Cyhoeddwyd:
4 Chwefror 2014
Diweddarwyd diwethaf:
2 Ebrill 2026
Cafodd yr astudiaeth, Y Cyfryngau ym Mywyd Oedolion, ei chreu gan Ofcom yn 2005. Mae hon yn astudiaeth ansoddol gyfoethog a manwl ar raddfa fach sy’n ategu arolygon meintiol Ofcom o lythrennedd yn y cyfryngau. Mae’r prosiect yn dilyn yr un 19 unigolyn dros gyfnod ac yn cyfweld â nhw ar gamera bob blwyddyn i drafod eu harferion a'u hagweddau yng nghyswllt cyfryngau.