Sut i gael y gorau o’ch band eang


Gallai fod modd i chi gael band eang sy'n gyflymach ac yn rhatach na'ch cytundeb bresennol.

Mae’n bosib y gallai miliynau o gwsmeriaid band eang gael gwasanaeth cyflymach neu becyn rhatach na'r un sydd ganddynt ar hyn o bryd.

Rydym am roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i siarad â'ch darparwr a chael gwybod a ydych yn cael y pecyn gorau ar gyfer eich anghenion.

Mae band eang cyflym iawn ar gael i fwy na naw o bob deg o safleoedd yn y DU, ond rydym am helpu mwy o bobl i fanteisio ar wasanaethau cyflymach.

Dysgwch a allwch chi gael mwy allan o'ch band eang drwy wirio pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal.

1. Gwiriwch eich band eang

Mae miliynau o gwsmeriaid band eang wedi cwblhau eu cyfnod contract cychwynnol ac yn talu mwy na’r hyn sydd ei angen. Gallech chi fod yn un ohonynt.

Y newyddion da yw y gallech chi gael pecyn rhatach drwy siarad â'ch darparwr, neu siopa o gwmpas. Gallech chi gael gwasanaeth cyflymach hefyd.

Gwiriwch argaeledd band eang

Rhowch eich cod post i weld beth ydy argaeledd band eang yn eich ardal.


2. Darganfod pa gyflymder band eang sydd ei angen arnoch

Rydyn ni i gyd yn defnyddio ein band eang yn wahanol. Gallwch gael gwybod yma beth i gadw allan amdano er mwyn cael y band eang sy’n addas i’ch anghenion.

Y porwyr pwyllog

"Dydw i ddim yn defnyddio llawer ar y rhyngrwyd, felly'r cyfan ydw i ei eisiau yw gwasanaeth dibynadwy am bris da."
Sbidomedr band eang yn pwyntio i 10 Megadid yr eiliad. Mae’r cyflymder hwn yn dderbyniol ar gyfer pori sylfaenol ar ddyfeisiau pen desg, llechen a symudol.

Rydych chi’n defnyddio’ch band eang i ddilyn y newyddion, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu ac i wneud rhywfaint o siopa ar-lein.

Y ffrydwyr ffenomenaidd

"Rwy’n mynd yn rhwystredig pan fydd fy ngwasanaeth ffrydio teledu yn byffro neu rwy’n colli’r cysylltiad."
Sbidomedr band eang yn pwyntio i 30 Megadid yr eiliad. Mae’r cyflymder hwn yn dderbyniol ar gyfer pori’r we a ffrydio cerddoriaeth a chynnwys fideo.

Rydych chi’n defnyddio’ch band eang ar gyfer yr holl bethau sylfaenol, yn ogystal â gwylio rhaglenni teledu a ffilmiau ac i wrando ar gerddoriaeth.

Yr aelwyd sy’n llyncu data

"Mae ein hanghenion band eang yn gorfod ymdopi gyda llawer ohonon ni ar-lein ar yr un pryd -i sicrhau nad ydyn ni’n colli’r cysylltiad."
Sbidomedr band eang yn pwyntio i 300 Megadid yr eiliad. Mae’r cyflymder hwn yn dderbyniol ar gyfer pob angen band eang, fel pori, ffrydio, chwarae gemau – i gyd ar yr un pryd.

Aelwyd cyfan sy’n defnyddio band eang trwy gydol y dydd ar gyfer pethau fel gweithio ar-lein, ffrydio, chwarae gemau, gwneud galwadau fideo neu uwchlwytho.


3. Defnyddiwch ein hawgrymiadau i gael y bargeinion gorau

Nawr rydych chi'n barod i brynu band eang yn hyderus. Gallwch chi siarad â'ch darparwr a siopa o gwmpas i ddod o hyd i'r fargen orau i chi.

Mae llawer o fargeinion ar gael, ac mae’n gallu bod yn anodd i ddewis yr un cywir. Os ydych chi'n siarad â'ch darparwr presennol neu'n siopa o gwmpas, dyma restr o bethau i'w gwirio.

Cwestiynau i ofyn i’ch darparwr band eang

  • Ydw i yn fy nghyfnod contract cychwynnol o hyd?
  • Faint ydw i’n talu?
  • Beth ydw i’n cael am y pris hwnnw?
  • Pa mor gyflym dylai fy mand eang fod i wneud y pethau dwi eisiau?
  • A alla i gael gwasanaeth cyflymach, a faint fydd hynny’n costio?
  • Am ba mor hir y mae’r contract hwnnw?
  • Oes unrhyw ffioedd cysylltu gyda chytundeb newydd?
  • Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod contract cychwynnol?

Pan fydd gennych chi’r wybodaeth sydd ei hangen, gallwch chi benderfynu:

  1. uwchraddio i wasanaeth cyflymach
  2. aros gyda’r un gwasanaeth cyflymder, ond ymrwymo i gytundeb newydd gyda’ch darparwr
  3. newid i gytundeb newydd gyda darparwr newydd
  4. aros gyda’r cytundeb sydd gennych

Oes angen mwy o help arnoch?

Os nad ydych yn fodlon ar beth mae eich darparwr presennol yn ei gynnig, gallwch chi siopa o gwmpas am fargen sy’n addas i chi.

Gallech chi ddefnyddio gwefan cymharu prisiau i wirio’r bargeinion gwahanol a gynigir. Mae Ofcom yn achredu nifer o wefannau cymharu i sicrhau eu bod yn gywir, yn hygyrch, yn dryloyw ac yn ddiweddar.

Os oes angen unrhyw gymorth neu gyngor pellach arnoch, gallwch chi gysylltu ag Ofcom ar 0300 123 3333.

Ffyrdd eraill o wella eich band eang

Mae’n gallu achosi rhwystredigaeth pan na allwch fynd ar-lein. Ond hyd yn oed os na allwch chi newid y cytundeb rydych yn rhwym iddo, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch band eang:

  • Gwirio am ymyriad gyda dyfeisiau eraill neu ar eich llinell dir
  • Gwirio bod eich llwybrydd wedi’i gysylltu’n iawn
  • Siarad â’ch darparwr am uwchraddio’ch llwybrydd
  • Sicrhau bod eich band eang wedi’i ddiogelu â chyfrinair fel nad oes neb arall yn ei ddefnyddio heb ganiatâd
  • Siarad â’ch darparwr band eang am eich problemau – mae’n bosib y bydd angen ymweliad gan beiriannydd i’w drwsio.

Sut i gwyno am eich band eang

Os ydych chi eisiau cwyno am eich band eang, cysylltwch â’ch darparwr. Dylen nhw gynnig camau ymarferol i chi i helpu cywiro problem, neu efallai y byddant yn anfon cyfarpar newydd neu beiriannydd.

Mae cod ymarfer cyflymderau band eang Ofcom yn golygu hefyd bod gennych chi’r hawl i ymadael â’ch contract heb gael eich cosbi os bydd eich darparwr yn methu â darparu’r isafswm cyflymder a addawyd wrth i chi ymrwymo i’r contract.

Os bydd eich darparwr yn methu â thrwsio nam erbyn y dyddiad a addawyd, neu os ydych chi’n anfodlon â'r amser mae’n ei gymryd, dilynwch weithdrefn gwyno ffurfiol eich darparwr. Dylai gwefan y darparwr neu’r tîm gwasanaeth i gwsmeriaid egluro hyn.

Os bydd eich problem yn dal heb ei datrys ar ôl wyth wythnos, gallwch chi gwyno wrth gynllun Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) annibynnol. Gofynnwch i’ch darparwr am lythyr ‘sefyllfa ddiddatrys’ er mwyn i chi allu cyfeirio eich anghydfod at y cynllun Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod perthnasol yn uniongyrchol cyn y terfyn wyth wythnos.

Mae Ofcom wedi cymeradwyo dau gynllun ADR: CISASGwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebiadau.

Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein gwiriwr Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod.