Woman on phone Hero (1336 × 560px) (1)

Miliwn o bobl wedi mapio eu ffôn symudol – ydych chi?

Cyhoeddwyd: 29 Mai 2026
    • Dyma garreg filltir yn y nifer y bobl sy'n defnyddio Mapio Eich Ffôn Symudol, y gwiriwr darpariaeth rhad ac am ddim gan Ofcom, i gymharu rhwydweithiau symudol
    • Rhowch eich cod post i mewn i gymryd y cam cyntaf tuag at wasanaeth gwell

    Datgelodd Ofcom heddiw, bod miliwn o bobl wedi defnyddio Mapio Eich Ffôn Symudol, gwiriwr ffôn symudol rhad ac am ddim, i helpu i osgoi colli galwadau, data araf a signal anghyson.

    Mae gwasanaeth gwirio darpariaeth ffôn symudol Ofcom yn caniatáu i ddefnyddwyr nodi eu cod post i gael map o ba rwydweithiau sydd ar gael yn yr ardal benodol honno, ochr yn ochr â sgôr sy'n dangos pa gwmni sy'n perfformio orau yn eu hardal bost.

    Mae'n caniatáu i unrhyw un weld pa rwydwaith sydd orau lle maen nhw'n byw, gweithio neu’n teithio, gan helpu pobl i ddewis y darparwr cywir cyn cofrestru neu newid, fel y gallant gael y gwerth am arian gorau posibl o'u contract.

    Gyda ffonau symudol bellach yn hanfodol ar gyfer popeth, o fancio i archebu apwyntiadau meddyg teulu, mae wedi dod yn offeryn hanfodol i ddefnyddwyr.

    Amser cael gwared ar signal gwael

    Mae'r gwiriwr yn defnyddio cymysgedd o ddata torfol o Opensignal sy'n seiliedig ar brofiadau go iawn bobl, yn ogystal â gwybodaeth ragfynegol o rwydweithiau symudol y DU.

    Mae'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gyda data cyfredol i gadw pethau'n gywir ac yn berthnasol, a gall defnyddwyr hyd yn oed rannu eu hadborth eu hunain.

    Gyda Mapio Eich Ffôn Symudol, gall pobl:

    • gweld pa rwydwaith sy'n perfformio orau yn eu hardal;
    • gwirio a yw'r sylw’n debygol o weithio y tu mewn i'r tŷ;
    • gwneud eu hymchwil cyn cofrestru ar gyfer cytundeb newydd.

    Haf o newid

    Gyda haf yn agosáu, mae'r posibilrwydd o wyliau, digwyddiadau a misoedd brig symud tŷ i gyd yn gwneud i bobl feddwl am eu contractau ffôn symudol [1].

    O wasanaeth anghyson ar wyliau cartref i broblemau crwydro annisgwyl dramor, yr haf yw’r adeg pan fydd pobl yn aml yn sylweddoli nad yw eu rhwydwaith yn darparu.

    Gyda Mapio Eich Ffôn Symudol, gallwch wirio'ch darpariaeth mewn eiliadau ar ofcom.org.uk/mobile 

    Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Seilwaith a Chysylltedd Ofcom: "Gall un gwiriad cyflym o'n teclyn rhad ac am ddim dangos i chi sut mae rhwydweithiau symudol yn cymharu yn eich ardal. Os yw'ch signal yn parhau i’ch siomi, mae angen i chi fapio'ch ffôn symudol".


    Nodiadau i olygyddion:

    1. Mae symudiadau tai yn y DU yn cyrraedd uchafbwynt ym mis Gorffennaf-Medi, gyda mwy na 600,000 o symudiadau yn y cyfnod gydag mis Awst y mis prysuraf unigol. Ffynhonnell: Cynghrair Perchnogion Cartrefi, 2024.