Dewis y darparwr band eang, symudol a llinell dir gorau

Cyhoeddwyd: 12 Ebrill 2017
Diweddarwyd diwethaf: 10 Chwefror 2026

Rydym eisiau i bawb gael y gorau o'u ffonau a'u band eang.

Rydym wedi casglu gwybodaeth gan gwsmeriaid preswyl a darparwyr i greu darlun o ansawdd y gwasanaeth yn y DU heddiw.

Chwiliwch gan ddefnyddio'r adroddiad rhyngweithiol isod i weld sut mae prif ddarparwyr ffôn symudol, band eang a ffôn cartref y DU wedi perfformio.

Mae mwy o fanylion am ddiffiniadau a methodoleg ar gael yn  ein hadroddiad Cymharu Gwasanaeth i Gwsmeriaid llawn.

Am ba wasanaeth ydych chi'n chwilio?

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr symudol

A fyddaf yn cael signal?

Mae cryfderau signal yn amrywio o fan i fan ac o ddarparwr i ddarparwr. Mae'n cael ei effeithio gan bethau fel pellter o'r mast a pha un a oes unrhyw adeiladau neu rwystrau naturiol yn y ffordd. I wirio pa signal rydych yn debygol o'i dderbyn yn y lleoedd rydych yn byw ac yn gweithio, gallwch fwrw golwg ar I wirio pa signal rydych chi'n debygol o'i dderbyn yn y lleoedd rydych chi'n byw ac yn gweithio, gallwch edrych ar wiriwr darpariaeth symudol Ofcom, Mapio eich ffôn symudol.  

Faint fydd yn costio?

Gall pris gwasanaeth symudol amrywio yn dibynnu ar  y darparwr, faint o ddata neu negeseuon testun/munudau rydych eu hangen, unrhyw nodweddion ychwanegol, hyd y contract a pha un a ydych yn prynu ffôn ai beidio hefyd. Mae'n bwysig ystyried y gost fisol yn ogystal ag unrhyw daliadau'n syth ar y dechrau.

Un ffordd o benderfynu a yw'r pris yn iawn i chi yw defnyddio gwefan cymharu prisiau. Mae Ofcom yn achredu gwasanaethau cymharu prisiau sy'n dryloyw, hygyrch, cywir, cynhwysfawr ac yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i'n holl aelodau restru eu cynigion o'r rhataf i'r drutaf (ar draws y contract cyfan). Gweler rhestr o wefannau achrededig.

Mae'n rhaid dweud wrth gwsmeriaid band eang, ffôn a theledu-drwy-dalu am fargeinion gorau eu darparwr pan fydd eu contract cychwynnol yn dod i ben, a bob blwyddyn wedi hynny os byddant yn parhau allan o gontract. Gweler mwy o wybodaeth am yr hysbysiadau hyn.

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr band eang

Faint fydd yn costio? A allaf gael llinell dir a theledu?

Gall pris contract amrywio, yn dibynnu ar y darparwr, y math o dechnoleg a ddefnyddir i ddarparu'r gwasanaeth, cyflymder pennawd y pecyn, unrhyw nodweddion ychwanegol neu gynhyrchion a fwndelir, hyd y contract, a pha un a oes ffioedd gosod ai beidio. Mae'n bwysig ystyried y gost fisol yn ogystal ag unrhyw daliadau'n syth ar y dechrau.

Un ffordd o benderfynu a yw'r pris a'r pecyn yn iawn i chi yw defnyddio gwefan cymharu prisiau. Mae Ofcom yn achredu gwasanaethau cymharu prisiau sy'n dryloyw, hygyrch, cywir, cynhwysfawr ac yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i'n holl aelodau restru eu cynigion o'r rhataf i'r drutaf (ar draws y contract cyfan). Gweler rhestr o wefannau achrededig.

Pa gyflymder fyddaf yn ei dderbyn?

Mae'n amhosib gwybod yn union pa gyflymder y byddwch yn ei dderbyn oherwydd y gall gael ei effeithio gan gynifer o bethau, gan gynnwys yr amser o'r dydd, faint o bobl a dyfeisiau sydd wedi'u cysylltu ar yr un pryd a pha un a ydych yn defnyddio cysylltiad dros Wi-Fi neu wifrau. Bydd darparwyr sy'n llofnodeion y codau ymarfer cyflymder band eang yn rhoi amcangyfrif o gyflymder i chi ar eu gwefan ac ar y pwynt gwerthu. Gall gwefannau cymharu prisiau ddweud wrthych chi hefyd pa lefelau cyflymder sydd ar gael yn eich ardal, a bydd teclyn gwirio darpariaeth band eang Ofcom yn nodi beth yw'r uchafswm cyflymder y gallwch ei gael.

Pethau eraill i'w hystyried wrth ddewis darparwr llinell dir

Faint fydd yn costio?

Gall pris contract amrywio, yn dibynnu ar y darparwr, unrhyw nodweddion ychwanegol, hyd y contract, a pha un a oes ffioedd gosod ai beidio. .Mae'n bwysig meddwl am y gost fisol yn ogystal ag unrhyw daliadau ymlaen llaw.

Os ydych yn prynu band eang hefyd, mae'n rhatach i'w prynu gyda'i gilydd fel arfer yn hytrach nag ar wahân. Os nad ydych ond yn prynu llinell dir, mae gennym gyngor ar ddewis y gwasanaeth iawn.

Un ffordd o benderfynu a yw'r pris yn iawn i chi yw defnyddio gwefan cymharu prisiau. Mae Ofcom yn achredu gwasanaethau cymharu prisiau sy'n dryloyw, hygyrch, cywir, cynhwysfawr ac yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i'n holl aelodau restru eu cynigion o'r rhataf i'r drutaf (ar draws y contract cyfan). Gweler rhestr o wefannau achrededig.

Rate this page

Was this page helpful?