Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched

Cyhoeddwyd: 24 Tachwedd 2025
Diweddarwyd diwethaf: 18 Mai 2026

Mae rhyngweithiadau ar-lein yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau bob dydd. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cael profiadau cadarnhaol ar-lein, i lawer o fenywod a merched gall bywyd ar-lein fod yn estyniad o ddeinameg rhywedd niweidiol sy'n bodoli mewn cymdeithas ehangach.

VAWG CYM

Mae menywod a merched yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan rai mathau o niwed ar-lein, megis cam-drin delweddau, seiberfflachio, ac ymddygiad rheoli neu orfodol.

Yn bwysig, mae gwahanol grwpiau o fenywod a merched yn cael eu heffeithio'n wahanol gan niwed ar-lein. Mae oedran, rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, hil ac ethnigrwydd, ynghyd â llawer o ffactorau eraill, yn dylanwadu ar brofiadau menywod a merched ar-lein.

Mae Ofcom yn cymryd amddiffyn menywod a merched ar-lein o ddifrif. Fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, rydym yn gweithio i wella diogelwch menywod a merched ar-lein.

Beth mae Ofcom yn ei wneud i greu bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched

Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gwneud llwyfannau technoleg – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau gemau, apiau chwilio am gariad, fforymau trafod a gwasanaethau chwilio – yn gyfreithiol gyfrifol am amddiffyn pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy'n niweidiol i blant, gan gynnwys niwed sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.

Mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi Codau a chanllawiau ar sut rydym yn disgwyl i lwyfannau technoleg fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy'n niweidiol i blant. Rôl Ofcom yw dal llwyfannau i gyfrif a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith, gan ddefnyddio ein pwerau gorfodi lle bo angen. Cyfrifoldeb gwasanaethau yw cydymffurfio â'r gyfraith, ond mae Ofcom wedi cynhyrchu adnoddau i helpu.

Mae Ofcom hefyd wedi cynhyrchu canllawiau sy'n nodi sut y gall llwyfannau gymryd camau yn erbyn cynnwys a gweithgaredd niweidiol sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, i gydnabod y risgiau unigryw y maent yn eu hwynebu ar-lein.

Mae Ofcom wedi cynnal ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid drwy gydol datblygiad y Canllawiau hyn, gan gynnwys cyfarfod â grŵp o oroeswyr cam-drin domestig, cynnal byrddau crwn gyda phobl ifanc, a chynnal gweithdai aml-randdeiliad ledled y DU. Wrth i ni ddatblygu ein gwaith i ysgogi pobl i ddefnyddio'r canllawiau, yn ogystal â'n gwaith o dan y Ddeddf yn ehangach, bydd Ofcom yn parhau â'r ymgysylltiad gwerthfawr hwn.

Darganfyddwch fwy am ein gwaith

Canllawiau Ofcom: Bywyd Mwy Diogel Ar-lein i Fenywod a Merched

Adnoddau ar gyfer ddarparwyr gwasanaeth

Ymchwil Ofcom

Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi cael eich effeithio gan y  niwed hwn, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, cymorth neu gyngor gan unrhyw un o'r sefydliadau hyn.