Gall sgamiau fod ar sawl ffurf wahanol, ond maen nhw’n rhannu'r un nod: eich twyllo i drosglwyddo arian neu wybodaeth bersonol. Deall sut mae pob math yn edrych yw'r cam cyntaf i ddiogelu’ch hun.
Defnyddiwch y dudalen hon i nodi'r math o gyswllt rydych chi wedi'i dderbyn. I gael cyngor ar beth i'w wneud nesaf, gweler Beth i'w wneud am alwad, neges destun neu neges sgam.
Sut i adnabod sgam – yr arwyddion
Mae'r rhan fwyaf o alwadau, negeseuon testun a negeseuon sgam yn rhannu nodweddion cyffredin. Byddwch yn wyliadwrus os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw un o'r canlynol.
- Cyswllt annisgwyl: galwad neu neges gan sefydliad nad oeddech chi'n ei ddisgwyl.
- Ceisiadau am fanylion personol neu ariannol: manylion banc, cyfrineiriau, PIN neu rif Yswiriant Gwladol.
- Dolenni amheus: dolen mewn neges neu neges nad oeddech chi'n ei disgwyl.
- Pwysau i'w gadw'n gyfrinachol: unigolyn yn dweud wrthoch chi am beidio â dweud wrth unrhyw un, gan gynnwys eich banc.
- Brys: dywedir wrthych fod yn rhaid i chi weithredu ar unwaith neu wynebu canlyniadau.
- Rhy dda i fod yn wir: gwobr annisgwyl, ad-daliad neu gyfle buddsoddi.
Os yw rhywbeth yn teimlo'n anghywir, gwrandewch ar eich greddf. Ni fydd galwyr dilys yn pwyso arnoch i weithredu ar unwaith. Mae bob amser yn fwy diogelu i roi’r ffôn i lawr, cymryd eich amser, a ffonio'r sefydliad yn ôl gan ddefnyddio rhif o'u gwefan swyddogol.
Mathau o alwadau scam
Galwad sy'n ymddangos fel ei bod yn dod gan sefydliad dibynadwy ond nad ydyw mewn gwirionedd
Gall sgamwyr newid eu ID caller, sef y rhif sy'n ymddangos ar sgrin eich ffôn. Gelwir hyn yn ffugio rhif (spoofing rhifau) ac mae'n golygu y gall galwad ymddangos fel petai'n dod o'ch banc, CThEM, cwmni dosbarthu, corff llywodraethol neu hyd yn oed Ofcom, ond mewn gwirioendd, galwad gan droseddwr ydyw. Y nod yw eich annog i rannu manylion personol, cyfrineiriau neu drosglwyddo arian. Efallai y bydd troseddwyr sydd wedi'u lleoli dramor hefyd yn newid eu rhif i ymddangos fel eu bod yn galw o'r DU. Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau ffôn rwystro galwadau o dramor sy'n dangos rhif llinell dir y DU, ond mae rhai yn llwyddo i fynd drwodd. Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw alwad annisgwyl sy'n gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol – rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch y sefydliad yn ôl gan ddefnyddio’r rhif ar eu gwefan swyddogol.
Galwad a gollwyd sydd â’r nod o’ch annog i ffonio rhif cyfradd premiwm
Mae'r sgamiau hyn yn defnyddio systemau awtomataidd i ddeialu nifer fawr o ffonau. Mae'r alwad yn para llai nag eiliad ac yn dangos ar eich ffôn fel galwad a gollwyd (missed call). Os byddwch chi'n galw yn ôl, rydych chi'n cysylltu â gwasanaeth cyfradd premiwm ac yn codi tâl cyhyd ag y byddwch chi'n aros ar y llinell. Mae rhifau yn aml yn dechrau 070, 076, 084, 087, 090, 091 neu 118, neu gallent fod yn rifau rhyngwladol anghyfarwydd. Gall galwadau i'r rhifau hyn fod yn ddrud iawn – edrychwch ar ein canllaw costau galwadau am fwy o fanylion.
- Os ydych chi'n cael galwad a gollwyd ar eich ffôn symudol gan rif nad ydych chi'n ei adnabod, peidiwch â'i ffonio yn ôl.
- Chwiliwch y rhif ar-lein – mae llawer o rifau sgam yn cael eu hadrodd gan bobl eraill sydd wedi derbyn galwadau ganddynt.
- Os ydych eisoes wedi ffonio yn ôl ac yn meddwl eich bod wedi cael eich codi tâl, cysylltwch â'ch darparwr symudol.
Sgamwyr sy'n ein dynwared ni, i gael eich gwybodaeth bersonol
Rydym wedi derbyn adroddiadau o alwadau sgam lle mae'r galwr yn honni ei fod yn dod o Ofcom, yn dweud bod problem gyda gwasanaeth ffôn neu fand eang y derbynnydd neu fil heb ei dalu, ac yn ceisio cael manylion banc neu gael y derbynnydd i wasgu botwm neu alw'n ôl.
Nid yw Ofcom yn gwneud galwadau digymell, nid yw byth yn gofyn am daliad dros y ffôn, a byth yn gofyn am eich manylion banc. Os ydych chi'n derbyn galwad fel hyn, rhowch y ffôn i lawr a rhowch wybod amdano i Report Fraud.
Galwadau digymell yn gwthio cyfleoedd buddsoddi ffug
Os ydych chi'n derbyn galwad annisgwyl sy'n cynnig buddsoddiad – fel cyfranddaliadau, cryptoarian, eiddo neu nwyddau – dylech ei thrin yn ofalus iawn. Nid yw cwmnïau buddsoddi cyfreithlon yn galw aelodau o'r cyhoedd. Mae'r sgamiau hyn yn defnyddio tactegau pwysau uchel ac addewidion o enillion uchel i'ch gwthio i wneud penderfyniad cyflym. Unwaith y bydd arian yn cael ei drosglwyddo, anaml y caiff ei adfer.
- Os ydych chi'n derbyn galwad buddsoddi digymell, rhowch y ffôn i lawr.
- Gwiriwch a yw'r cwmni wedi'i awdurdodi ar Gofrestr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol cyn gwneud unrhyw beth.
- Rhowch wybod am sgamiau buddsoddi i Report Fraud.
Testun a negeseuon sgam
Negeseuon sy'n esgus bod gan ffrind neu aelod o'r teulu mewn trafferthion
Mae'r sgamiau hyn yn cynnwys neges, sef neges destun neu WhatsApp yn aml, sy'n ymddangos fel pe bai rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cysylltu â chi. Maen nhw'n honni bod ganddyn nhw rif newydd ac yn gofyn am arian ar frys, gan ddisgrifio argyfwng yn aml. Y nod yw sbarduno ymateb emosiynol fel eich bod chi'n gweithredu cyn meddwl.
- Peidiwch ag anfon arian mewn ymateb i neges annisgwyl fel hyn.
- Cysylltwch â'r person y mae'r neges yn honni ei bod yn dod ganddo, gan ddefnyddio rhif sydd gennych eisoes ar eu cyfer, i wirio bod y neges yn ddilys.
- Os yw'r neges sgam yn dweud bod y person rydych chi'n ei adnabod wedi colli ei ffôn neu yn defnyddio rhif newydd, peidiwch â defnyddio'r rhif yn y neges i wirio. Ceisiwch gysylltu â nhw mewn ffordd arall, er enghraifft trwy ffonio eu hen rif, defnyddio ap negeseuon arall, neu ofyn i aelod arall o'r teulu.
- Peidiwch ag anfon arian os nad ydych 100% yn siŵr bod y neges yn ddilys.
Negeseuon testun sy'n esgus eu bod gan negesydd neu gwmni dosbarthu
Mae testun sgam cyffredin iawn yn dynwared cwmni dosbarthu fel y Post Brenhinol, DHL neu Evri, gan honni bod parsel yn aros neu bod ffi danfon yn ddyledus. Mae'r negeseuon hyn yn arbennig o gyffredin ar adegau penodol o'r flwyddyn fel y Nadolig neu ddydd Gwener Du (Black Friday). Mae'r neges yn cynnwys dolen. Gall clicio arni naill ai fynd â chi i wefan ffug sy'n dwyn eich manylion talu neu'n gosod meddalwedd maleisus sy'n gallu cael mynediad i'ch apiau bancio a'ch data personol.
Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun annisgwyl, hyd yn oed os ydynt yn edrych yn ddilys. Os ydych chi'n disgwyl parsel, ewch yn uniongyrchol i wefan swyddogol y negesydd i'w olrhain – peidiwch byth â defnyddio dolen mewn neges destun.
Os ydych eisoes wedi clicio dolen ac yn pryderu, cysylltwch â'ch darparwr symudol ar unwaith ac adroddwch y neges destun i 7726 a Report Fraud. Yn yr Alban, rhowch wybod am hyn i Heddlu'r Alban ar 101
Negeseuon testun sy'n esgus eu bod o'ch banc, CThEM, y GIG neu gyrff dibynadwy eraill
Mae sgamwyr yn anfon negeseuon testun sy'n ymddangos fel cyrff fel banciau, CThEM, y GIG, Trwyddedu Teledu neu sefydliadau adnabyddus eraill, gan honni bod problem gyda'ch cyfrif, bod ad-daliad ar gael i chi, neu fod taliad sy'n ddyledus. Mae'r testun fel arfer yn cysylltu â gwefan ffug, sy’n edrych yn realistig, sydd wedi'i chynllunio i ddwyn eich manylion.
- Anaml y mae sefydliadau cyfreithlon yn gofyn i chi glicio ar ddolen mewn neges destun i ddarparu manylion personol.
- Gwiriwch trwy fynd yn uniongyrchol i wefan swyddogol y sefydliad neu ffonio eu rhif swyddogol.
- Gwiriwch enw'r anfonwr yn ofalus, mae sgamwyr yn defnyddio enwau sy'n edrych yn debyg iawn i'r enw go iawn.
Negeseuon testun marchnata digroeso – nid ydynt bob amser yn sgam, ond yn dal i fod yn ddigroeso
Mae neges farchnata ddigymell yn neges sbam, fel arfer gan gwmni go iawn ond wedi'i hanfon heb eich caniatâd – er enghraifft am bynciau fel hawliadau anafiadau, rheoli dyled neu yswiriant.
Os yw'r anfonwr yn hysbys i chi, fel cwmni rydych chi wedi gwneud busnes ag ef, neu'n defnyddio ‘shortcode’ (rhif pump i wyth digid): atebwch ‘STOP’ i optio allan.
Os yw'r anfonwr yn anhysbys: peidiwch ag ateb. Anfonwch y neseg destun ymlaen at 7726 a rhoi gwybod amdani i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. (ICO)
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at ein canllaw i alwadau, negeseuon testun ac e-byst digroeso.
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at ein canllaw i alwadau, negeseuon testun ac e-byst digroeso
Cynnwys cysylltiedig