Ymgynghoriad: Cynnig i wneud newidiadau i’r amodau sydd wedi’u cynnwys mewn trwyddedau Gwasanaethau Ychwanegol Teledu Digidol
- Dechrau: 21 Chwefror 2024
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 17 Ebrill 2024
Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi’r newidiadau y mae Ofcom yn cynnig eu gwneud i’r amodau sydd wedi’u cynnwys mewn trwyddedau Gwasanaethau Ychwanegol Teledu Digidol (‘DTAS’). Mae’r gwasanaethau hyn yn darlledu ar amlblecsau teledu daearol digidol ac fel arfer yn cynnwys gwasanaethau testun neu ddata.
Byddai rhai o’r amodau presennol sydd wedi’u cynnwys mewn trwyddedau Gwasanaethau Ychwanegol Teledu Digidol yn elwa o gael eu diweddaru. Mae hyn yn rhannol oherwydd y cynnydd diweddar mewn gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar y rhyngrwyd sydd ar gael i wylwyr yn y DU, lle mae defnyddio amodau presennol y drwydded yn arwain at ganlyniad a allai fod yn ddryslyd i wylwyr. Mae rhai newidiadau gweinyddol yr hoffem eu cyflwyno hefyd.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Everyone TV Ltd (PDF File, 115.6 KB) | Sefydliad |
Name withheld 1 (PDF File, 115.6 KB) | Ymateb |