Fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu

12 Rhagfyr 2023

Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau band eang sefydlog a gwasanaethau rhyngrwyd symudol yn flaenoriaeth i Ofcom. Rydyn ni am i bobl allu cael gafael ar wasanaethau o ansawdd uchel am brisiau y maen nhw’n gallu eu fforddio.

Ers mis Rhagfyr 2020, rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n:

  • rhoi crynodeb o’n hymchwil i fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu; a
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd, ymwybyddiaeth a’r nifer sy’n defnyddio tariffau band eang cymdeithasol.

Crynodeb o’r canfyddiadau – Ebrill 2023

Fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu: Diweddariad Ebrill 2023 (PDF, 784.1 KB)

Ein gwaith ar dariffau cymdeithasol

Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill. Gall y pecynnau rhatach hyn helpu aelwydydd i fforddio eu gwasanaethau cyfathrebu. Ers mis Rhagfyr 2020, mae mwy a mwy o ddarparwyr band eang sefydlog a symudol yn cyflwyno tariffau cymdeithasol – sy’n golygu eu bod bellach ar gael i nifer dda o gartrefi ledled y DU. Ond rydyn ni hefyd wedi gweld bod y nifer sy’n manteisio arnynt (fel cyfran o’r aelwydydd cymwys) yn dal yn isel.

Byddwn yn parhau i fonitro argaeledd tariffau cymdeithasol yn y marchnadoedd band eang sefydlog a band eang symudol. Byddwn hefyd yn diweddaru ein gwefan gan nodi rhestr o’r tariffau sydd ar gael.

Ein hymchwil ar fforddadwyedd

Drwy ein Traciwr Fforddadwyedd Cyfathrebu, sy’n cael ei gyhoeddi bob chwarter blwyddyn, byddwn yn parhau i asesu agweddau ac ymddygiad defnyddwyr o ran fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu, a sut maen nhw’n newid.

Adroddiadau hŷn