Newidiadau danfon y Post Brenhinol


Diweddariad 11 Awst 2021 – cyfnod rheoleiddio brys

O ganlyniad i ddechrau’r pandemig coronafeirws (Covid-19) ym mis Mawrth 2020 dechreuwyd 'cyfnod rheoleiddio brys' o dan Ddeddf Gwasanaethau Post 2011. Mae'r amodau rheoleiddio sy'n ymwneud â'r gwasanaeth post cyffredinol yn darparu nad yw'n ofynnol i'r Post Brenhinol gynnal y gwasanaethau hyn heb amhariadau, atal dros dro, na chyfyngiadau os bydd argyfwng.

Trwy gydol y pandemig, rydym wedi monitro’n agos ei effeithiau ar y Post Brenhinol, gan gynnwys cyfraddau absenoldeb sy’n uwch na’r arfer a heriau gweithredol wrth gydymffurfio â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol. Bu i ni graffu ar berfformiad y Post Brenhinol a'r mesurau lliniaru a roddwyd ar waith i ddarparu gwasanaeth cystal ag y gallai i ddefnyddwyr post o dan yr amgylchiadau. Rydym yn croesawu'r perfformiad gwell o lawer dros y misoedd diwethaf, wrth i effeithiau Covid-19 gilio ac wrth i'r Post Brenhinol weithredu cynllun gwella.

O ystyried y gwelliannau hyn, ac yng ngoleuni'r gostyngiadau diweddar yn lefel y cyfyngiadau cyfreithiol ledled y DU, rydym o’r farn y dylid ystyried bod y cyfnod rheoleiddio brys yn dod i ben ar 31 Awst 2021. Yn unol â hynny, bydd trefniadau rheoleiddio arferol yn berthnasol o 1 Medi 2021. Bydd ein dull o fonitro cydymffurfiaeth yn parhau i fod yn bragmatig ac yn gymesur, gan ystyried unrhyw faterion perthnasol y tu hwnt i reolaeth y Post Brenhinol sy'n effeithio ar ei berfformiad, gan gynnwys unrhyw effeithiau parhaus o ganlyniad i’r pandemig.

Yn y cyfamser, fel y nodwyd yn ein Bwletin Cystadleuaeth a Gorfodi Defnyddwyr, rydym wedi adolygu perfformiad y Post Brenhinol yn erbyn ei dargedau ansawdd gwasanaeth yn ystod 2020/21 ac, yng ngoleuni effeithiau Covid-19 drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi penderfynu i beidio ag agor ymchwiliad.