Rheolaeth rhieni ar gyfer consolau gemau

Cyhoeddwyd: 27 Awst 2026

Mae cyfran fawr a chynyddol o blant ar-lein ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Mae manteision gwych i fod ar-lein, gan gynnwys caniatáu i filiynau o ddefnyddwyr gyfathrebu â'i gilydd, chwilio a phori, eu cefnogi yn yr ysgol a darparu adloniant. Mae chwarae gemau ar-lein yn arbennig o boblogaidd ymhlith plant, er bod yna niwed posibl hefyd.

Bydd y canllaw hwn yn dangos i chi sut i ddod o hyd i wybodaeth  er mwyn helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys ar gonsolau gemau, tabledi a dyfeisiau clyfar eraill.

Defnyddia plant  amrywiaeth o ddyfeisiau i fynd ar-lein, er bod gan wahanol ddyfeisiau wahanol reolaethau rhieni.

Dyma'r opsiynau a gynigir gan rai o'r dyfeisiau mwyaf poblogaidd:

  • Mae gan y Sony PSP, PS3, PS4 a PS Vita osodiadau rhieni sy'n cyfyngu ar y mathau o gemau y gellir eu chwarae a'u lawrlwytho, yn ogystal â chynnwys fideo gall cael ei wylio. Fel arfer, mae rheolaethau rhieni i'w cael naill ai ar y sgrin gartref, neu yn y gosodiadau diogelwch.
  • Mae gan Nintendo Wii U reolaethau rhieni y gellir eu gosod i gyfyngu mynediad i rai nodweddion a allai fod yn anaddas ar gyfer oedran y plentyn sy'n defnyddio'r consol. Gellir dod o hyd i reolaethau rhieni ar Ddewislen Wii U.
  • Mae Nintendo 3DS yn caniatáu i chi gyfyngu mynediad i rai nodweddion a allai fod yn anaddas ar gyfer oedran y plentyn sy'n defnyddio'r consol. Gellir dod o hyd i reolaethau rhieni yn y gosodiadau Systemau.
  • Mae gan Nintendo Switch amryw o opsiynau rheoli rhieni fel y gall rhieni gyfyngu ar weithgareddau eu plant neu eu monitro. Mae ap Nintendo Switch Parental Controls am ddim ac yn ei gwneud hi'n haws gwneud hynny, hyd yn oed pan nad ydych chi gartref.
  • Mae'r consol Xbox 360 yn caniatáu i chi addasu a rheoli mynediad at gemau, ffilmiau a chynnwys teledu. Mae rheolaethau rhieni yn caniatáu ichi gyfyngu ar gynnwys fel gemau, ffilmiau a rhaglenni teledu, mynediad i Xbox Live a pha mor hir y gall defnyddiwr ddefnyddio'r consol yn ddyddiol neu'n wythnosol. Fel arfer, gellir dod o hyd i reolaethau rhieni naill ai ar y sgrin gartref, neu yn y gosodiadau system neu ddiogelwch.
  • Mae consolau Xbox One yn gofyn i ddefnyddwyr fewngofnodi gyda chyfrif. Mae consolau yn defnyddio ystod o osodiadau diofyn yn seiliedig ar fanylion deiliad y cyfrif. Er enghraifft, ar gyfer defnyddwyr 17 oed ac iau, mae pryniannau wedi’u rhwystro. Mae dau ddull o sefydlu rheolaethau rhieni ar eich Xbox One: naill ai drwy'r nodwedd 'Teulu', sy'n caniatáu i ddefnyddwyr grwpio cyfrifon defnyddwyr gyda'i gilydd ar gonsol; neu drwy fewngofnodi'n unigol i'r cyfrif yr hoffech ei gyfyngu.
  • Mae gan ddyfeisiau Google Play reolaethau rhieni i gyfyngu ar y cynnwys y gallwch ei lawrlwytho neu ei brynu o Google Play ar eich dyfais. Yn ddiofyn, mae rheolaethau rhieni wedi'u diffodd. I'w troi ymlaen, agorwch ap Play Store ar eich dyfais Android, sgroliwch i lawr i'r opsiwn Rheolaethau Rhieni, a chyrchwch yr opsiwn gosodiadau.

Cymryd camau i gadw'n ddiogel ar-lein

Mae'n bwysig cael sgyrsiau rheolaidd gyda phlant am aros yn ddiogel ar-lein. Dylai rhieni a gofalwyr annog eu plant i ddweud wrthynt am unrhyw beth maen nhw wedi'i weld neu ei glywed sydd wedi gwneud iddynt deimlo'n anghyfforddus neu'n ofnus. Dylai rhieni a gofalwyr adrodd digwyddiadau i'w darparwr gwasanaeth rhyngrwyd ac mewn achosion o gyswllt rhywiol i'r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Diogelu Ar-lein (CEOP) gan ddefnyddio eu botwm rhoi gwybod am gamdriniaeth.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod y gemau y mae plant yn eu chwarae yn briodol i'w hoedran. Mae graddfeydd oedran yn helpu i nodi a yw gêm yn addas i blant. Mae'n arfer da edrych ar y gêm a'i sgôr cyn caniatáu i'ch plentyn chwarae.

Gwefannau defnyddiol eraill