
- Gallai llawer o gwsmeriaid ffôn a band eang arbed mwy na £100 y flwyddyn drwy newid i gontract newydd, yn ôl dadansoddiad newydd
- Mae Ofcom wedi lansio Hwb Defnyddwyr gydag awgrymiadau ac adnoddau ymarferol ar gyfer arbed arian i bob cwsmer symudol, band eang a theledu-drwy-dalu – ofcom.org.uk/cy/areichochrchi
Mae tua thair miliwn a hanner o bobl wedi newid eu darparwr llinell dir neu fand eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda dadansoddiad newydd yn awgrymu y gallai llawer o gwsmeriaid sydd allan o gontract arbed dros £100.
Mae ymchwil Ofcom yn awgrymu y gallai llawer o gwsmeriaid sydd allan o gontract ac sydd â phecyn band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu gan yr un darparwr arbed mwy na £100 y flwyddyn drwy newid[1] Roedd un o bob tri o'r cwsmeriaid hyn allan o gontract y llynedd.[2]
Mae ein data hefyd yn dangos bod gwasanaethau cyfathrebu yn fforddiadwy i'r rhan fwyaf o bobl. Ond roedd 4% o gwsmeriaid telathrebu wedi methu o leiaf un taliad yn ystod y chwarter diwethaf – gan fod llawer yn cael trafferthion wrth i gostau byw gynyddu. Yn ogystal, dywedodd un o bob deg eu bod wedi gwneud newidiadau i wasanaeth (12%) neu wedi lleihau gwariant mewn mannau eraill (10%), ac roedd rhai cwsmeriaid (7%) wedi canslo’r gwasanaeth yn gyfan gwbl. [3]
Sut i arbed arian
Mae Ofcom wedi lansio hwb ar-lein newydd sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i bawb sydd eisiau arbed arian a chael y gorau o’u gwasanaethau cyfathrebu. Mae'r Hwb Defnyddwyr yn ofcom.org.uk/cy/areichochrchi yn cynnig llu o awgrymiadau arbed arian, help gyda phroblemau gwasanaeth cyffredin a chyngor ar sut i gwyno.
Mae cyngor syml hefyd ar newid cwmni ffôn symudol, llinell dir neu fand eang – mae’n haws nag erioed i wneud hyn. Mae proses 'un cam’ yn golygu mai dim ond siarad â'r darparwr band eang neu linell dir newydd sydd angen i chi ei wneud, heb fod angen i chi ddelio â’ch darparwr presennol. Mae mwy na 300 o ddarparwyr wedi cofrestru ar gyfer y broses newid, gan ei gwneud hi'n haws i chi siopa o gwmpas am fargen well.
Yn y ddwy flynedd ers lansio’r broses newid ar gyfer cwsmeriaid llinell dir a band eang, mae bron i 3.5 miliwn o bobl wedi manteisio arni. [4] Ewch i'r Hwb Defnyddwyr am ganllaw cam wrth gam a gwiriwr gwasanaeth band eang am ddim sy'n dangos pa fathau o fand eang a chyflymder sydd ar gael i chi.
Mae’r broses yn arbennig o syml ar gyfer cwsmeriaid ffonau symudol. Y cyfan sydd angen ei wneud yw anfon neges destun gyda’r gair 'PAC' i 65075. Does dim rhaid i chi siarad â'ch darparwr presennol. Ewch i'r Hwb i gael y manylion i gyd, ynghyd ag adnodd rhad ac am ddim Ofcom, Mapio eich Ffôn Symudol, sy'n dangos pa ddarparwr sy’n cynnig y signal a’r perfformiad symudol gorau yn eich ardal cod post chi. [5]
Dywedodd Natalie Black, Cyfarwyddwr Seilwaith a Chysylltedd Ofcom: "Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn teimlo'n bryderus bod eu biliau’n cynyddu dros y misoedd nesaf, ond gydag ychydig o gamau syml gallai rhai cwsmeriaid wneud arbedion mawr.
"Ein cyngor i bawb sydd â chontract band eang, ffôn symudol, teledu-drwy-dalu neu linell dir yw cadarnhau a ydych chi mewn neu allan o gontract, cymharu’r cynigion sydd ar gael, ac, os yw’n gwneud synnwyr i chi, ewch ati i newid ac arbed arian. Mae'r holl gyngor sydd ei angen arnoch yn ofcom.org.uk/cy/areichochrchi.[6]"
Nodiadau i olygyddion
- Yn ôl dadansoddiad o adroddiad Tueddiadau Prisio Ofcom 2025, mae cwsmeriaid sydd allan o gontract ac sy'n cymryd pecyn wedi'i fwndelu o deledu-drwy-dalu, band eang sefydlog a llinell dir yn talu £78 y mis ar gyfartaledd, o'i gymharu â £69 i gwsmeriaid mewn contract.
- Adroddiad Tueddiadau Prisio Ofcom 2025, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2026.
- Traciwr Fforddiadwyedd Ofcom, a gyhoeddwyd ar 14 Mai 2026.
- Yn ôl data The One Touch Switching Company (TOTSCO), roedd 3,431,195 o bobl wedi dechrau'r broses Newid un Cyffyrddiad ar 3 Medi 2026.
- Canllaw llawn Ofcom i newid darparwr symudol.
- Hwb Defnyddwyr Ofcom: Ar eich Ochr Chi.
Cynnwys cysylltiedig