Popeth sydd angen i chi wybod am radio cymunedol; o bwy sy'#n gallu dal trwydded, i sut mae gwneud cais.
Mae gorsafoedd radio cymunedol fel rheol yn gwasanaethu ardal ddaearyddol fach gyda radiws darpariaeth o hyd at 5km ac sy’n rhedeg ar sail ddi-elw. Maent yn gallu darparu ar gyfer cymunedau cyfan neu feysydd diddordeb gwahanol – megis grŵp ethnig, grŵp oedran neu grŵp diddordeb penodol.
Mae gorsafoedd radio cymunedol yn adlewyrchu cymysgedd amrywiol o ddiwylliannau a diddordebau. Er enghraifft, gallwch chi wrando ar orsafoedd sy'n cynnig cerddoriaeth drefol neu arbrofol, ac mae eraill wedi'u hanelu at bobl iau, cymunedau crefyddol neu'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
Bydd rhaglenni gorsaf radio cymunedol yn adlewyrchu anghenion a diddordebau ei chynulleidfa. Ond yn hytrach na 'llefaru wrth' ei chymuned, fe ddylai'r orsaf fod yn rhan ganolog ohoni. Mae hynny'n golygu creu cysylltiadau uniongyrchol â'i gwrandawyr, cynnig cyfleoedd hyfforddi a gwneud yn siŵr bod aelodau o'r gymuned yn gallu cyfrannu at y gwaith o redeg yr orsaf.
Mae gorsafoedd cymunedol fel arfer yn darparu 90 awr o allbwn gwreiddiol ac unigryw bob wythnos, gyda rhan helaeth ohono wedi'i chynhyrchu'n lleol. Ar gyfartaledd, mae gorsafoedd yn gweithredu gyda 79 o wirfoddolwyr, sydd at ei gilydd yn rhoi tua 186 awr o'u hamser bob wythnos.
Does gan unigolion ddim hawl i ddal trwydded. Dim ond i gwmnïau cofrestredig (neu gyrff cyfatebol megis y rheini a grëwyd gan statud) rydyn ni'n cynnig trwyddedau iddynt. Ni all cwmni neu sefydliad ddal mwy nag un drwydded radio cymunedol. Mae cyfyngiadau ar berchnogaeth rhwng radio masnachol a radio cymunedol hefyd.
Mae'n golygu nad oes modd rhoi unrhyw elw a gynhyrchir gan yr orsaf radio cymunedol i randdeiliaid, er enghraifft, na'i ddefnyddio i roi budd i'r bobl sy'n rhedeg y gwasanaeth. Serch hynny, nid yw'r gofyniad hwn yn atal gorsafoedd rhag talu staff. Mae'n rhaid defnyddio unrhyw elw neu arian dros ben i sicrhau neu wella darpariaeth y gwasanaeth radio yn y dyfodol, neu i sicrhau manteision cymdeithasol / buddiant cymunedol ar gyfer cymuned darged yr orsaf.
Gall pob gorsaf gynnwys hysbysebion a nawdd, ond mae rheolau ynghylch faint o incwm mae modd ei wneud o'r ffynonellau hyn (mae'n rhaid cydbwyso incwm dros £15,000 drwy hysbysebion a nawdd ag incwm ychwanegol o ffynonellau eraill). Mae nifer fach o orsafoedd cymunedol – lle maent yn gorgyffwrdd â gwasanaethau masnachol bach sydd â stiwdios nad ydynt wedi'u cyd-leoli â gorsafoedd eraill – yn gyfyngedig i uchafswm o £15,000 drwy hysbysebion a nawdd.
Dim ond fel rhan o gylch trwyddedu y gall Ofcom dderbyn ceisiadau am drwydded radio cymunedol, ac nid ar unrhyw adeg arall. Gan amlaf bydd Ofcom yn hysbysebu cylch trwyddedu ac yn gwahodd ceisiadau drwy gyhoeddi gwybodaeth ar ei wefan. Mae mwy o wybodaeth am y cylch trwyddedu diweddaraf i'w gweld isod.
I gael y newyddion diweddaraf am radio cymunedol, gan gynnwys hysbysiad pan fyddwn yn gwahodd ceisiadau, ynghyd â materion eraill sy'n ymwneud â darlledu, cofrestrwch ar gyfer ein diweddariadau darlledu dros e-bost
Cyhoeddodd Ofcom y cylch diweddaraf ym mis Ebrill 2011. Mae ceisiadau ar gyfer trwyddedau newydd yn agor fesul rhanbarth.
Dylai darpar ymgeiswyr nodi bod rhannau mawr o'r DU lle nad oes amleddau FM addas ar gael. Mae hyn mewn trefi a dinasoedd mawr yn bennaf.
| Dyddiad disgwyliedig ar gyfer gwahodd ceisiadau | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau | |
1 | Cymru a De-orllewin Lloegr | Dydd Gwener 1 Ebrill 2011 | Dydd Iau 21 Gorffennaf 2011 |
2 | Yr Alban | Dydd Mercher 16 Tachwedd 2011 | Dydd Mawrth 14 Chwefror 2012 |
3 | Gogledd Iwerddon | Dydd Mercher 14 Mawrth 2012 | Dydd Iau 7 Mehefin 2012 |
4 | Gogledd-ddwyrain Lloegr, Cumbria a Gogledd Swydd Efrog | Dydd Mawrth 2 Hydref 2012 | Dydd Mawrth 29 Ionawr 2013 |
5 | Gorllewin a De Swydd Efrog, Humberside a Gogledd-orllewin Lloegr | 26 Mehefin 2013 | 15 Hydref 2013 |
6 | Beilïaeth Guernsey | Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2013 | Dydd Mercher 26 Mawrth 2014 |
7 | Gorllewin Canolbarth Lloegr a Dwyrain Gorllewin Lloegr | Dydd Mawrth 1 Ebrill 2014 | Dydd Mawrth 24 Mehefin 2014 |
8 | Dwyrain Lloegr (gyda Swydd Northampton a Milton Keynes) | 24 Medi 2014 | 16 Rhagfyr 2014 |
9 | De-ddwyrain Lloegr (y tu allan i’r M25) | 30 Mehefin 2015 | Dydd Mawrth 20 Hydref 2015 |
10 | Llundain Fwyaf ac ardaloedd eraill o fewn yr M25 | 6 Gorffennaf 2016 | Dydd Mawrth 25 Hydref 2016 |
11 | Y band tonfedd ganolig (AM), ar gyfer lleoliadau unrhyw le yn y DU, ac eithrio Llundain ac ardaloedd o fewn yr M25 | 6 Gorffennaf 2016 | Dydd Mawrth 25 Hydref 2016 |
Bydd ceisiadau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio ar wefan Ofcom. Yn fuan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau, byddwn yn cyhoeddi nifer y ceisiadau a gafwyd, ac wedi hynny yn cyhoeddi, ar wefan Ofcom, pob rhan o'r ceisiadau a gafwyd ar wahân i'r rhannau hynny rydym yn cytuno i'w cadw'n gyfrinachol. Bydd y rhannau a gyhoeddir yn cynnwys enw(au), cyfeiriad(au) a rhif(au) ffôn yn ystod y dydd unigolion a enwebir i ddelio ag unrhyw ymholiadau gan y wasg neu'r cyhoedd ar ran yr ymgeisydd.
Mae'r trwyddedau ar gyfer pob rhanbarth yn cael eu dyfarnu mewn grwpiau ar sail dreigl. Os ceir nifer fawr o geisiadau ar gyfer unrhyw ranbarth, mae'r broses o ystyried pob cais yn debygol o gymryd sawl mis. Bydd gofyn i'r grwpiau llwyddiannus ddechrau darlledu cyn pen dwy flynedd ar ôl cael eu trwydded.
Bydd y drwydded yn para am hyd at bum mlynedd ar y tro. Gall trwyddedigion radio cymunedol wedyn wneud cais i Ofcom i ymestyn eu trwyddedau am ddau gyfnod arall, yn para hyd at bum mlynedd yr un.