Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd Cynllun Gwaith Ofcom ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27, yn dilyn ymgynghoriad ar ein hamcanion lefel uchel ar gyfer gwneud bywyd yn fwy diogel ar-lein. Ni all dogfen fer sy'n ceisio cwmpasu holl waith Ofcom gynnwys yr holl ystyriaethau cystadleuol y gwnaethom eu hystyried. Mae'r erthygl hon yn taflu goleuni ar rai o'r dewisiadau allweddol a'r penderfyniadau rydyn ni wedi'u gwneud.
Gadewch i mi wneud dau bwynt i ddechrau. Yn gyntaf, rydym yn gyrru cydymffurfiaeth cwmnïau â'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ac ar yr un pryd, yn rhoi’r rhannau sy'n weddill o'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith. Rydym hefyd yn paratoi ar gyfer llu o fentrau diogelwch ar-lein deddfwriaethol a rheoleiddiol newydd a gyflwynir gan y llywodraeth. Yn ail, mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ddarn o ddeddfwriaeth hynod uchelgeisiol: mae'n cwmpasu dros 130 o droseddau blaenoriaeth ac mae mwy na 100,000 o wasanaethau o fewn ei gwmpas.
O ystyried hyn i gyd, mae angen i ni ddewis ble i ganolbwyntio ein hymdrechion. Os byddwn yn ceisio gwneud gormod ar unwaith, ni fyddwn yn gallu gyrru newid effeithiol a chynaliadwy i ddefnyddwyr y DU. Oherwydd pan mae popeth yn flaenoriaeth, does dim byd yn flaenoriaeth. Byddaf yn esbonio'r gwaith gweithredu a pharatoi yn gyflym cyn symud ymlaen i siarad yn fanylach am ein dewisiadau cydymffurfio.
Gweithredu'r Ddeddf bresennol
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith gweithredu sydd gennym ar ôl i’w wneud yn cael ei bennu gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ei hun. Eleni, rhaid i ni gyhoeddi adroddiadau statudol ar effeithiolrwydd sicrwydd oedran, tueddiadau mewn cynnwys sy'n niweidiol i blant a siopau apiau.
Rydym yn darparu cyngor ar Hysbysiadau Technoleg y mis hwn. Yna, byddwn yn cyhoeddi'r gofrestr o wasanaethau wedi'u categoreiddio yn yr haf, ynghyd ag ymgynghoriad ar y dyletswyddau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau hyn, gan gynnwys cod ymarfer drafft ar hysbysebu twyllodrus. Byddwn yn cyhoeddi Codau wedi'u diweddaru yn yr hydref, gyda mesurau diogelwch ychwanegol, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial ac offer cymedroli cynnwys awtomataidd eraill. Rydym wedi penderfynu cyflwyno ein mesurau ymateb i argyfwng yr haf. Mae rhagor o fanylion wedi'u cynnwys yn y diweddariad Map Ffordd a gyhoeddwyd heddiw.
Deddfwriaeth newydd
Bydd angen gwaith polisi sylweddol gan Ofcom er mwyn gweithredu deddfwriaeth ddiweddar neu deddfwriaeth sydd ar ddod. Rydym eisoes yn gweithio ar rai troseddau blaenoriaeth newydd pwysig o dan y Ddeddf, er enghraifft lansio ymgynghoriad newydd ym mis Mawrth i ehangu ein Codau fel eu bod yn cynnwys troseddau annog hunan-niweidio difrifol a seiberfflachio.
Mae'r Ddeddf Troseddu a Phlismona, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ddiwedd mis Ebrill, yn cyflwyno dyletswyddau pellach ar gyfer gwasanaethau a bydd angen rheolau manwl gan Ofcom. Mae'r rhain yn cynnwys dyletswyddau i dynnu delweddau personol heb ganiatâd i lawr o fewn 48 awr a'u hadrodd i gofrestrfa ganolog, cyhoeddi Hysbysiadau Cadw Data awtomatig yn achos marwolaeth, a phŵer i'r Llywodraeth ddod â mwy o wasanaethau GenAI i o fewn cwmpas y Ddeddf.
Ar ben hynny, mae ymgynghoriad pwysig y llywodraeth ar baratoi plant ar gyfer y dyfodol mewn oes o newid technolegol cyflym yn cynnwys llawer o gynigion a fyddai – pe baent yn cael eu mabwysiadu – yn creu dyletswyddau newydd ac yn gofyn am waith polisi cynhwysfawr i'w gweithredu. Rydym yn cadw llygad manwl ar yr ymgynghoriad ac rydym wrth law i gynghori'r llywodraeth ar sut y byddai'r dyletswyddau newydd yn rhyngweithio â'r rheolau presennol a sut y gellid eu gweithredu.
Gyrru newid
Daeth rhannau cyntaf y Ddeddf i rym ym mis Mawrth 2025 ac yn ystod y flwyddyn gyntaf o reoleiddio, ein prif flaenoriaeth oedd diogelu plant. Rydym yn falch o'r newidiadau rydym wedi'u gyrru hyd yn hyn.
O ganlyniad i'n hymyriadau, mae’r deg safle pornograffi mwyaf poblogaidd yn y DU, a'r rhan fwyaf o'r 100 mwyaf poblogaidd, bellach yn defnyddio gwiriadau oedran i gadw plant draw. Rydym wedi agor ymchwiliadau i bron i gant o wasanaethau, gan sicrhau newidiadau i amharu ar y gallu i rannu deunydd cam-drin plant yn rhywiol, ac rydym wedi cymryd camau yn erbyn platfformau porn a fethodd â chydymffurfio â'r rheolau newydd.
Mae Roblox bellach yn defnyddio gwiriadau oedran i atal oedolion rhag cysylltu â phlant nad ydynt eisoes wedi’u cysylltu â nhw, ac mae apiau cariad fel Tinder, Grindr, Bumble a Hinge hefyd bellach yn defnyddio gwiriadau oedran i atal cyswllt amhriodol rhwng oedolion a phobl dan 18 oed. Mae platfformau mawr, gan gynnwys X, Telegram, Discord, Reddit, Bluesky, Xbox a Steam hefyd wedi cyflwyno gwiriadau oedran.
Gosod ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu
Gyda'r flwyddyn ariannol newydd wedi cychwyn, mae ein rhaglenni cydymffurfio yn ehangu. Wrth benderfynu ble i gyfeirio ein hadnoddau, mae angen i ni daro cydbwysedd rhwng mynd i'r afael â'r niwed mwyaf cyffredin, fel twyll, a mynd i'r afael â'r niwed llai cyffredin ond mwyaf difrifol, fel cam-drin plant yn rhywiol a meithrin perthynas amhriodol.
Yn yr un modd, mae angen i ni benderfynu i ba raddau y dylem ganolbwyntio ein hymgyrchoedd cydymffurfio ar yr enwau mwyaf cyfarwydd, o gymharu â’r gwasanaethau llai sy'n cael eu cyrchu'n llai aml ond sy'n peri'r risg fwyaf o niwed difrifol neu angheuol.
Mae'r ateb, yn anochel, yn cynnwys cyfuniad o’r cyfan. Y ffactorau canlynol sy’n llywio ein dewisiadau: faint o bobl sy'n defnyddio gwasanaeth, pa mor ddifrifol y gall y niwed fod, a yw defnyddwyr yn arbennig o agored i niwed, a oes problemau eang sy'n parhau i ddigwydd, a sut mae gwasanaethau’n gweithredu pan ddaw risgiau i’r amlwg.
Byddwn bob amser yn cael ein harwain gan y dystiolaeth. Mae ein tîm Data a Deallusrwydd newydd yn casglu gwybodaeth o'n hymchwil ein hunain, data yr ydym yn gofyn amdano’n ffurfiol gan wasanaethau, deallusrwydd a gyflenwir gan ein partneriaid mewn cymdeithas sifil neu orfodi'r gyfraith, a'r rhai sydd â phrofiad byw.
Ar gyfer 2026-27, yn ogystal â pharhau i weithredu ar ddiogelu plant, byddwn yn canolbwyntio ymdrechion ar wrthsefyll terfysgaeth a chasineb anghyfreithlon, a gwella diogelwch menywod a merched ar-lein. Mae hynny'n golygu y bydd ein hamryw staff arbenigol – ymchwil, goruchwylio, gorfodi, technolegwyr, cyfreithwyr a dadansoddwyr – yn gweithio tuag at yr un nod, sef sicrhau canlyniadau yn y meysydd blaenoriaeth hyn.
Wrth gwrs, mae'r holl ddyletswyddau cyfreithiol a throseddau perthnasol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn parhau i fod yn berthnasol – nid yw ein blaenoriaethu yn newid yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ofyn. Felly, er y bydd y rhan fwyaf o'n staff yn cefnogi ein blaenoriaethau, byddwn hefyd yn ymyrryd y tu hwnt iddynt.
Lle bynnag y mae'n ymddangos bod achosion difrifol o dorri'r Ddeddf, byddwn yn rhoi sylw iddynt ar unwaith ac yn gweithredu lle bo'n briodol, fel y gwnaethom gyda'n hymchwiliad i fforwm hunanladdiad amlwg sy'n gysylltiedig â dros 100 o farwolaethau yn y DU neu'r ymchwiliad a lansiwyd gennym ym mis Ionawr i X dros ffugiadau dwfn rhywiol a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial.
Gwella amddiffyniadau i blant
Bydd ein rhaglenni gorfodi ar ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol a sicrwydd oedran yn parhau. Byddwn yn diweddaru ein dadansoddiad o algorithmau prif ddarparwyr ym mis Gorffennaf. Rydym wedi dweud wrth wasanaethau mawr a ddefnyddir gan blant i fodloni disgwyliadau clir ar wiriadau oedran effeithiol, amddiffyniadau yn erbyn meithrin perthynas amhriodol a deunydd cam-drin plant yn rhywiol, porthiannau ac argymhellion mwy diogel, a phrofi ac asesu risg priodol cyn lansio cynhyrchion newydd. Ymatebodd y gwasanaethau ddiwedd mis Ebrill, a byddwn yn adrodd yn gyhoeddus ar gynnydd yn ddiweddarach y mis hwn.
Dileu cynnwys anghyfreithlon, yn enwedig casineb a therfysgaeth
Mae adroddiadau o gynnydd pryderus mewn iaith gasineb ar-lein, gan gynnwys cynnydd diweddar mewn cynnwys gwrth-semitaidd. Nid oes lle i hyn yn ein cymdeithas ac rydym yn blaenoriaethu gweithredu ar gynnwys casineb a therfysgaeth anghyfreithlon. Byddwn yn pwyso ar wasanaethau i ddangos eu bod yn dod o hyd i'r deunydd hwn a'i ddileu. Ein ffocws yw sicrhau bod yr amddiffynfeydd sydd ganddynt ar waith – er enghraifft eu systemau cymedroli cynnwys – yn effeithiol. Byddwn yn darparu diweddariad ar y rhaglen gydymffurfio hon yn fuan.
Diogelu menywod a merched
Mae cam-drin delweddau personol yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, ac rydym yn gweithredu ar yr angen brys i'w diogelu. Byddwn yn adeiladu ar gamau gorfodi eleni i ffugiadau dwfn rhywiol, safle dinoethni a cham-drin rhywiol ar sail delweddau. Y mis hwn byddwn yn gosod safon dechnegol newydd – a elwir yn 'paru hash' – i atal uwchlwytho delweddau personol y mae’n hysbys nad ydynt yn gydsyniol. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau symud y tu hwnt gymryd camau adweithiol i dynnu delweddau i lawra sicrhau bod amddiffyniadau rhagweithiol yn gweithio'n effeithiol ar raddfa fawr, gan gynnwys wrth i fathau newydd o gam-drin dod i'r amlwg. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu cymryd camau gorfodi yn erbyn gwasanaethau sy'n methu â gwneud hynny.
Byddwn hefyd yn casglu tystiolaeth ar gyfer adroddiad yn 2027 ar sut mae cwmnïau technoleg wedi gweithredu’r arfer da a nodir yn ein canllawiau 'Bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched' a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025. Bydd yr adroddiad yn taflu goleuni ar y cynnydd a wnaed tuag at leihau niwed ar sail rhywedd ar-lein gyda'r bwriad o gyfeirio camau gweithredu yn y dyfodol.
Sut rydym yn gyrru newid
Yn syml, rydym yn gyrru newid trwy dair sianel. Yn gyntaf, trwy godi ymwybyddiaeth. Mae degau o filoedd o wefannau o fewn cwmpas y Ddeddf nad ydynt yn peri risgiau uchel o gynnwys anghyfreithlon neu i blant. Fodd bynnag, mae angen iddynt gynnal asesiadau risg i wirio eu bod yn cadw llygad barcud ar y mater. Mae gennym offer ac adnoddau digidol i gefnogi’r diwydiant i wneud hyn.
Yn ail, rydym yn goruchwylio 40 o'r gwasanaethau proffil uchaf yn uniongyrchol – o gyfryngau cymdeithasol, i gemau, peiriannau chwilio, cariad a Deallusrwydd Artiffisial. Mae goruchwylio’n cynnwys datblygu dealltwriaeth fanwl o fodelau busnes a systemau gweithredu cwmnïau, y cwmnïau eu hunain yn gwirio eu dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen arnynt, a ninnau’n gosod gofynion pwrpasol ar gyfer newid fesul cwmni.
Dyma'r rhan leiaf gweladwy o yrru cydymffurfiaeth, ond mae'n hanfodol –y symudiad i fabwysiadu gwiriadau oedran. Roedd hyn yn ganlyniad i ymgysylltiad dwfn dros fisoedd lawer. Rydym hefyd wedi nodi y byddwn yn cynnal mwy o'r sgyrsiau hyn yn gyhoeddus pan fyddwn o’r farn y byddant yn sbarduno mwy fyth o newid, fel adrodd yn ddiweddarach y mis hwn ar ymatebion y chwe gwasanaeth a ddefnyddir fwyaf gan blant i'n her ar draws pedwar maes allweddol.
Yn drydydd, gorfodi. Dyma'r elfen fwyaf gweladwy. Gallwn ddirwyo cwmnïau hyd at 10% o'u refeniw byd-eang cymwys (neu £18m, pa un bynnag sydd uchaf) am dorri rheolau’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Rydym wedi lansio mwy o ymchwiliadau diogelwch ar-lein dros y flwyddyn ddiwethaf nag unrhyw un o'n cyfoedion rheoleiddio rhyngwladol. Bydd ymchwiliadau bob amser yn rhan allweddol o'n pecyn cymorth, yn enwedig lle bydd gwasanaeth yn torri'r Ddeddf ac nad yw'n dangos unrhyw fwriad i gydymffurfio, neu'n os bydd yn ceisio osgoi rheoleiddio. Fodd bynnag, nid gorfodi yw’r dull gorau bob amser: gall goruchwylio yn aml ysgogi newid ystyrlon i ddefnyddwyr yn gyflymach, a gan fynnu llai o adnoddau.
Rhoi’r wybodaeth diweddaraf i chi
Byddwn yn parhau i'ch diweddaru ar ein gwaith goruchwylio a gorfodi, sut mae ein blaenoriaethau’n esblygu wrth i risgiau a thystiolaeth newydd ddod i'r amlwg, a'r gwelliannau y mae ein gwaith cydymffurfio yn eu hysgogi.
Cynnwys cysylltiedig