BTTT 5 Oct WEB

Cyngor i gwsmeriaid TalkTalk yn dilyn y cyhoeddiad bod y cwmni wedi'i gaffael gan BT

Cyhoeddwyd: 5 Hydref 2026

Heddiw, cyhoeddwyd bod cytundeb wedi’i wneud i BT Group gaffael TalkTalk Group.

Os ydych chi'n gwsmer TalkTalk, byddwch yn parhau i fod yn gwsmer TalkTalk ac nid oes angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol. Ni fydd unrhyw newid i'ch pris, eich contract na'r ffordd rydych chi'n cael mynediad at eich biliau. Dylech allu parhau i ddefnyddio'ch llinell dir, band eang a'ch gwasanaeth teledu-drwy-dâl yn ystod y cyfnod pontio ac wedi hynny. Os bydd unrhyw beth yn newid yn y dyfodol, bydd BT yn cysylltu'n uniongyrchol â'r cwsmeriaid yr effeithir arnynt ac yn rhoi rhybudd a chymorth clir.

Bydd Ofcom yn parhau i gyflawni ein rôl wrth ddiogelu defnyddwyr. Byddwn yn cadw llygad agos ar y broses bontio hon i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr yn cael eu diogelu, ac rydym mewn cysylltiad â BT i danlinellu ein disgwyliadau.

Os ydych chi’n ystyried newid i ddarparwr gwahanol, bydd angen i chi weld a ydych chi tu mewn neu allan o gontract. Os byddwch chi’n newid cyn diwedd cyfnod gofynnol eich contract, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau terfynu cynnar. Am gyngor ar sut i newid, edrychwch ar ein hwb defnyddwyr.