13 Gorffennaf 2023

Ofcom yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2022/23

Heddiw rydyn ni wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a'n Cyfrifon sy'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.

Mae'r adroddiad yn nodi ein perfformiad yn erbyn ein cynllun gwaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gofnodi'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud yn ein gwaith ar draws prosiectau mawr a chyfrifoldebau rheoleiddio parhaus.

Yn ogystal â'r adroddiad perfformiad hwn, mae'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon hefyd yn cynnwys ein hadroddiad atebolrwydd, datganiadau ariannol a chyfrifon Adran 400, gyda manylion derbynebau o daliadau ffi'r drwydded a chosbau ariannol yn ystod y flwyddyn ariannol.

Darllen yr adroddiad llawn.

Related content