Gwasanaethau rhaglenni teledu ac ar-alw: Adroddiad ar wasanaethau mynediad ar gyfer chwe mis cyntaf 2022

26 Mai 2022

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n rhaid i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch; mae’r Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.

Ar ôl aflonyddwch i ddarpariaeth gwasanaethau mynediad ar nifer o sianeli yn Hydref 2021, dychwelodd lefelau'r ddarpariaeth yn ôl i'r drefn arferol yn hanner cyntaf 2022. Mae Ofcom yn arbennig o falch o weld cynnydd parhaus yn nifer y sianeli sy'n darparu is-deitlo ar eu holl raglennu bron (dros 98%). Rhwng Ionawr a Mehefin 2022, darparodd 40 o sianeli is-deitlau ar y lefelau hyn, o'i gymharu â 32 yn yr un cyfnod y llynedd.

Yn fwy cyffredinol, mae pob sianel ar y trywydd iawn i gwrdd neu ragori ar eu cwotâu blwyddyn lawn ar gyfer 2022. Mae'n rhaid i sianeli fodloni eu gofynion gwasanaethau mynediad ar bob un o'u llwyfannau cyflwyno rheoledig.

Gall sianeli domestig gyda rhwng 0.05% a 1% o gyfran y gynulleidfa naill ai ddarlledu 75 munud o raglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion bob mis neu gymryd rhan yn nhrefniadau amgen sydd wedi’u cymeradwyo gan Ofcom sy’n cyfrannu at argaeledd rhaglenni sy'n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion.

Pan ddangosir "BSLBT Contribution” yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi gwneud cyfraniad at Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT), sy'n comisiynu rhaglenni a gyflwynir gydag iaith arwyddion ac a ddarlledir ar sianeli Film4 a Together.

Pan fo "Exempt" wedi'i nodi yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y sianeli hyn wedi'u heithrio rhag darparu disgrifiadau sain. Mae hyn oherwydd natur y cynnwys a ddarlledir ar y gwasanaethau hyn sy'n golygu nad oes llawer o le o fewn y deunydd sain i ddarparu disgrifiadau sain.

Fel yn adroddiad hanner ffordd trwy'r flwyddyn y llynedd, ni fyddwn yn adrodd ar hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw ("ODPS") ar hyn o bryd a byddwn yn cyhoeddi data ar gyfer y flwyddyn lawn 2022 yng Ngwanwyn 2023.

Adroddiad rhyngweithiol

Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn fformat rhyngweithiol fel y gallwch gymharu hygyrchedd gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau.

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde isaf).

Noder bod yr isod yn Saesneg yn unig.

Mae'r set ddata lawn hefyd ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat CSV (Saesneg yn unig).

Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u diwallu gan y cyhoeddiadau hyn, ac os hoffech ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, gallwch anfon e-bost accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333. Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.