
- Mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i fethiant y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau dosbarthu ar gyfer 2025/26
- Mae canlyniadau perfformiad y Post Brenhinol yn dangos bod y dosbarthu ymhell o dan y targedau
Ym mis Gorffennaf, moderneiddiodd Ofcom y rhwymedigaethau a osodir ar y Post Brenhinol i adlewyrchu gostyngiad serth yn nifer y llythyrau a anfonir. Yn ogystal â chaniatáu i lythyrau Ail Ddosbarth gael eu dosbarthu bob yn ail ddiwrnod gwaith, gwnaethom newidiadau i dargedau dosbarthu'r Post Brenhinol.
Mae'r Post Brenhinol bellach wedi dod i gytundeb gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i weithredu'r patrymau dosbarthu newydd. Disgwylir I'rcwmni gwblhau’r broses o gyflwyno’r model dosbarthu newydd erbyn y Nadolig. Fel y mynnwyd gan Ofcom, mae wedi nodi cynllun i wella'r gwasanaeth dosbarthu yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys ymrwymo i fuddsoddi £500 miliwn dros y pum mlynedd nesaf, a sefydlu llwybr chwarter wrth chwarter tuag at gyrraedd ei dargedau dosbarthu erbyn mis Ebrill nesaf.
Er bod y Post Brenhinol bellach yn gwneud cynnydd, mae wedi cymryd bron i flwyddyn er mwyn dechrau'r broses o weithredu'r diwygiadau dosbarthu. Yn y cyfamser, mae lefelau gwasanaeth wedi parhau i fod yn annerbyniol.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Post Brenhinol ei ganlyniadau perfformiad dosbarthu blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2026, gan ddangos mai dim ond 75.7% o bost Dosbarth Cyntaf a ddosbarthwyd y diwrnod gwaith nesaf – ymhell o dan ei darged bryd hynny o 93%. Dim ond 90.2% o bost Ail Ddosbarth a ddosbarthwyd o fewn tri diwrnod gwaith – hefyd ymhell o dan darged o 98.5%. [1]
Felly, rydym wedi agor ymchwiliad i'w berfformiad yn 2025/26.
Dywedodd Ian Strawhorne, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Mae gwasanaeth post dibynadwy yn hanfodol i lawer o bobl ledled y wlad. Rydym yn rhannu rhwystredigaethau dwfn cwsmeriaid sydd wedi colli llythyrau pwysig oherwydd methiant cyson y Post Brenhinol i wella ei wasanaeth dros y blynyddoedd. Er bod y cwmni bellach yn gwneud cynnydd trwy ei gynllun gwelliant, byddwn yn parhau i'w ddwyn i gyfrif am ei berfformiad annerbyniol hyd yn hyn."
Mae Ofcom yn disgwyl i'r Post Brenhinol ddechrau gweithredu'r cynllun gwella ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael ag anghenion a disgwyliadau newidiol cwsmeriaid mewn marchnad bost wedi’i thrawsnewid.
Ugain mlynedd yn ôl, roedd y Post Brenhinol yn dosbarthu 20 biliwn o lythyrau mewn blwyddyn. Mae hynny bellach wedi gostwng i 6.5 biliwn yn 2025 a disgwylir iddo ostwng ymhellach yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r Post Brenhinol wedi colli cannoedd o filiynau o bunnoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly mae'n rhaid iddo hefyd ddod yn fwy effeithlon i gwrdd â'r heriau hyn.
Sut mae Ofcom yn ymchwilio, a beth sy'n digwydd nesaf
Mae Ofcom yn mesur perfformiad dosbarthu'r Post Brenhinol yn erbyn targedau dosbarthu blynyddol cenedlaethol, o fis Ebrill i fis Mawrth, gan eithrio cyfnod y Nadolig. Gwneir hyn trwy brofion annibynnol o gannoedd o filoedd o eitemau post sy'n cael eu hanfon bob blwyddyn.
Wrth benderfynu a dorrodd y Post Brenhinol ei rwymedigaethau rheoleiddio, byddwn yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol. Bydd hyn yn cynnwys y cwestiwn o flaenoriaethu parseli, yn ogystal â nodi a oedd unrhyw ddigwyddiadau eithriadol y tu hwnt i reolaeth y cwmni a allai fod wedi effeithio ar ei berfformiad. Lle byddwn yn penderfynu bod rhwymedigaethau'r Post Brenhinol wedi’u torri yn ystod ein hymchwiliad, byddwn yn ystyried a ddylid gosod cosb ariannol.
Yn y gorffennol rydym wedi rhoi dirwy o fwy na £37 miliwn i'r Post Brenhinol am fethiannau dosbarthu.
Nodiadau i olygyddion:
- Yn 2024/25, targedau dosbarthu'r Post Brenhinol oedd 93% o bost Dosbarth Cyntaf i’w cael ei dosbarthu o fewn un diwrnod gwaith i'w gasglu, a 98.5% o bost Ail Ddosbarth i’w cael ei dosbarthu o fewn tri diwrnod gwaith i'w gasglu.
- O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae'r targedau priodol hyn bellach yn 90% ar gyfer y Dosbarth Cyntaf a 95% ar gyfer yr Ail Ddosbarth. Bydd y Post Brenhinol yn cael ei ddwyn i gyfrif am y targedau diwygiedig hyn yn y dyfodol.
- Ym mis Hydref 2025, gwnaethom roi dirwy o £21 miliwn i'r Post Brenhinol ar ôl methu â chyflawni ei dargedau dosbarthu Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth yn 2024/25; ym mis Rhagfyr 2024, gwnaethom roi dirwy o £10.5 miliwn iddo am fethu â chyflawni ei rwymedigaethau yn 2023/24; ac ym mis Tachwedd 2023, gwnaethom roi dirwy o £5.6 miliwn iddo am fethu â chyflawni ei rwymedigaethau yn 2022/23. Ni chanfuom fod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau rheoleiddiol yn 2021/22, 2020/21 a 2019/20, oherwydd effaith pandemig Covid-19 ar weithrediadau'r cwmni.
Cynnwys cysylltiedig