Gwybodaeth ar gyfer diwydiant
Sut mae Ofcom yn rhoi'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith, a beth mae hynny’n ei olygu i chi a’ch busnes.
Ofcom yw’r rheoleiddiwr diogelwch ar-lein o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Mae’r Ddeddf yn gwneud cwmnïau sy’n gweithredu ystod eang o wasanaethau ar-lein poblogaidd yn gyfreithiol gyfrifol am gadw pobl yn y DU, yn enwedig plant, yn ddiogel ar-lein. Mae'n rhaid i wasanaethau wneud hyn trwy asesu a rheoli risgiau diogelwch sy'n deillio o gynnwys ar eu gwefannau a'u hapiau.
Byddwn yn cyhoeddi arweiniad ac adnoddau eraill i'ch helpu i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud i ddilyn y rheolau.
Paratowch eich busnes
Dyma'r pethau y gallwch chi eu gwneud nawr i baratoi:
- Darllenwch ein canllaw i'r rheolau newydd – mae hwn yn esbonio i bwy mae’r rheolau’n berthnasol, beth maen nhw’n ei olygu, a beth sydd angen i chi ei wneud os ydyn nhw’n berthnasol i chi.
- Gwiriwch a yw'r rheolau'n debygol o fod yn berthnasol i chi – mae'n dibynnu ar y gwasanaeth rydych chi'n ei gynnig a'r cynnwys sydd arno.
- Darllenwch ein hymgynghoriad a rhannwch eich barn. Rydym wedi nodi sut yr ydym yn bwriadu rheoleiddio niwed anghyfreithlon. Gallwch ddarllen crynodeb o'n cynigion a chrynodeb o bob pennod o'r ymgynghoriad. Mae'r rhain yn rhoi gwybod i chi am bopeth y mae angen i chi ei wybod am y cynigion sy'n effeithio arnoch chi. Dweud eich dweud cyn y daw ein hymgynghoriad i ben ar 23 Chwefror 2024.
- Darllenwch ein dull rheoleiddio ac amserlenni i gael gwybod sut y bydd Ofcom yn rhoi’r Ddeddf ar waith.
Tanysgrifiwch i ddiweddariadau e-bost i dderbyn ein newyddion, gwybodaeth ac arweiniad diweddaraf.