Beth yw 'Eich tudalennau'?

11 Mehefin 2018

Mae 'Eich tudalennau' yn ffordd ddefnyddiol i gadw eich tudalennau pwysicaf ar wefan Ofcom mewn un lle -sy'n ei gwneud hi'n hawdd symud yn gyflym i'ch hoff dudalen o unrhyw fan ar y wefan.

Mae'r rhan fwyaf o'r tudalennau ar y wefan hon yn cynnwys botwm porffor wedi'u labelu'n 'Ychwanegu i 'Ch Tudalennau'. Os wnewch chi wasgu'r botwm hwn, cewch hyd i ddolen i dudalen sy'n cael ei hychwanegu i'r blwch 'Eich Tudalennau' ar frig pob tudalen ar y wefan. Gallwch ychwanegu hyd at 10 tudalen i 'Eich tudalennau'.

I ddileu tudalen, gwasgwch yr 'x' wrth ei ochr ar y rhestr 'Eich Tudalennau', neu ewch i'r dudalen honno a phwyso ar y botwm porffor eto.

Mae 'Eich tudalennau' yn defnyddio briwsion i gofio beth rydych chi wedi ei gadw. I ddefnyddio 'Eich tudalennau' bydd angen i chi sicrhau bod eich porwr yn caniatáu briwsion ac yn derbyn ein neges briwsion. Gallwch chi ddefnyddio yr un porwr ar gyfer eich ymweliad i weld yr un tudalennau sydd wedi eu harbed bob tro. Os ydych yn gwaredu eich briwsion porwr, byddwch yn colli popeth yn 'Eich Tudalennau'. (Ansicr o beth yw briwsion? Mae'r esboniad Saesneg hwn o'r ICO yn ddefnyddiol).

Rydym wedi cyflwyno'r nodwedd hon i'r wefan o ganlyniad i adborth gan ymwelwyr i'r wefan. Rydym yn parhau i gynnal profion ar y safle ac yn gofyn i ymwelwyr am adborth. Os hoffech chi gymryd rhan i'n helpu i wneud y wefan yn hwylus i ddefnyddwyr, anfonwch neges at y Tîm Digidol.