Newid darparwr
A ddylai eich busnes newid ei ddarparwr telathrebu?
Efallai eich bod wedi dod o hyd i gytundeb gwell, ond rydych chi'n poeni am unrhyw doriadau i'r gwasanaeth o ganlyniad i newid. Gallai newid darparwr nid yn unig arbed arian i chi ond gallai ganiatáu i'ch busnes fanteisio ar ddyfeisiau a thechnoleg mwy newydd.
Mae Ofcom yn gweithio i sicrhau bod busnesau'n gallu manteisio ar gystadleuaeth yn y farchnad a newid darparwr mor hwylus â phosib a gyda'r aflonyddwch lleiaf.
Gallai newid darparwr nid yn unig arbed arian i chi ond hefyd caniatáu i'ch busnes fanteisio ar ddyfeisiau mwy diweddar, neu uwchraddiadau technoleg.
Fodd bynnag, os ydych chi'n ystyried newid, dyma rai pethau pwysig i'w hystyried yn gyntaf:
- Gwiriwch faint o amser sy'n weddill gennych ar eich contract presennol. Efallai y bydd angen i chi dalu tâl - a elwir yn 'dâl terfynu cynnar' - i adael yn ystod isafswm cyfnod y contract.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr hyn rydych chi'n ymrwymo iddo a gwiriwch y telerau'n ofalus. Os ydych yn ansicr ynghylch manylion yr hyn sy'n cael ei gynnig i chi, gofynnwch am eglurhad gan y darparwr cyn ymrwymo.
Cliciwch y dolenni isod i ddarganfod beth i'w ddisgwyl wrth newid pob math gwahanol o wasanaeth:
Nodwch fod yr wybodaeth hon yn esbonio'r broses newid ar gyfer gwasanaethau safonol i fusnesau sydd â deg gweithiwr neu lai. I fusnesau gyda gwasanaethau safonol sydd â mwy na deg o weithwyr, mae'n debygol y bydd eich darparwr hefyd yn dilyn y prosesau hyn. I'r rhai sydd â gwasanaethau mwy cymhleth, efallai y bydd y prosesau'n wahanol. Dylech siarad â'ch darparwr newydd am fwy o fanylion.
O 3 Ebrill 2023 ymlaen, bydd angen i ddarparwyr sy’n gwasanaethu’r farchnad sicrhau bod eu cwsmeriaid yn gallu newid gan ddefnyddio proses dan arweiniad y darparwr. Os yw eich darparwr ar rwydwaith Openreach, bydd yn parhau i weithredu’r prosesau newid presennol a nodir isod nes byddant yn cael eu disodli. Os oes gan eich darparwr rwydwaith gwahanol, dylai roi’r opsiwn i chi reoli’r newid ar eich rhan.
Mae'n rhaid i'ch darparwr presennol beidio â'ch atal rhag newid neu wrthod gadael i chi newid. Efallai y bydd taliadau dros ben ar eich cyfrif yn ymwneud â thaliadau gwasanaeth neu daliadau ychwanegol eraill, a dylech setlo'r rhain gyda'ch darparwr presennol cyn gadael.
I bob busnes, dull posib arall o dorri costau neu wella gwasanaethau yw ffonio eich darparwr presennol a gofyn iddynt roi bargen well i chi - efallai y bydd rhai darparwyr yn barod i gynnig prisiau is a/neu ychwanegu buddion os byddwch yn gwneud hyn. Mae'n bwysig cofio efallai y byddwch yn cael eich rhwymo i gontract newydd hyd yn oed os nad ydych ond yn ychwanegu gwasanaethau - felly edrychwch ar isafswm cyfnod contract unrhyw gytundeb newydd a gynigir i chi gan eich darparwr presennol.
O 15 Chwefror 2020 ymlaen, mae’n rhaid i gwsmeriaid band eang, ffôn a theledu drwy dalu gael gwybod am gynigion gorau eu darparwr pan fydd eu contract cychwynnol yn dod i ben, a bob blwyddyn ar ôl hynny os byddant yn parhau i fod allan o gontract.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hysbysiadau hyn, gweler ein cyhoeddiad diweddaraf.