8 Mawrth 2023

Taclo dryswch defnyddwyr ynghylch technolegau band eang

Gallai cwsmeriaid band eang dderbyn gwybod fwy clir a chyson am eu gwasanaeth wrth gofrestru am gontract newydd, o dan gynigion a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

O dan yr arweiniad newydd a gynllunnir, byddai modd i ddarparwyr ddefnyddio'r termau 'ffeibr' a 'ffeibr llawn' ar eu gwefannau ac mewn contractau dim ond os yw eu rhwydwaith yn defnyddio ceblau ffeibr optig yr holl ffordd o'r gyfnewidfa i'r cartref. Byddai cwsmeriaid hefyd yn derbyn disgrifiad byr a hawdd ei ddeall o'r mathau o dechnoleg rhwydwaith band eang y maent yn cofrestru ar ei chyfer.

Dryswch ymysg defnyddwyr

Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn cael eu gosod ar garlam ar hyn o bryd, gan olygu y gall cwsmeriaid ddewis yn gynyddol o ystod o dechnolegau gwahanol ar gyfer eu gwasanaeth band eang. Fodd bynnag, cymhwysir y term 'ffeibr' yn anghyson gan y diwydiant, gan gael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio technolegau copr yn rhannol, ffeibr yn rhannol hŷn, sy'n peri dryswch i ddefnyddwyr.

Mae ymchwil gan Ofcom wedi pennu mai dim ond 46% o gwsmeriaid a adroddodd eu bod ar ffeibr llawn oedd yn byw mewn ardaloedd lle mae hynny ar gael mewn gwirionedd. [1]

At hynny, roedd diffyg hyder gan fwy na chwarter (27%) o gwsmeriaid band eang wrth ddeall yr iaith a'r derminoleg a ddefnyddir gan ddarparwyr. [2]

Rydym hefyd wedi darganfod, wrth ddewis gwasanaeth band eang, y byddai mwy na hanner (53%) yn ei gweld hi'n ddefnyddiol i gael disgrifiad byr o'r dechnoleg sylfaenol a ddefnyddir i ddarparu eu gwasanaethau. [3]

Gwybodaeth glir a chyson

Mae'n bwysig bod pobl yn cael gwybodaeth ddefnyddiol ac amserol i'w helpu i ddewis y gwasanaeth band eang cywir ar eu cyfer, fel y gallant fanteisio ar rwydweithiau ffeibr llawn newydd wrth i'r rhain gael eu cyflwyno. Heb hynny, mae'n bosib na fydd modd i gwsmeriaid ddod o hyd i'r cynnyrch cywir ar gyfer eu hanghenion.

Mae gan Ofcom reolau'n barod sy'n mynnu i ddarparwyr roi disgrifiad o'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i gwsmeriaid. Fodd bynnag, nid ydym yn credu fod yna ddigon o eglurder a chysondeb yn y ffordd y disgrifir y technolegau sylfaenol a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau band eang.

Felly, rydym yn cynnig arweiniad newydd i sicrhau bod darparwyr yn rhoi gwybodaeth am dechnoleg sylfaenol y cysylltiad band eang gan ddefnyddio un neu ddau derm cyson. Dylai darparwyr hefyd roi esboniad manylach o'r termau hyn mewn fformat y gall cwsmeriaid ei ddeall yn rhwydd.

Rydym yn awr yn gwahodd barn am y cynigion hyn, y mae'n rhaid ei chyflwyno erbyn 3 Mai 2023. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion cyn dod i'n penderfyniad terfynol, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

Mae'n hanfodol bod cwsmeriaid yn derbyn yr wybodaeth gywir i'w helpu i ddewis y gwasanaeth band eang gorau ar eu cyfer. Ond gall rhywfaint o jargon y diwydiant a ddefnyddir i ddisgrifio'r dechnoleg sylfaenol sy'n cynnal y gwasanaeth band eang fod yn aneglur ac yn anghyson, gan olygu bod cwsmeriaid yn cael eu drysu.

Heddiw, felly, rydyn ni'n cynnig cyflwyno arweiniad newydd i sicrhau bod cwmnïau band eang yn rhoi gwybodaeth fwy clir a syml am eu gwasanaethau - gan ei gwneud hi'n haws i bobl fanteisio ar dechnoleg sy'n fwy dibynadwy ac, o bosib, yn gyflymach, wrth iddi gael ei chyflwyno.

Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom

Nodiadau i olygyddion

  1. BDRC, Tachwedd 2022. Ymchwil terminoleg technolegau band eang - sleid 42
  2. Ofcom, 2022. Traciwr Newid Darparwr (PDF, 18.8 MB), tabl 261.
  3. BDRC, Tachwedd 2022. Ymchwil terminoleg band eang - sleid 18.
  4. Mae'r cynigion yn cwmpasu safleoedd preswyl a busnesau bach.
  5. Nid yw'r cynigion a ddisgrifir heddiw yn cynnwys hysbysebu, ond yn ymwneud â gwybodaeth ar y pwynt gwerthu a gwybodaeth mewn contractau. Daw hysbysebu, gan gynnwys hysbysebu ar-lein ar wefannau'r cwmnïau eu hunain, o dan gylch gwaith yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA).
  6. Beth yw band eang ffeibr llawn?

See also...