Darpariaeth a chyflymderau

Phones-Coverage

Cysylltu’r Gwledydd - Osodiadau Rhwydwaith Cynlluniedig 2025

Cyhoeddwyd: 8 Mai 2025

Mae ein hadroddiad yn 2025 ar leoliadau arfaethedig o rwydweithiau capasiti uchel iawn yn archwilio'r cynnydd mewn darpariaeth rhwydwaith ffibr llawn a gigabit a ragwelir erbyn diwedd 2027.

Cysylltu’r Gwledydd - Osodiadau Rhwydwaith Cynlluniedig

Cyhoeddwyd: 17 Hydref 2023

Diweddarwyd diwethaf: 8 Mai 2025

Mae Adroddiad PND Ofcom yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi i ategu ein hadroddiadau seilwaith (a elwir yn adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd). Mae sail a phwrpas yr adroddiad hwn wedi’u nodi isod ac maent yn rhoi cyd-destun pwysig i’r wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi.

Cysylltu'r Gwledydd ac adroddiadau seilwaith

Cyhoeddwyd: 19 Rhagfyr 2023

Diweddarwyd diwethaf: 8 Mai 2025

Adroddiadau blynyddol am fand eang sefydlog, rhwydweithiau symudol a Wi-Fi, teledu digidol, radio digidol a seilwaith y rhyngrwyd.

Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2025

Cyhoeddwyd: 8 Mai 2025

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg o’r ddarpariaeth symudol ac argaeledd band eang sefydlog ar draws y DU fel yr oedd y sefyllfa ym mis Ionawr 2025. Mae’n ddiweddariad interim i’n Hadroddiad Cysylltu’r Gwledydd 2024 (CN2024), a oedd yn seiliedig ar ddata band eang sefydlog o fis Gorffennaf 2024 ymlaen a data darpariaeth symudol o fis Medi 2024 ymlaen.

Paratoi ar gyfer diffodd rhwydweithiau 2G – dyfeisiau sy’n defnyddio SIMs trawsrwydweithio rhyngwladol: Data Darpariaeth Rhwydwaith 2G a ‘Mannau Di-gyswllt o ran Gwasanaethau Trawsrwydweithio 2G i Mewn’

Cyhoeddwyd: 17 Ebrill 2025

Diweddarwyd diwethaf: 2 Mai 2025

Rhestr o godau post sy’n cynnwys adeiladau lle rhagwelir y bydd SIMs trawsrwydweithio rhyngwladol yn colli darpariaeth 2G dan do unwaith y bydd Virgin Media O2 (O2) yn rhwystro gwasanaethau trawsrwydweithio i mewn ar ei rwydwaith 2G, gan mai O2 yw’r unig weithredwr rhwydweithiau symudol sy’n darparu 2G yn y lleoliadau hyn.

Diffodd rhwydweithiau 2G a 3G: Cyngor i gyflenwyr dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thrydydd parti

Cyhoeddwyd: 8 Medi 2023

Diweddarwyd diwethaf: 17 Ebrill 2025

Bydd darparwyr rhwydweithiau symudol (MNO) y DU yn diffodd eu rhwydweithiau 3G ac yna’u rhwydweithiau 2G dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r dudalen hon yn esbonio sut y gall cyflenwyr dyfeisiau'r Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thrydydd parti helpu eu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod pontio hwn.

Adroddiadau’r cenhedloedd 2024

Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2025

Mae'r adroddiadau hyn yn archwilio argaeledd gwasanaethau band eang a symudol ym mhob un o wledydd y DU.

Codau ymarfer

Cyhoeddwyd: 28 Ebrill 2010

Diweddarwyd diwethaf: 7 Ebrill 2025

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sector telegyfathrebiadau sy’n ffynnu lle gall cwmnïau gystadlu’n deg a gall busnesau a chwsmeriaid fanteisio ar ddewis eang o wasanaethau. Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar wybodaeth ac ymchwil ar gyfer y diwydiant telegyfathrebiadau ac yn cynnwys y codau ymarfer.

Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2024

Cyhoeddwyd: 24 Ebrill 2024

Diweddarwyd diwethaf: 28 Mawrth 2025

Dyma ddiweddariad dros dro i'n hadroddiad blynyddol Cysylltu’r Gwledydd diwethaf, fu'n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Medi 2023. Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar argaeledd band eang sefydlog a darpariaeth symudol yn y DU ym mis Ionawr 2024.

Data downloads

Cyhoeddwyd: 2 Ionawr 2024

Diweddarwyd diwethaf: 28 Mawrth 2025

We have made some of the data that underpins the Connected Nations 2023 report available to download. This data allows us to make year-on-year comparisons of the state of the UK’s communications infrastructure.

Yn ôl i'r brig