Ymgynghoriad: Cefnogi'r defnydd cynyddol o sbectrwm a rennir

  • Dechrau: 23 Tachwedd 2023
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 02 Chwefror 2024

Mae rhannu sbectrwm yn rhan allweddol o strategaeth Ofcom ar gyfer rheoli sbectrwm. Mae'r fframwaith Mynediad a Rennir yn darparu mecanwaith i gyrchu amleddau gydag ecosystemau offer symudol sefydledig neu ddatblygol, ar sail leol. Rydym wedi gweld diddordeb cynyddol yn y math hwn o fynediad dros y pedair blynedd diwethaf, gyda mwy na 1,500 o drwyddedau bellach wedi’u rhoi, a nifer o wledydd eraill yn mabwysiadu dulliau tebyg.

Yng ngoleuni’r galw hwn a’r twf a ragwelir yn y dyfodol, rydym bellach yn cynnig camau i wella’r cyflenwad sbectrwm sydd ar gael, yn enwedig yn y band 3.8-4.2 GHz poblogaidd. Rydym yn bwriadu gwneud hyn trwy lacio rhai rhagdybiaethau cydlynu penodol i adlewyrchu amodau'r byd go iawn, a thrwy ganiatáu mewnbwn ychwanegol gan ddefnyddwyr mewn penderfyniadau cydlynu. Rydym hefyd yn cynnig cefnogi defnyddiau ychwanegol drwy gynyddu lefel pŵer a ganiateir ein cynnyrch Pŵer Isel, a llacio rhai cyfyngiadau penodol ar gadw cofnodion o derfynellau ar gyfer y fath osodiadau Pŵer Isel dan do.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 50.8 KB) (Saesneg yn unig).


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Airspan (PDF File, 141.4 KB) Sefydliad
BBC (PDF File, 276.8 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 279.6 KB) Sefydliad
Cellnex (PDF File, 229.4 KB) Sefydliad
DECT Forum (PDF File, 138.5 KB) Sefydliad