Cadw mewn cysylltiad yn ystod tywydd garw

Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2026

Mae'r rhwydweithiau y mae ein gwasanaethau ffonau a band eang yn dibynnu arnynt yn bwysig. Maent yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, gweithio, cysylltu â gwasanaethau hanfodol, a chyflawni trafodion ariannol a thrafodion dyddiol eraill.

Gall tywydd garw fel stormydd, llifogydd, a gwres eithafol effeithio ar y rhwydweithiau a ddefnyddir gan ein gwasanaethau ffôn a band eang, gan achosi toriadau pŵer a  gwasanaeth. Gall gwres a llifogydd eithafol ddifrodi mastiau symudol a rhwydweithiau band eang, a gall ceblau rhyngrwyd a ffôn o dan y môr gael eu difrodi.

Communication Outage_Severe weather tips CYM

Hefyd gall effaith tywydd garw ar wasanaethau ffôn a band eang amrywio gan ddibynnu ar ble rydych chi'n byw, gyda mwy o debygolrwydd y bydd ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio. 

  Sut i baratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd garw:


Mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ffôn a band eang gymryd camau i sicrhau ein bod yn gallu dibynnu arnynt, gan gynnwys yn ystod tywydd garw. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddant yn gwneud hyn, mae'n bosibl y bydd eu rhwydweithiau’n dal i gael eu heffeithio gan y tywydd garw. Mae pethau y gallwch eu gwneud i baratoi ar gyfer tywydd garw ac argyfyngau cysylltiedig eraill, p’un a ydych yn gwsmer domestig neu’n fusnesau bach a chanolig.

Gwnewch yn siŵr bod digon o bŵer yn eich dyfeisiau: Gwifrwch eich dyfeisiau cyn unrhyw gyfnod o dywydd eithafol y bydd y Swyddfa Dywydd (Met Office) yn ein rhybuddio amdano. Mae banc pŵer batri yn gallu ailwefru'ch dyfeisiau os bydd y tywydd garw yn parhau am amser hir.

Gwnewch yn siŵr bod gan ddyfeisiau talu-wrth-ddefnyddio gredyd: Os oes gennych ddyfeisiau talu-wrth-ddefnyddio (pay as you go), gwiriwch fod digon o gredyd arnynt er mwyn gwneud galwadau ac anfon negeseuon. Mae ffonio 999 neu 112 bob amser yn rhad ac am ddim a bydd yn gweithio hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd.

Sefydlu cysylltiadau argyfwng brys a galluogi nodweddion diogelwch ac argyfwng ar ffonau: Ychwanegwch "gysylltiadau ar gyfer argyfwng" (ICE) y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd ar eich ffôn. Galluogwch unrhyw nodweddion diogelwch ac argyfwng, fel y nodwedd 'diogelwch personol’ ar Android a'r ap Health ar iOS. Mae'r rhain yn caniatáu i wasanaethau brys ac ymatebwyr cyntaf i weld gwybodaeth bwysig yn gyflym a chysylltu â'ch cysylltiadau brys heb ddatgloi'ch ffôn.

Nodwch rifau ffôn pwysig: Lluniwch restr bapur o rifau ffôn pwysig, gan gynnwys darparwyr cyfleustodau a'ch darparwyr gwasanaeth band eang a ffôn symudol, a’i chadw mewn lle diogel a hawdd ei gofio.

Gwiriwch gyngor eich cyngor lleol: Gallai eich cyngor lleol ddarparu gwybodaeth gyswllt ar gyfer gwasanaethau a chyfleustodau yn eich ardal yn ystod argyfwng. Edrychwch ar eu gwefan a nodwch gyngor a gwybodaeth gyswllt bwysig. Gallwch ddod o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan llywodraeth y DU.

Gallai eich cyngor lleol hefyd ddarparu gwybodaeth am leoedd cyhoeddus, fel llyfrgelloedd neu ganolfannau cymunedol, a all gynnig cymorth i wefru dyfeisiau a chefnogaeth ychwanegol.

Lluniwch gynllun argyfwng gyda ffrindiau a theulu a cheisiwch gymorth gan gymdogion: Cynlluniwch gyda'ch ffrindiau a'ch teulu ar sut i gadw mewn cysylltiad os bydd toriadau yn y cyflenwad. Er enghraifft, cytunwch i ymweld â pherthnasau oedrannus os yw'n ddiogel gwneud hynny, yn enwedig os nad ydych wedi clywed ganddynt ers peth amser.

Mewn sefyllfaoedd brys, efallai mai'ch cymdogion fydd orau i'ch helpu. Trafodwch gyda'ch cymdogion sut y gallwch gefnogi eich gilydd.

Defnyddiwch radio sy’n gweithio ar fatris,  troell-llaw neu  solar: Bydd radios AM/FM/DAB yn eich helpu i dderbyn rhybuddion tywydd, diweddariadau newyddion a gwybodaeth gan eich awdurdod lleol neu Lywodraeth y DU. Gall gwybodaeth gael ei darparu hefyd drwy system rhybuddio brys Llywodraeth y DU os oes rhwydweithiau symudol ar gael.

Ystyriwch ddefnyddio datrysiad pŵer wrth gefn (batri) ar gyfer eich gwasanaethau band eang cartref: Ni fydd gwasanaethau band eang eich cartref, gan gynnwys unrhyw linell dir digidol, yn gweithio yn ystod toriad pŵer os nad oes gennych ffynhonnell ychwanegol o bŵer.

Dywedwch wrth eich darparwr os ydych yn dibynnu ar eich llinell dir ac nad oes gennych ffôn symudol neu signal symudol dibynadwy. Mae angen trydan prif gyflenwad ar linellau tir digidol i weithio ac ni fyddant yn gweithio mewn toriad pŵer oni bai bod gennych system batri wrth gefn.

Os ydych chi'n dibynnu ar eich llinell dir, rhaid i'ch darparwr sicrhau eich bod yn gallu cysylltu â'r gwasanaethau brys yn ystod toriad pŵer. Os nad oes gennych ffôn symudol sy'n gweithio neu signal symudol dibynadwy, rhaid i'ch darparwr llinell dir gynnig datrysiad wrth gefn i chi yn rhad ac am ddim, fel uned batri wrth gefn. Rhaid i'r system wrth gefn bara am o leiaf awr mewn toriad pŵer, ond mae gan rai darparwyr systemau wrth gefn sy'n para hyd at saith awr.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae ffôn symudol yn ddewis ymarferol arall os bydd y pŵer yn diffodd. Hyd yn oed os nad oes gennych signal ar eich rhwydwaith symudol arferol, bydd ffonio 999 yn cysylltu’n awtomatig trwy rwydwaith arall os oes un ar gael.

Os nad ydych yn gymwys i gael datrysiad wrth gefn am ddim, gallwch brynu un gan eich darparwr neu fanwerthwr arall.

Dywedwch wrth eich darparwr ffôn a band eang os ydych chi'n agored i niwed: Os ydych chi'n gwsmer sy’n agored i niwed (er enghraifft, person hŷn neu berson ag anghenion ychwanegol) a bod eich darparwr ffôn a band eang yn ymwybodol o hyn, dylent ddarparu cymorth ychwanegol.

Defnyddwyr teleofal: Os ydych chi'n defnyddio dyfais teleofal, cysylltwch â'ch darparwr ffôn a band eang er mwyn i chi gael y cymorth cywir.

Ystyriwch gael aelodau o'ch cartref i danysgrifio i wahanol ddarparwyr: Gall tywydd garw effeithio ar rwydweithiau symudol gwahanol mewn ffyrdd gwahanol. Trwy gael mynediad at nifer o ddarparwyr o fewn cartref mae mwy o siawns y gall o leiaf un gwasanaeth fod ar gael. Gallech hefyd ddefnyddio eSIM os bydd eich ffôn yn ei gefnogi, er mwyn cael mynediad at ddau ddarparwr ar un ddyfais. Byddwch yn ymwybodol bod cael sawl darparwr fel unigolyn ac fel cartref yn gallu golygu cost ychwanegol.

Os yw'ch band eang yn methu’n aml, efallai yr hoffech ystyried rhyngrwyd lloeren fel opsiwn wrth gefn, yn enwedig os ydych yn byw mewn ardal wledig neu anghysbell.

Edrychwch ar wefan eich llywodraeth: Mae rhagor o wybodaeth am sut i baratoi ar gyfer argyfyngau wedi'i datblygu gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Llywodraeth Gogledd Iwerddon.

Llywodraeth Cymru: https://www.gov.wales/how-prepare-emergencies

Llywodraeth y DU: https://prepare.campaign.gov.uk/ 

Llywodraeth yr Alban: https://ready.campaign.gov.scot/ 

Llywodraeth Gogledd Iwerddon: https://www.nidirect.gov.uk/campaigns/be-ready-emergencies 

  Beth i'w wneud yn ystod digwyddiadau tywydd garw:


Cysylltu â'r gwasanaethau brys:
Os yw gwasanaeth eich darparwr symudol yn profi diffoddiad, byddwch yn gallu defnyddio rhwydwaith darparwr arall yn awtomatig i ffonio 999 neu 112 yn rhad ac am ddim. Dangosir hyn fel 'galwadau brys yn unig' ar Android neu 'SOS yn unig' ar iOS. 

Gall rhai dyfeisiau ffonau symudol ddefnyddio Emergency SOS (iOS) a Satellite SOS (Android) i gysylltu â'r gwasanaethau brys trwy loeren os nad oes rhwydweithiau symudol ar gael. 

Rhowch gynnig ar negeseuon testun os nad yw galwadau'n cysylltu: Os yw'ch ffôn yn dangos bod ganddo signal, ond nad yw'ch galwadau ffôn yn cysylltu, rhowch gynnig ar  anfon neges testun safonol (SMS). Gallwch droi hyn ymlaen yn awtomatig drwy ddewis 'ail-anfon yn awtomatig fel testun (SMS/MMS)' o fewn gosodiadau 'negeseuon Google' ar Android, neu o dan 'negeseuon' mewn gosodiadau iOS. Gall y negeseuon hyn fynd drwodd hyd yn oed os yw'r rhwydwaith symudol yn hynod o brysur. Trwy ddefnyddio negeseuon testun, byddwch hefyd yn helpu i leihau'r pwysau ar y rhwydwaith symudol. Gall costau fod yn berthnasol ar gyfer negeseuon testun safonol.

Arhoswch am 20 eiliad rhwng pob ymgais i ffonio: Efallai y bydd y rhwydweithiau symudol yn brysur iawn ac yn methu cysylltu galwadau ffôn. Gall ffonio sawl gwaith mewn cyfnod byr o amser gynyddu'r pwysau ar y rhwydwaith. Trwy aros rhwng ymdrechion, mae'n fwy tebygol y bydd eich galwad yn cysylltu.

Defnyddiwch alwadau Wi-Fi a gwasanaethau negeseuon rhyngrwyd:  Trowch alwadau Wi-Fi ymlaen yn osodiadau eich dyfais symudol i ganiatáu galwadau dros eich cysylltiad band eang os nad yw'ch rhwydwaith symudol ar gael. Mae gwasanaethau negeseuon yn caniatáu ichi wneud a derbyn galwadau a negeseuon dros eich cysylltiad band eang. Mae’r rhain yn cynnwys WhatsApp, Messenger, iMessage a Signal.

Ceisiwch arbed batri eich dyfais symudol: Ceisiwch arbed pŵer batri eich ffôn cymaint â phosibl fel y gellir ei ddefnyddio mewn argyfwng. I wneud hyn, gallwch wneud pethau syml fel gostwng disgleirdeb y sgrin a throi modd arbed batri ymlaen. Gellir dod o hyd i fwy o gyngor arbed batri ar wefan Google Android a gwefan Apple iOS.

 

  Beth i'w wneud os oes gennych broblem a achosir
  gan ddigwyddiadau tywydd garw:


Rhowch wybod am doriadau i'ch darparwr:
Os nad yw'ch gwasanaeth ffôn symudol, band eang neu linell dir ar gael yn dilyn tywydd garw, rhowch wybod i'ch darparwr os gallwch. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw namau’n cael eu trwsio cyn gynted â phosibl. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig sawl ffordd i gysylltu â nhw gan gynnwys dros y ffôn, ar-lein, drwy gyfleuster 'sgwrsio byw' neu ap gwasanaeth. 

Gwiriwch a oes gennych hawl i iawndal: Os yw'ch darparwr wedi cofrestru i gynllun iawndal awtomatig Ofcom, ac nad yw eich band eang neu linell dir wedi'i thrwsio o fewn dau ddiwrnod gwaith, efallai y bydd gennych hawl i iawndal.

Os nad yw'ch darparwr wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, neu os ydych chi'n cael problemau gyda'ch gwasanaeth ffôn symudol, efallai y bydd gennych hawl i iawndal o hyd.

Os ydych chi'n anhapus â pha mor hir y mae'n ei gymryd i'ch gwasanaeth gael ei drwsio, dilynwch weithdrefn gwyno ffurfiol eich darparwr. Dylid esbonio hyn ar eu gwefan neu gan eu tîm gwasanaeth cwsmeriaid.