 22 Mehefin 2022.

Cynnwys cysylltiedig