Newid darparwr band eang


Ydych chi’n cael problemau â'ch pecyn band eang? Ddim yn cael y cyflymder a gafodd ei addo i chi, neu ydych chi wedi dod o hyd i well bargen gan ddarparwr gwahanol?

Mae newid eich band eang yn haws nag erioed. Mae’r broses i'w dilyn yn dibynnu ar at bwy rydych chi’n newid, a pha fath o gysylltiad band eang sydd gennych chi ar hyn o bryd.

Y peth cyntaf dylech chi wneud yw cysylltu gyda’r darparwr hoffech chi newid iddynt a byddan nhw’n gallu esbonio’r broses i chi.

Fel y cyhoeddwyd ym mis Medi 2021, roedd proses newid haws a chyflymach newydd ar gyfer yr holl wasanaethau band eang a llinell dir, sef Newid Un Cam, i fod i gael ei lansio ar 3 Ebrill 2023. Fodd bynnag, bydd oedi cyn i’r diwydiant lansio’r broses newydd ac nid yw ar gael eto i gwsmeriaid ei defnyddio. Dylid dilyn y prosesau newid presennol a nodir isod nes bydd y broses newydd yn barod i’w defnyddio.

Mae rheolau Ofcom yn golygu y gallwch adael eich darparwr heb gael cosb os nad ydych chi’n derbyn y cyflymder band eang a gafodd ei addo i chi pan wnaethoch chi ymrwymo i’r contract.

Ni ddylech golli mwy nag un diwrnod gwaith o wasanaeth wrth newid darparwr, a dylai darparwyr eich digolledu os bydd pethau’n mynd o le.

Un cam i newid

Os yw eich gwasanaeth band eang yn mynd drwy rwydwaith ffôn Openreach ar hyn o bryd, ac os ydych chi’n newid i ddarparwr arall sy’n defnyddio’r rhwydwaith hwn hefyd, gallwch ddilyn proses newid ‘un cam’. (Mae cwmnïau sy’n defnyddio rhwydwaith Openreach yn cynnwys BT, EE, Sky, TalkTalk a Vodafone.) Nid oes modd i chi ddefnyddio’r broses yma os oes gennych ffeibr i’r adeilad neu wasanaeth ‘ffeibr-llawn.’

O dan y broses hon, does dim rhaid i chi gysylltu â’ch darparwr presennol o gwbl. Yn lle hynny, gall eich darparwr newydd drefnu’r trosglwyddo ar eich rhan.

Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu â'ch darparwr newydd i ddechrau’r broses newid, mae'n rhaid i'ch darparwr newydd a'r hen ddarparwr anfon llythyr atoch chi i roi gwybod i chi am y newid.

Rhaid i’r llythyr gan eich hen ddarparwr gynnwys manylion:

  • y gwasanaethau a fydd yn newid;
  • unrhyw wasanaethau na fydd hyn yn effeithio arnynt; ac
  • unrhyw ffioedd sy’n daladwy os ydych chi’n gadael eich contract yn gynnar.

Rhaid i’r llythyrau gynnwys manylion am y newid hefyd, gan gynnwys amcangyfrif o ba bryd y bydd hyn yn digwydd.

Newid rhwng rhwydweithiau

Os ydych chi’n newid i, neu o, ddarparwr nad yw’n defnyddio rhwydwaith Openreach – fel gwasanaeth cebl Virgin Media – dylech gysylltu â’ch darparwr presennol i ganslo eich gwasanaeth, ac yna cysylltu â darparwr newydd i ddechrau cael gwasanaeth ganddo.

Bydd eich hen ddarparwr yn cadarnhau bod eich contract yn dod i ben – ac yn egluro unrhyw ffioedd a all fod yn daladwy – a bydd eich darparwr newydd yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pa bryd bydd eich contract newydd yn dechrau.

Newid bwndel

Os ydych chi’n defnyddio bwndel o wasanaethau gan ddarparwr, er enghraifft ffôn cartref a band eang, byddwch yn dilyn un o’r prosesau a ddisgrifir uchod fel rheol.

Ond, os ydych chi'n newid darparwr er mwyn cael bwndel sy'n cynnwys gwasanaeth teledu, mae'n bosibl y bydd rhai gwahaniaethau - yn enwedig os yw'r newid yn golygu canslo gwasanaeth teledu lloeren. Gall eich darparwr newydd roi gwybodaeth i chi am hyn.

Os byddwch chi’n cael gwasanaeth llinell sefydlog a band eang gan yr un darparwr, mae’n debyg y bydd newid eich darparwr band eang yn golygu newid eich gwasanaeth llinell sefydlog ar yr un pryd. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n fodlon gwneud hynny cyn ymrwymo i un o’r cynigion hyn.

Ffioedd gadael yn gynnar a chyfnod callio

Os ydych chi eisiau newid darparwr cyn i gyfnod eich contract sylfaenol ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd terfynu’n gynnar (onibai nad ydych yn cael y cyflymderau ag addawyd i chi). Gofynnwch i’ch darparwr presennol a fydd angen i chi dalu unrhyw ffi pan fyddwch chi’n newid.

Cofiwch, bydd gennych chi gyfnod o 14 diwrnod calendr i newid eich meddwl. Yn ystod y cyfnod hwn gallwch ganslo eich cais i newid darparwr band eang – heb orfod talu ffi.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?