26 Ionawr 2023

Datgelu’r cwynion diweddaraf am gwmnïau telathrebu a theledu-drwy-dalu

Mae Ofcom wedi cyhoeddi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer cwynion rydym wedi’u cael am brif ddarparwyr ffonau cartref, ffonau symudol, band eang a theledu drwy dalu y DU rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022.

Yn gryno, mae ein data diweddaraf ar gwynion yn dangos:

  • At ei gilydd, roedd nifer y cwynion yn ystod y chwarter hwn yn weddol debyg i’r tri mis blaenorol.
  • Roedd Shell Energy wedi parhau i ddenu’r nifer mwyaf o gwynion am wasanaethau band eang a llinell dir, gyda gostyngiad bach ers y chwarter diwethaf. Roedd cwynion ynghylch band eang yn cael eu sbarduno’n bennaf gan namau a phroblemau gwasanaeth, ac roedd cwsmeriaid llinell dir yn bennaf anfodlon â sut ymdriniwyd â chwynion.
  • Cafwyd y nifer mwyaf o gwynion am y cwmnïau ffôn symudol BT Mobile, Virgin Mobile ac iD Mobile, gyda chwsmeriaid yn cwyno’n bennaf am y ffordd yr oeddynt yn ymdrin â’u cwyn.
  • Virgin Media oedd yn dal i gael y nifer mwyaf o gwynion am deledu drwy dalu; y prif reswm dros gwynion cwsmeriaid i Ofcom oedd oherwydd y ffordd yr oeddynt yn ymdrin â chwynion.
  • Sky gafodd y nifer lleiaf o gwynion am deledu drwy dalu a band eang.
  • Ymunodd EE â Sky fel y darparwyr llinell dir y cafwyd y nifer lleiaf o gwynion amdanynt.
  • Tesco Mobile, Sky Mobile ac EE a gafodd y nifer lleiaf o gwynion yn y sector ffôn symudol.

Rydym yn monitro perfformiad Shell yn ofalus, gan fod nifer ei gwynion yn dal yn sylweddol uwch na darparwyr eraill. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â’r darparwr ac wedi’i annog i ganfod a mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi’r problemau hyn.

Fel bob amser, os byddwn yn nodi pryderon penodol ynghylch sut mae ein rheolau’n cael eu dilyn, byddwn yn ystyried a yw’n briodol cymryd camau ffurfiol.

Ar y cyfan, mae lefelau’r cwynion wedi bod yn gyson isel dros y misoedd diwethaf. Ond mae angen i rai darparwyr wneud ymdrech i wella er mwyn cyd-fynd â’r safonau gwasanaeth i gwsmeriaid a gynigir gan eu cystadleuwyr.

Os nad ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth rydych chi’n ei gael, ystyriwch siopa o gwmpas a symud i rywle arall. Yn y pen draw, gallech gael gwell gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal ag arbed arian.

Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu

Pam rydym yn cyhoeddi’r data hwn

Mae ein data cwynion yn helpu pobl i gymharu darparwyr pan fyddant yn chwilio am wasanaeth newydd – ac mae hefyd yn helpu i annog cwmnïau i wella eu perfformiad.

Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i bobl am y gwasanaethau telegyfathrebiadau a theledu drwy dalu maent yn eu defnyddio, a gall yr wybodaeth rydym yn ei derbyn arwain at lansio ymchwiliadau.

Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch ffôn cartref, band eang, ffôn symudol neu deledu drwy dalu, dylech gwyno wrth eich darparwr yn gyntaf. Os ydych yn anfodlon â'r canlyniad, gallwch wneud cwyn i ombwdsmon annibynnol, a fydd yn edrych ar yr achos, ac yn dod i benderfyniad ynghylch hynny.

Related content