Rhaglen cywain ymchwil a data Ofcom
Mae Ofcom yn rheoleiddiwr sy'n seilio ei waith ar dystiolaeth, felly mae ymchwil i'r farchnad yn bwysig i ni. Caiff llawer o'n penderfyniadau eu llywio gan dystiolaeth o ymchwil, ac mae ein hymchwil i'r farchnad yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth drylwyr, gadarn a diweddar o ddefnyddwyr yn y DU.
Ymchwil y farchnad
Rydym yn gweithio gydag asiantaethau ymchwil y farchnad annibynnol i gynnal ymchwil ymhlith defnyddwyr yr holl wasanaethau cyfathrebu, a chyda chyflenwyr arbenigol mewn meysydd megis cywain data ar y cyflymder band eang llinell sefydlog a symudol y bydd defnyddwyr yn eu derbyn mewn gwirionedd.
Ein harolygon tracio parhaus
Mae gennym nifer o arolygon tracio rheolaidd a chylchol a gynhelir unwaith y flwyddyn neu'n amlach, i roi data cyfres amser i ni am ymddygiad ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â dyfeisiau a gwasanaethau cyfathrebu. Mae'r arolygon tracio yn bwydo i mewn i amrywiaeth eang o gyhoeddiadau a phrosiectau Ofcom, a gellir gweld yr holl ddatganiadau data yn y calendr datganiadau ystadegol, ac ym mhorth data agored Ofcom.
Ymchwil ar gyfer ein cyhoeddiadau blynyddol rheolaidd
Mae ein cyhoeddiadau blynyddol megis Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu, adroddiad Ein Gwlad Ar-lein, adroddiad Cymharu Ansawdd Gwasanaeth, adroddiad Cysylltu'r Gwledydd, adroddiad Cyfryngau'r Genedl a'n hadroddiadau llythrennedd y cyfryngau, yn defnyddio data a gasglwyd o'n harolygon tracio, yn ogystal â data a gasglwn yn uniongyrchol gan ddarlledwyr a gweithredwyr telathrebu fel rhan o'n dyletswyddau rheoleiddio, ynghyd â data trydydd parti a brynwn gan ddarparwyr arbenigol.
Ymchwil ad-hoc gyda defnyddwyr
Rydym hefyd yn comisiynu darnau penodol o ymchwil wrth ymateb i bynciau newydd sy'n codi yn y marchnadoedd a reoleiddiwn, ac mewn perthynas â phryderon newidiol neu ddatblygol defnyddwyr. Ymysg enghreifftiau diweddar (2019) mae ymchwil i niwed ar-lein a gwefru ffonau symudol.
Cywain data
Mae ein tîm gwybodaeth y farchnad yn cywain ac yn dadansoddi gwybodaeth o'r diwydiant; yn uniongyrchol, drwy ddefnyddio ein pŵer i wneud ceisiadau ffurfiol; ac yn anuniongyrchol, drwy ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth trydydd parti. Mae'n monitro ac yn dehongli datblygiadau yn y farchnad a thueddiadau'r diwydiant, ar draws y sectorau cyfryngau a thelathrebu a diwydiannau perthnasol eraill, ar lefelau cwmnïau, sectorau, y DU a thramor. Rydym yn cyhoeddi diweddariadau data telathrebu chwarterol ac ystadegau cwynion telathrebu a theledu drwy dalu, a data cyflymder band eang.
Ble gallaf ddod o hyd i gyhoeddiadau ymchwil a data Ofcom?
Rydym yn cyhoeddi ein hymchwil, fel y gall pawb, gan gynnwys rhanddeiliaid y diwydiant a defnyddwyr, elwa ohono. Gallwch chwilio ein cyhoeddiadau ymchwil ar ein gwefan. Rydym hefyd yn cyhoeddi cymaint â phosibl o'n data crai fel data agored, mewn fformatau .csv ac agored tebyg. Mae tudalen 'Ffeithiau Cyflym', y gellir cyfeirio ati'n gyflym, hefyd.