Cynlluniau newydd ar gyfer newid darparwr band eang yn ddi-dor
Byddai cwsmeriaid band eang a ffonau preswyl yn elwa o broses newid darparwr sy’n fwy cyflym, syml a dibynadwy, o dan gynlluniau Ofcom i gyflwyno proses ‘un cam’ newydd.
Yn dilyn newid rheol Ofcom yn 2015, gall cwsmeriaid sy'n newid rhwng darparwyr fel BT, Sky a TalkTalk ar rwydwaith copr Openreach eisoes ddilyn proses lle mae eu darparwr newydd yn rheoli'r newid. Ond mae eraill yn dal i wynebu trafferth ychwanegol wrth newid.
Ar hyn o bryd, mae angen i gwsmeriaid sy'n newid rhwng gwahanol rwydweithiau neu dechnolegau – er enghraifft, o ddarparwr sy'n defnyddio'r rhwydwaith Openreach i un sy'n defnyddio CityFibre, neu o Virgin Media i Hyperoptic – gysylltu â'u darparwr presennol a’r un newydd i gydlynu'r newid. Mae hyn yn cynnwys ceisio sicrhau nad oes bwlch rhwng diwedd yr hen wasanaeth a dechrau’r un newydd.
Mae ymchwil newydd Ofcom yn dangos bod pedwar o bob deg o bobl sy'n penderfynu peidio â newid yn cael eu hannog rhag gwneud gan y drafferth o orfod cysylltu â mwy nag un darparwr. Mae nifer tebyg yn oedi newid gan iddynt gredu y bydd yn cymryd gormod o amser. Ac o'r rhai sy'n newid, mae bron i chwarter sy'n cysylltu â'u darparwr presennol yn wynebu ymdrechion dieisiau i'w darbwyllo i aros.
Ym mis Hydref 2020, rhoesom reolau newydd ar waith gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr band eang newydd arwain y gwaith o reoli'r newid, ni waeth p'un a yw'r cwsmer yn symud rhwng gwahanol rwydweithiau ai beidio, neu i wasanaeth ffeibr llawn ar yr un rhwydwaith.[2]
Byddai'r broses 'un cam’ newydd yn ei wneud yn haws i bob cwsmer band eang preswyl fanteisio ar yr amrywiaeth o fargeinion sydd ar gael yn y farchnad. Bydd ein newidiadau hefyd yn ei wneud yn gyflymach i newid – ymhen cyn lleied ag un diwrnod os yw'n dechnegol bosib.
Mae hyn yn dilyn rheolau newydd a gyflwynwyd yn 2019 sy'n galluogi cwsmeriaid symudol i newid gweithredwr drwy anfon neges destun am ddim yn unig.
Sut y byddai’r broses newid “un cam” newydd yn gweithio
Rydym wedi ystyried gwahanol opsiynau, a gynigir gan ddiwydiant, ar sut y dylid gweithredu'r rheolau newydd hyn. Ein dewis ddull yw cyflwyno proses newid 'un cam’ newydd ar gyfer pob cwsmer llinell dir a band eang preswyl.
O dan y broses hon:
- byddai cwsmer yn cysylltu â'r darparwr newydd o'i ddewis ac yn rhoi ei fanylion.
- byddai'r cwsmer wedyn yn derbyn gwybodaeth bwysig yn awtomatig gan ei ddarparwr presennol, yn cynnwys unrhyw daliadau terfynu contract cynnar y gallai fod yn rhaid iddynt eu talu, a sut y gallai'r newid effeithio ar wasanaethau eraill sydd gan y cwsmer gyda'r cwmni; ac
- os yw'r cwsmer am fynd yn ei flaen, byddai'r darparwr newydd wedyn yn rheoli'r newid.


Mae llawer o wahanol gynigion ar gael gan ystod eang o ddarparwyr band eang a llinell dir. Ac rydym am ei wneud hyd yn oed yn haws i bobl gael gwell bargen neu uwchraddio i wasanaeth cyflymach a mwy dibynadwy.
Rydyn ni'n gwybod y gall rhai cwsmeriaid gael eu hannog rhag newid gan y drafferth o orfod delio â mwy nag un darparwr yn y broses. Felly, nod ein cynigion heddiw yw gwneud y broses mor ddi-dor â phosibl i bawb.
Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom
Camau nesaf
Rydym yn ymgynghori ar y cynigion heddiw tan 31 Mawrth 2021, ac yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad yn yr haf. Bydd angen i ddarparwyr wneud newidiadau sylweddol i'w systemau a'u prosesau. Mae hyn yn golygu bydd y rheolau newydd yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2022.
- Cyflwynwyd dau ddewis gan y diwydiant – proses 'Newid Un Cam’ (ein dewis ddull gweithredu), a phroses 'Cod i Newid':

