Global Online Safety Regulators Network logo

Ofcom yn ymuno â rheoleiddwyr diogelwch ar-lein rhyngwladol ar wiriadau oedran

Cyhoeddwyd: 22 Ionawr 2026

Mae Ofcom a rheoleiddwyr diogelwch ar-lein rhyngwladol wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at bwysigrwydd gwiriadau oedran wrth ddiogelu plant ar-lein. 

Heddiw, mae'r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang (GOSRN), sy'n dwyn ynghyd rheoleiddwyr diogelwch ar-lein ledled y byd, wedi nodi ei farn a'i ddisgwyliadau ar y rôl bwysig y mae sicrwydd oedran yn ei chwarae yn yr ymdrech fyd-eang i ddiogelu plant. 

Yn Ofcom, rydym yn cydnabod bod niwed ar-lein yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol, a bod mynd i'r afael â’r mater hwn yn gofyn am ddull cydgysylltiedig gan ystod o sefydliadau rhyngwladol. Mae’n bwysig, yn hyn o beth, fod rheoleiddwyr yn ymgynnull i rannu gwybodaeth ac arferion gorau ac i nodi bylchau rheoleiddiol. 

Yn y DU, mae gwiriadau oedran yn gonglfaen i'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ac mae rheolau Ofcom sy'n ei gwneud yn ofynnol i wefannau ac apiau gael sicrwydd oedran hynod effeithiol wedi bod mewn grym ers mis Gorffennaf. Ar hyn o bryd, rydym yn monitro cydymffurfiaeth y gwasanaethau ac wedi agor ymchwiliadau i 83 o safleoedd i oedolion fel rhan o'n rhaglen gorfodi. Yn ddiweddar, gwnaethom roi dirwy o £1 miliwn i AVS, darparwr gwasanaethau oedolion, am fethu â rhoi gwiriadau oedran hynod effeithiol ar waith. 

Pedwar maes ffocws

Heddiw, mae GOSRN wedi nodi pedair egwyddor allweddol ar gyfer sut y dylai rheoleiddwyr fynd i'r afael â sicrwydd oedran, a fydd yn helpu i lywio gwaith Ofcom a'n partneriaid rheoleiddio rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod:

  • Mae sicrwydd oedran yn chwarae rhan sylfaenol wrth ddiogelu plant rhag cynnwys niweidiol a sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn gallu darparu profiad sy'n briodol i oedran i ddefnyddwyr sy’n blant. 
  • Dylai darparwyr gwasanaeth gadw at egwyddorion craidd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau wrth ddefnyddio sicrwydd oedran, gan gynnwys cywirdeb, dibynadwyedd a thegwch.
  • Mae cadw at gyfreithiau diogelu data a chynnal hawliau defnyddwyr i breifatrwydd a mynegiant yn bethau na ellir cyfaddawdu arnynt, lle bynnag y defnyddir sicrwydd oedran. 
  • Mae deddfau ond cystal â'r gwaith o’u gorfodi, ac mae'n rhaid i reoleiddwyr sicrhau bod gofynion sicrwydd oedran yn cael eu gorfodi yn deg, yn dryloyw ac yn gymesur.

Gall cydlynu rhyngwladol ysgogi gwelliannau ystyrlon mewn diogelwch plant ar-lein, ac yn ei gynllun strategol tair blynedd, ymrwymodd GOSRN i wella cydlyniant rheoleiddiol ar draws gwaith diogelwch ar-lein ei aelodau. Mae'r cyhoeddiad heddiw hefyd yn nodi sut y bydd y Rhwydwaith yn gwneud hyn ar gyfer sicrwydd oedran.

Mae adroddiad diweddar Diogelwch Ar-lein Ofcom yn 2025 yn amlinellu ein ffocws ar ysgogi cydymffurfiaeth â'n rheolau gwirio oedran cyfredol, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'n partneriaid rheoleiddio rhyngwladol i ddiogelu plant ar-lein.